Chwarel Tan'rallt

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi oedd Chwarel Tan'rallt, ger pentref Tan'rallt. (SH 491523).

Cafodd y chwarel hon ei hagor tua 1805, ac roedd gwaith achlysurol yn cael ei gyflawni yno oherwydd ei maint bychan. Roedd 40 o ddynion yn cloddio yno yn 1873, gyda hynny wedi cynyddu i 89 yn 1904 - nifer anarferol o uchel i'r cyfnod, yn ôl Dewi Tomos. Cafodd ei rhedeg ar y cyd gyda thwll/Chwarel Plas Du gerllaw, a gelwid y ddwy yn Dolbebin East and West. Fe'i cyfunwyd â chwmni Chwarel Tal-y-sarn am gyfnod yn y 1930au. Erbyn 1937-8, W.R. Morris a'i gwmni oedd yn gweithio'r chwarel, a bu'n gweithredu hyd at y 1970au.

Roedd olwynion dŵr yno hefyd, ac erbyn heddiw mae'r prif dwll o dan ddŵr. Gellir gweld olion yr incléin a'r adeiladau yno hyd heddiw. [1][2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)
  2. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry,(Newton Abbot, 1974), t. 332.