Tramffordd Alexandra

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Rhedai Tramffordd Alexandra o ben yr inclein a gysylltai'r chwareli ar lethrau Moel Tryfan â Changen Bryngwyn o Reilffyrdd Cul Gogledd Cymru, gan gynnig dull hwylus ac economaidd o symud y llechi ar eu ffordd at y lein fawr yng Gorsaf reilffordd Dinas. Fe'i hagorwyd tua 1881.

O ben yr inclein, sef y "Drumhead", dringodd y lein tua 350' (dros 100 metr) yn ystod milltir a hanner. Bu angen cryn waith adeiladu i greu'r lein gyda sawl cytin a chlawdd ar hyd ei lwybr troellog er mwyn cyrraedd y chwarel. Defnyddid hen gledrau mewn mannau a gafwyd gan leiniau eraill, yn cynnwys Rheilffordd Nantlle.[1] Defnyddid injans stêm o 1914 (os nad cyn hynny) i dynnu'r wagenni o'r chwarel i ben yr inclein.[2]

Cyfeiriadau

  1. J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (Oakwood, 1988), t.203-4
  2. J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), t.229-30