Chwarel Fronheulog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi fechan oedd Fronheulog, (neu Fronlog fel y'i sillefir weithiau) ger Tan'rallt.(SH 489519).

Twll cymharol fychan oedd yno, a chredir i'r chwarel gael ei sefydlu gyntaf tua'r 1840au. Ar ôl cyfnod segur, fe'i hailagorwyd ym 1866 gan William Turner a'i gwmni, a 7 mlynedd yn ddiweddarach roedd 12 o ddynion yn gweithio yno. Ar ei chyfnod prysuraf, ffurfiwyd cwmni newydd, Cwmni Cyfyngedig Chwarel Lechi Fronheulog Newydd gan gynhyrchu 1,642 tunnell o lechi a chyflogi 98 o weithwyr ym 1882. Wedi hynny, tueddwyd i alw'r chwarel yn chwarel Fronheulog Newydd neu Fronlog Newydd, ac arferid hefyd sillafu enw'r chwarel efo'r llythyren 'V'. Arferai yrru'r llechi at y cwsmeriaid ar hyd tramffordd, sef Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon a gysylltai â changen Nantlle ger Pant Du.[1]

Fel nifer o chwareli eraill Dyffryn Nantlle, bu'n rhaid ei chau yn yr ugeinfed ganrif oherwydd y diffyg mewn galw am lechi. Fe'i caewyd erbyn 1914, ond roedd criw bychan yn cloddio yno o'r 1950au ymlaen ar gyfer llechi gwyrdd i greu teils a phafin crazy paving.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry’’, (Newton Abbot, 1974), t. 319.
  2. Dewi Tomos, Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)