Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon oedd yr enw mawreddog a roddwyd i'r lein 3' 6" o led a redai o gyffordd â lein Rheilffordd Nantlle ger Pant Du ar draws y dyffryn i gyfeiriad Tan'rallt, gan wasanaethu Chwarel Tan'rallt, Chwarel Fronheulog a rhai chwareli bychain eraill. Agorodd y lein ym 1853 gan gwmni'r chwarel i gysylltu'r chwarel â Rheilffordd Nantlle ger Pant Du. Y gost oedd bron i £450 a dewisodd y cwmni'r un lled rhwng y cledrau â Rheilffordd Nantlle, sef 3'6", er i'r chwarel ddefnyddio'r lled culach o 2'0" yn nes ymlaen yn nhyllau'r chwarel ei hun. Roedd gan y chwarel ei wagenni a'i cheffylau ei hun, a gellid eu tynnu'r holl ffordd at y cei yng Nghaernarfon yn y dyddiau cynnar. Defnyddid y dramffordd at yr un perwyl gan Chwarel Fronheulog o 1866 hyd 1879; ac yr oedd cangen i Chwarel Tyddyn Agnes a Chwarel Taldrwst Isaf. Wedi i'r lein fawr ledu hen Reilffordd Nantlle, gwnaed seidin, sef Seidin Tan'rallt, lle gellid trawslwytho llechi o wagenni 3'6" i rai mwy a redai ar y lein fawr, er bod y gwahanol chwareli a oedd yn ei defnyddio wedi trafod ei lledu i'r lled safonol (4'8 1/2"). Dichon i'r dramffordd gau tua 1915, er i'r chwarel weld cyfnodau segur pan nad oedd defnydd ar gyfer y dramffordd.[1]

Defnyddid ceffylau i lusgo'r wagenni ar hyd-ddi gydol oes y lein, a gaewyd tua 1915.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Rails in North Caernarvonshire, Cyf.1 (Oakwood, 1981), tt.89-91; 244-5.
  2. Alun John Richards, The Slate Railways of Wales, (Llanrwst, 2001), t.177.