Chwarel yr Hen Fraich

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi ger y Fron oedd chwarel yr Hen Fraich, Chwarel Fraich (neu Fraichrydd).

Mae'r chwarel hon yn cael ei hystyried fel y twll hynaf yn ardal Dyffryn Nantlle yn ôl rhai.[1]. Roedd gwaith chwarelu ar y safle ym 1787 gan bartneriaeth o bump o ddynion; a thua 1800 mae'n bosibl fod John Griffith, Plas Tryfan wedi cymryd prydles. Erbyn 1817, roedd yn cael ei gweithio gan Gwmni Cilgwyn.[2] Mae Jean Lindsay, fodd bynnag, yn ei dyddio i 1830. Fe gafodd ei hailagor ym 1860 gan gwmni preifat ac erbyn 1873 roedd 140 o ddynion yn gweithio yno. Chwarel un twll oedd hon, er bod tair lefel iddi. Roedd ganddi dramffordd (sef Tramffordd John Robinson a gludai llechi Braich ar hyd ochr Chwarel Cilgwyn tan 1881, pan agorwyd Tramffordd y Fron).

Ym 1882, fe'i hunwyd gyda Chwarel y Fron i ffurfio'r Old Braich Slate Quarries Company Ltd., gyda chyfalaf o £15000, ac roedd yn weithredol hyd at 1951 (meddai Dewi Tomos) er mai Jean Lindsay yn dweud 1914.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Ffynhonnell

  1. Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)
  2. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.221-2
  3. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry, (Newton Abbot, 1974), t.311.