Tramffyrdd Chwareli Tan-y-graig a Thyddyn Hywel

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Tramffyrdd Tan-y-graig a Thyddyn Hywel yn cludo cynnyrch chwareli ithfaen Tan-y-graig a Thyddyn Hywel i lawr at y môr lle gellid llwytho'r cynnyrch ar longau. Roedd hyn yn golygu cael dwy bont dan y lôn bost, sydd yn dal i'w gweld heddiw. Roedd y chwareli hyn ar ochr Mynydd Tan-y-graig a'r Gurn Ddu i'r gogledd o Drefor, a newidiwyd y systemau o symud y graig sawl gwaith rhwng 1879 a 1931. Erbyn blynyddoedd cynnar yr 20g, roedd cledrau tramffyrdd y tair chwarel wedi eu huno, a phrynwyd injan stêm Bagnall ym 1900 i weithio ar ddarn o'r lein ger Bodgefail. Roedd y tramffyrdd hyn yn eiddo i'r chwareli ac fe'u cyfrifid yn rhan o gyfarpar y chwareli. Cyn hynny, dynion a cheffylau oedd wedi symud y wagenni. Roedd angen nifer o incléins o'r chwareli i gyrraedd y môr, a bu cyfnodau pan ddefnyddid rhaffau awyr yn lle cledrau i gyrraedd y ddau gei.

Trwy gydol eu hoes, defnyddid lled cyffredin chwareli'r sir rhwng y cledrau, sef 2'0".