Tramffordd Chwareli Treflan a Garreg-fawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Codwyd Tramffordd Chwareli Treflan a Garreg-fawr (dwy chwarel ar ochr Isgwyrfai i Afon Gwyrfai) er mwyn mynd â'u cynnyrch at y lôn a redai trwy Ddyffryn Gwyrfai ar ochr Uwchgwyrfai i'r afon. Croesodd yr afon ar bont sydd bellach wedi diflannu. Roedd y dramffordd hon yn bodoli cyn i lein Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru agor ym 1877. Roedd hi'n 1902, mae'n debyg, cyn yr ad-drefnwyd pen y dramffordd er mwyn cysylltu â seidin newydd a agorwyd oddi ar y brif lein, a hynny oherwydd pwysau gan gwmni newydd cloddfa garreg haearn, a rannai'r dramffordd. Cyn hynny, llwytho wagenni a safai ar y brif lein a wnaed yn ôl pob tebyg. Roedd gan y lein fawr a'r seidin yr un lled, sef 1'11 1/2".