Tramffordd Hafod-y-wern

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Tramffordd Hafod-y-wern yn cysylltu Gorsaf reilffordd Betws Garmon Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru â Chwarel Hafod-y-wern, er mwyn cludo'r llechi i'r gyffordd â Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin (LNWR) yng Nghyffordd Dinas. Roedd y dramffordd yn 820 llath o hyd.[1] Fe'i hagorwyd yr un adeg a'r brif lein, ym 1877. Dichon bod y chwarel hon, ynghyd â chwareli yn ardal Rhyd-ddu, wedi bod yn rhan o symbyliad agor y lein ond, ysywaeth, caeodd Chwarel Hafod-y-wern erbyn 1888.[2]

Oherwydd lefel isel y cynnyrch o'r chwarel, pan oedd y chwarel yn gweithio, anfonid tua 10 tunnell yr wythnos i lawr y dramffordd.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. ↑ Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.48.
  2. ↑ J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire, Cyf. 1, (Oakwood Press) 1988, t.194
  3. ↑ Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.349