Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi oedd Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd, rhwng pentref Tan'rallt a Nantlle. (SH 493521).

Cafodd y safle yma ei agor ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chloddiwyd llechi gwyrdd a choch yma. Gan ei fod yn dwll cloddio bychan, roedd gwaith yno yn ysbeidiol a tua 100 o ddynion yn gweithio yno ar adegau. Roedd dŵr yn brin i droi peiriannau'r chwarel ac ers y 1880au bu ymdrechion gan y chwarel hon i ddargyfeirio petgh o ddwr a redai trwy dir Gwernor lle oedd chwarel arall. Rhaid oedd i reolwyr Chwarel Gwernor warchod eu cyflenwad o ddŵr, yn arbennig ar ôl iddynt osod tyrbinau ac olwyn Pelton, ac aethant i gyfraith ym 1907 i atal Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd; Gwernor enillodd yr achos, gydag effeithiau drwg ar Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd. Am gyfnod, rhaid oedd atal y dynion i gyd. Gweler yr hanes yma

Credir i'r chwarel yma ddefnyddio incléin, ac yna blondin stêm i gario'r cynnyrch allan. Ym 1937-8, roedd 39 o ddynion yn gweithio yno.[1] Roedd wedi cau erbyn 1953, er roedd cwmni Twll Coed wedi gweithio yno yn y 1970au.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry,(Newton Abbot, 1974), t. 328-9.
  2. Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)