Tramffyrdd chwareli llechi Dyffryn Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir 5 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
==Y Dechreuad== | ==Y Dechreuad== | ||
Un o’r cwmnïau a ffurfiwyd i ddatblygu cynhyrchu llechi ar gomin [[Cilgwyn]] tua diwedd y 1790au oedd grŵp o ddynion lleol, John Price, Thomas Jones, John Evans a Richard Roberts. Cawsant brydles gan y Goron, ac mae cofnod eu bod, gryn amser cyn 1810, wedi gosod tramffordd neu “railroad” yn chwarel Fein-goch ar Fynydd Carmel, er mwyn cludo sbwriel i’r domen.<ref> Archifdy Prifysgol Bangor, Llsgr. Porth-yr-aur 27375, 27523, dyfynnwyd gan Jean Lindsay, op. cit., tt.75-6.</ref> Dyma, o bosibl, y sôn cyntaf am gledrffordd o unrhyw fath yn y dyffryn, ac mae’n tystio i fuddsoddiad o gyfalaf ac o gynhyrchu llechi ar raddfa ddigonol fel bod angen harneisio manteision olwynion metel ar gledrau i gludo’r gwastraff ymaith. Prif rinwedd rhedeg cerbyd ar hyd cledrau, yn hytrach nag ar hyd ffordd, yw’r modd y gellir sicrhau lleihad yn y ffrithiant rhwng olwyn a llawr, ac oherwydd hynny, mae angen llai o rym i symud llwythi trwm. | Un o’r cwmnïau a ffurfiwyd i ddatblygu cynhyrchu llechi ar gomin [[Cilgwyn]] tua diwedd y 1790au oedd grŵp o ddynion lleol, John Price, Thomas Jones, John Evans a Richard Roberts. Cawsant brydles gan y Goron, ac mae cofnod eu bod, gryn amser cyn 1810, wedi gosod tramffordd neu “railroad” yn chwarel Fein-goch ar Fynydd Carmel, er mwyn cludo sbwriel i’r domen.<ref> Archifdy Prifysgol Bangor, Llsgr. Porth-yr-aur 27375, 27523, dyfynnwyd gan Jean Lindsay, op. cit., tt.75-6.</ref> Dyma, o bosibl, y sôn cyntaf am gledrffordd o unrhyw fath yn y dyffryn, ac mae’n tystio i fuddsoddiad o gyfalaf ac o gynhyrchu llechi ar raddfa ddigonol fel bod angen harneisio manteision olwynion metel ar gledrau i gludo’r gwastraff ymaith. Prif rinwedd rhedeg cerbyd ar hyd cledrau, yn hytrach nag ar hyd ffordd, yw’r modd y gellir sicrhau lleihad yn y ffrithiant rhwng olwyn a llawr, ac oherwydd hynny, mae angen llai o rym i symud llwythi trwm. | ||
Erbyn 1813, a’r diwydiant llechi’n tyfu, cafwyd sôn y byddai rheilffordd yr holl ffordd o’r dyffryn i’r cei yng Nghaernarfon yn lleihau costau ac, ar ôl degawd o oedi a thrafod, aethpwyd ati i adeiladu [[Rheilffordd Nantlle]], a agorwyd ym 1828. Roedd y rheilffordd hon yn bur arloesol – er yn gyntefig i’n llygaid ni heddiw – a gosodwyd y cledrau gyda 3’ 6” o led rhyngddynt. Roedd nifer o chwareli’r dyffryn yn defnyddio’r lein i anfon eu llechi i’r porthladd, a datblygwyd nifer o ganghennau oddi ar draciau’r cwmni rheilffordd i diriogaeth y gwahanol chwareli, lle gellid eu llwytho, ac yn y man ymestynnwyd y traciau i gyfeiriad wyneb y graig. | Erbyn 1813, a’r diwydiant llechi’n tyfu, cafwyd sôn y byddai rheilffordd yr holl ffordd o’r dyffryn i’r cei yng Nghaernarfon yn lleihau costau ac, ar ôl degawd o oedi a thrafod, aethpwyd ati i adeiladu [[Rheilffordd Nantlle]], a agorwyd ym 1828. Roedd y rheilffordd hon yn bur arloesol – er yn gyntefig i’n llygaid ni heddiw – a gosodwyd y cledrau gyda 3’ 6” o led rhyngddynt. Roedd nifer o chwareli’r dyffryn yn defnyddio’r lein i anfon eu llechi i’r porthladd, a datblygwyd nifer o ganghennau oddi ar draciau’r cwmni rheilffordd i diriogaeth y gwahanol chwareli, lle gellid eu llwytho, ac yn y man ymestynnwyd y traciau i gyfeiriad wyneb y graig. | ||
==Lled== | ==Lled== | ||
Roedd traciau llydan yn gallu cludo mwy o lwyth mewn gwagenni mwy o faint. Serch hynny, roeddynt yn galw am fwy o dir i’w hadeiladu, ac roeddent yn fwy costus. Adeiladwyd Rheilffordd Nantlle gyda lled o 3’ 6” gan ei bod yn arloesol ac nad oedd unrhyw safonau wedi eu datblygu, a’r adeiladwyr felly’n medru dewis y cyfaddawd gorau rhwng effeithlonrwydd a chostau. | Roedd traciau llydan yn gallu cludo mwy o lwyth mewn gwagenni mwy o faint. Serch hynny, roeddynt yn galw am fwy o dir i’w hadeiladu, ac roeddent yn fwy costus. Adeiladwyd Rheilffordd Nantlle gyda lled o 3’ 6” gan ei bod yn arloesol ac nad oedd unrhyw safonau wedi eu datblygu, a’r adeiladwyr felly’n medru dewis y cyfaddawd gorau rhwng effeithlonrwydd a chostau. | ||
Fel yr aeth y ganrif ymlaen, a’r chwareli’n tyfu’n fwy ac yn fwy cynhyrchiol, bu mwy o angen am gael wagenni a thraciau’n agosach at ymyl y graig, lle nad oedd cymaint o le. Lle'r oedd angen mynd dan ddaear, roedd wagenni llai’n medru mynd i leoedd cul a chyfyng. Yn gynyddol, datblygodd mwy a mwy o dramffyrdd bach o fewn chwareli gyda lled o 2’ 0” (neu, weithiau, 1’ 11½”), y lled mwyaf cyffredin ar gyfer y diwydiant llechi. Ar ôl 1877, pan agorodd cwmni [[Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru]] ei lein i’r [[Gorsaf reilffordd Bryngwyn|Bryngwyn]], datblygodd system sylweddol yn cysylltu chwareli’r tir uchel o gwmpas [[Moel Tryfan]] ac ardal [[Y Fron]]. | Fel yr aeth y ganrif ymlaen, a’r chwareli’n tyfu’n fwy ac yn fwy cynhyrchiol, bu mwy o angen am gael wagenni a thraciau’n agosach at ymyl y graig, lle nad oedd cymaint o le. Lle'r oedd angen mynd dan ddaear, roedd wagenni llai’n medru mynd i leoedd cul a chyfyng. Yn gynyddol, datblygodd mwy a mwy o dramffyrdd bach o fewn chwareli gyda lled o 2’ 0” (neu, weithiau, 1’ 11½”), y lled mwyaf cyffredin ar gyfer y diwydiant llechi. Ar ôl 1877, pan agorodd cwmni [[Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru]] ei lein i’r [[Gorsaf reilffordd Bryngwyn|Bryngwyn]], datblygodd system sylweddol yn cysylltu chwareli’r tir uchel o gwmpas [[Moel Tryfan]] ac ardal [[Y Fron]]. | ||
Achosodd yr angen am dramffyrdd cul ar hyd y ponciau, i ben draw’r tomennydd ac i mewn i’r melinau beth anhawster i chwareli llawr y dyffryn oedd yn allforio eu cynnyrch ar hyd Rheilffordd Nantlle a hynny yn eu gwagenni llydan eu hunain. Ceid sawl enghraifft felly o chwareli lle'r oedd y tramffyrdd mewnol yn 2’ o led ond bod rhywfaint o draciau 3’ 6” rhwng y felin neu waelod inclein a’r rheilffordd gyhoeddus. | Achosodd yr angen am dramffyrdd cul ar hyd y ponciau, i ben draw’r tomennydd ac i mewn i’r melinau beth anhawster i chwareli llawr y dyffryn oedd yn allforio eu cynnyrch ar hyd Rheilffordd Nantlle a hynny yn eu gwagenni llydan eu hunain. Ceid sawl enghraifft felly o chwareli lle'r oedd y tramffyrdd mewnol yn 2’ o led ond bod rhywfaint o draciau 3’ 6” rhwng y felin neu waelod inclein a’r rheilffordd gyhoeddus. | ||
==Tramffyrdd a changhennau 3’ 6” o led== | ==Tramffyrdd a changhennau 3’ 6” o led== | ||
Roedd y rhain yn gysylltiedig yn bennaf â chwareli llawr y dyffryn, ac yn tueddu i gael eu hadeiladu yn y lle cyntaf yn gynharach yn y ganrif na thramffyrdd 2’ 0” o led. Nid oedd ffynhonnell rwydd ar gyfer prynu injans stêm ar gyfer traciau 3’ 6”, ac ni ddefnyddid injans stêm o gwbl ar y brif lein, a hynny dros gyfnod o bron i 140 o flynyddoedd. Haws oedd i’r chwareli ddefnyddio ceffylau fel | Roedd y rhain yn gysylltiedig yn bennaf â chwareli llawr y dyffryn, ac yn tueddu i gael eu hadeiladu yn y lle cyntaf yn gynharach yn y ganrif na thramffyrdd 2’ 0” o led. Nid oedd ffynhonnell rwydd ar gyfer prynu injans stêm ar gyfer traciau 3’ 6”, ac ni ddefnyddid injans stêm o gwbl ar y brif lein, a hynny dros gyfnod o bron i 140 o flynyddoedd. Haws oedd i’r chwareli ddefnyddio ceffylau fel y gwneid ar y brif lein i Gaernarfon. | ||
*[[Chwarel Blaen-y-cae]]: 2’ yn y chwarel, ond | |||
*[[Chwarel Cilgwyn]]: inclein i lawr at Reilffordd Nantlle yn 3’ 6’’, gweddill y chwarel yn mabwysiadu 2’. Gwagenni wedi eu gwneud o bren yn unig. Ar ôl cysylltu gyda thramffordd y Fron (tua 1920), y trac lled | Dyma restr o’r chwareli lle roedd traciau 3’ 6” i’w cael - yn rhannol neu’n unig: | ||
*[[Chwarel Blaen-y-cae]]: 2’ yn y chwarel, ond roedd cangen o’r inclein o [[Chwarel Cilgwyn]] i lawr at Reilffordd Nantlle yn 3’ 6”. | |||
*[[Chwarel Cilgwyn]]: inclein i lawr at Reilffordd Nantlle yn 3’ 6’’, gweddill y chwarel yn mabwysiadu 2’. Gwagenni wedi eu gwneud o bren yn unig. Ar ôl cysylltu gyda thramffordd y Fron (tua 1920), y trac lled llydan a’r inclein yn cau. | |||
*[[Chwarel South Dorothea]]: Trac llydan yn unig, yn ymuno â Rheilffordd Nantlle. | *[[Chwarel South Dorothea]]: Trac llydan yn unig, yn ymuno â Rheilffordd Nantlle. | ||
*[[Chwarel Dorothea]]: Cysylltiad gyda Rheilffordd Nantlle a pheth trac at y felin, lle roedd y traciau’n lled | *[[Chwarel Dorothea]]: Cysylltiad gyda Rheilffordd Nantlle a pheth trac at y felin, lle roedd y traciau’n lled cymysg (h.y. yn gallu cael eu defnyddio gan wagenni naill ai 2' neu 3'6" trwy ddefnyddio tair cledren). | ||
*[[Chwarel y Fron]]: Rhywfaint o drac 3’ 6” a chysylltiad llydan gyda Rheilffordd Nantlle rhwng 1864 a 1881, cysylltiad a elwid yn [[Rheilffordd Tal-y-sarn]]. | *[[Chwarel y Fron]]: Rhywfaint o drac 3’ 6” a chysylltiad llydan gyda Rheilffordd Nantlle rhwng 1864 a 1881, cysylltiad a elwid yn [[Rheilffordd Tal-y-sarn]]. | ||
*[[Chwarel Fronheulog]]: Trac llydan yn unig, ynghyd â changen ar draws y dyffryn a oedd yn ymuno â Rheilffordd Nantlle. Gelwid y lein hon yn [[Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon]]. | *[[Chwarel Fronheulog]]: Trac llydan yn unig, ynghyd â changen ar draws y dyffryn a oedd yn ymuno â Rheilffordd Nantlle. Gelwid y lein hon yn [[Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon]]. | ||
Llinell 25: | Llinell 29: | ||
==Tramffyrdd 2’ o led== | ==Tramffyrdd 2’ o led== | ||
Y lled arferol ar gyfer tramffyrdd y chwareli nad oeddynt yn cysylltu â Rheilffordd Nantlle oedd 2’ (neu weithiau 1’ 11½ ”) er mae’n bur sicr bod y cledrau yn symud yn aml a bod cryn wahaniaeth yn y lled, yn arbennig lle roedd traciau dros dro’n cyrraedd pen draw tomen neu ben draw ponc. | Y lled arferol ar gyfer tramffyrdd y chwareli nad oeddynt yn cysylltu â Rheilffordd Nantlle oedd 2’ (neu weithiau 1’ 11½ ”) er mae’n bur sicr bod y cledrau yn symud yn aml a bod cryn wahaniaeth yn y lled, yn arbennig lle roedd traciau dros dro’n cyrraedd pen draw tomen neu ben draw ponc. | ||
2’ (neu rywbeth tebyg) oedd y lled arferol ar draws Eryri. Yn Uwchgwyrfai, ac ardaloedd Dyffryn Conwy, Penrhyn a Llanberis, roedd y lled 2’ yn y chwareli llechi i gyd. Roedd tramffyrdd mwynfeydd a chwareli ithfaen Llŷn a Phenmaenmawr yn | |||
Diddorol hefyd yw sylwi mai 1’ 8” oedd y tramffyrdd yng [[Gwaith copr Drws-y-coed|ngwaith Drws-y-coed]] – sydd yn tueddu i awgrymu mai dylanwadau peirianyddol hollol wahanol oedd ar waith yn y fan honno, a’r | 2’ (neu rywbeth tebyg) oedd y lled arferol ar draws Eryri. Yn Uwchgwyrfai, ac ardaloedd Dyffryn Conwy, Penrhyn a Llanberis, roedd y lled 2’ yn y chwareli llechi i gyd. Roedd tramffyrdd y mwynfeydd a'r chwareli ithfaen yn Llŷn a Phenmaenmawr yn bod â chledrau tua 3’ neu fwy oddi wrth ei gilydd, ond 2’ oedd y lled yng chwareli ithfaen Uwchgwyrfai i gyd. Mantais y safoni hyn oedd y gallu i symud gwagenni ac injans o’r naill chwarel i’r llall, os neu bryd y byddai asedau chwarel oedd yn cau yn cael eu gwerthu. | ||
Diddorol hefyd yw sylwi mai 1’ 8” oedd y tramffyrdd yng [[Gwaith copr Drws-y-coed|ngwaith Drws-y-coed]] – sydd yn tueddu i awgrymu mai dylanwadau peirianyddol hollol wahanol oedd ar waith yn y fan honno, a’r dewis o led (efallai) wedi dod i’r dyffryn gyda fwynwyr o Gernyw neu Ynys Manaw. | |||
Dyma restr o chwareli llechi mwyaf Uwchgwyrfai lle defnyddid traciau 2’: | Dyma restr o chwareli llechi mwyaf Uwchgwyrfai lle defnyddid traciau 2’: | ||
*[[Chwarel Alexandra]] | *[[Chwarel Alexandra]] | ||
Llinell 42: | Llinell 49: | ||
*[[Chwarel Pen-y-bryn]] a [[Cloddfa'r Lôn]]. Er bod y brif system o gledrau yn y chwareli hyn yn rhai 3’ 6” (gan eu bod yn rhai o’r chwareli cynnar a gysylltwyd yn syth i Reilffordd Nantlle, roedd cledrau diweddarach o fewn y chwarel yn rhai 2’. | *[[Chwarel Pen-y-bryn]] a [[Cloddfa'r Lôn]]. Er bod y brif system o gledrau yn y chwareli hyn yn rhai 3’ 6” (gan eu bod yn rhai o’r chwareli cynnar a gysylltwyd yn syth i Reilffordd Nantlle, roedd cledrau diweddarach o fewn y chwarel yn rhai 2’. | ||
*[[Chwarel Pen[-yr--orsedd]] Cledrau 1’ 11 ½” a 3’ 6” gyda’i gilydd trwy’r holl chwarel. | *[[Chwarel Pen[-yr--orsedd]] Cledrau 1’ 11 ½” a 3’ 6” gyda’i gilydd trwy’r holl chwarel. | ||
*[[Chwarel Tal-y-sarn]] | *[[Chwarel Tal-y-sarn]] Trac cymysg. | ||
Mae’r awdur J.I.C. Boyd hefyd yn credu | Mae’r awdur J.I.C. Boyd hefyd yn credu mai traciau 2’ o led oedd yr ychydig o draciau o’r graig i’r felin a ddefnyddid yn yr holl chwareli bach ar lethr ddeheuol y dyffryn megis [[Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd]] a [[Chwarel Gwernor]] (heblaw am Chwarel Fronheulog a’r chwareli oedd yn gysylltiedig â honno). Systemau bach digyswllt oedd y rhain. | ||
==Pŵer== | ==Pŵer== | ||
Nid oes cofnod o unrhyw injan yn tynnu gwagenni ar hyd y tramffyrdd 3’ 6”. Defnyddid dim ond ceffylau, heblaw am ychydig fisoedd ar ddiwedd oes Rheilffordd Nantlle yn y 1960au pan ddefnyddid tractor. Roedd nifer o’r chwareli oedd â chledrau 2’ yn defnyddio injans stêm. Roedd y rhain o ddau fath, rhai confensiynol a brynwyd fel rheol oddi wrth ffatrïoedd yn Lloegr, megis Hunslet a Bagnall; a rhai o’r cyfnod cynnar a wnaed yn ffatri de Winton yng Nghaernarfon. Roedd y rhai olaf hyn yn nodedig gan fod eu bwyleri’n fertigol yn hytrach na llorweddol. Roedd Chwareli Cilgwyn, Moel Tryfan, a Phen-yr-orsedd wedi prynu injans disel neu betrol fel ychwanegiadau at eu fflyd o injans stêm fel yr oedd y rheiny’n heneiddio, a hynny yn y 1930au.<ref> J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), tt.229-46</ref> | Nid oes cofnod o unrhyw injan yn tynnu gwagenni ar hyd y tramffyrdd 3’ 6”. Defnyddid dim ond ceffylau, heblaw am ychydig fisoedd ar ddiwedd oes Rheilffordd Nantlle yn y 1960au pan ddefnyddid tractor. Roedd nifer o’r chwareli oedd â chledrau 2’ yn defnyddio injans stêm. Roedd y rhain o ddau fath, rhai confensiynol a brynwyd fel rheol oddi wrth ffatrïoedd yn Lloegr, megis Hunslet a Bagnall; a rhai o’r cyfnod cynnar a wnaed yn ffatri de Winton yng Nghaernarfon. Roedd y rhai olaf hyn yn nodedig gan fod eu bwyleri’n fertigol yn hytrach na llorweddol. Roedd Chwareli Cilgwyn, Moel Tryfan, a Phen-yr-orsedd wedi prynu injans disel neu betrol fel ychwanegiadau at eu fflyd o injans stêm fel yr oedd y rheiny’n heneiddio, a hynny yn y 1930au.<ref> J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), tt.229-46</ref> | ||
==Traciau cyswllt== | |||
Roedd angen dull o gludo llechi neu wastraff chwarel y tu hwnt i'w ffinau ar nifer o'r chwareli. Bu rhai chwareli'n rhannu'r cyswllt rhwng eu tir nhw â thomennydd ar y comin, i lawr yr incleins neu at un o'r ddwy reilffordd a gludai llechi ar eu ffordd at y porthladd - Rheilffordd Nantlle, a Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru. Cysylltwyd y lein olaf honno gyda thraciau'r maes chwareli trwy inclein rhwng [[Gorsaf reilffordd Bryngwyn]] a'r man a elwid yn "Drumhead", lle 'roedd y gêr weindio i ollwng gwagenni i lawr y llethr yn araf trwy ddefnyddio weiren drwchus. | |||
Ymysg y traciau neu ganghennau hyn, a dueddai fod yn weddol hir, ceid [[Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon]], [[Tramffordd Alexandra]]. [[Tramffordd Moel Tryfan]], <ref>J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (Oakwood, 1988), t.206</ref> [[Tramffordd y Fron]] a Rheilffordd Tal-y-sarn a elwid yn aml yn [[Tramffordd John Robinson|Dramffordd Robinson]]. <ref>J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), t.236</ref> | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Golygiad diweddaraf yn ôl 11:22, 15 Ionawr 2024
Roedd nifer sylweddol o dramffyrdd yn chwareli llechi Dyffryn Nantlle, a hynny o ddechrau’r 19g. hyd nes i’r chwareli gau neu symud i ddefnyddio lorïau yn y 1960au.
Y Dechreuad
Un o’r cwmnïau a ffurfiwyd i ddatblygu cynhyrchu llechi ar gomin Cilgwyn tua diwedd y 1790au oedd grŵp o ddynion lleol, John Price, Thomas Jones, John Evans a Richard Roberts. Cawsant brydles gan y Goron, ac mae cofnod eu bod, gryn amser cyn 1810, wedi gosod tramffordd neu “railroad” yn chwarel Fein-goch ar Fynydd Carmel, er mwyn cludo sbwriel i’r domen.[1] Dyma, o bosibl, y sôn cyntaf am gledrffordd o unrhyw fath yn y dyffryn, ac mae’n tystio i fuddsoddiad o gyfalaf ac o gynhyrchu llechi ar raddfa ddigonol fel bod angen harneisio manteision olwynion metel ar gledrau i gludo’r gwastraff ymaith. Prif rinwedd rhedeg cerbyd ar hyd cledrau, yn hytrach nag ar hyd ffordd, yw’r modd y gellir sicrhau lleihad yn y ffrithiant rhwng olwyn a llawr, ac oherwydd hynny, mae angen llai o rym i symud llwythi trwm.
Erbyn 1813, a’r diwydiant llechi’n tyfu, cafwyd sôn y byddai rheilffordd yr holl ffordd o’r dyffryn i’r cei yng Nghaernarfon yn lleihau costau ac, ar ôl degawd o oedi a thrafod, aethpwyd ati i adeiladu Rheilffordd Nantlle, a agorwyd ym 1828. Roedd y rheilffordd hon yn bur arloesol – er yn gyntefig i’n llygaid ni heddiw – a gosodwyd y cledrau gyda 3’ 6” o led rhyngddynt. Roedd nifer o chwareli’r dyffryn yn defnyddio’r lein i anfon eu llechi i’r porthladd, a datblygwyd nifer o ganghennau oddi ar draciau’r cwmni rheilffordd i diriogaeth y gwahanol chwareli, lle gellid eu llwytho, ac yn y man ymestynnwyd y traciau i gyfeiriad wyneb y graig.
Lled
Roedd traciau llydan yn gallu cludo mwy o lwyth mewn gwagenni mwy o faint. Serch hynny, roeddynt yn galw am fwy o dir i’w hadeiladu, ac roeddent yn fwy costus. Adeiladwyd Rheilffordd Nantlle gyda lled o 3’ 6” gan ei bod yn arloesol ac nad oedd unrhyw safonau wedi eu datblygu, a’r adeiladwyr felly’n medru dewis y cyfaddawd gorau rhwng effeithlonrwydd a chostau.
Fel yr aeth y ganrif ymlaen, a’r chwareli’n tyfu’n fwy ac yn fwy cynhyrchiol, bu mwy o angen am gael wagenni a thraciau’n agosach at ymyl y graig, lle nad oedd cymaint o le. Lle'r oedd angen mynd dan ddaear, roedd wagenni llai’n medru mynd i leoedd cul a chyfyng. Yn gynyddol, datblygodd mwy a mwy o dramffyrdd bach o fewn chwareli gyda lled o 2’ 0” (neu, weithiau, 1’ 11½”), y lled mwyaf cyffredin ar gyfer y diwydiant llechi. Ar ôl 1877, pan agorodd cwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru ei lein i’r Bryngwyn, datblygodd system sylweddol yn cysylltu chwareli’r tir uchel o gwmpas Moel Tryfan ac ardal Y Fron. Achosodd yr angen am dramffyrdd cul ar hyd y ponciau, i ben draw’r tomennydd ac i mewn i’r melinau beth anhawster i chwareli llawr y dyffryn oedd yn allforio eu cynnyrch ar hyd Rheilffordd Nantlle a hynny yn eu gwagenni llydan eu hunain. Ceid sawl enghraifft felly o chwareli lle'r oedd y tramffyrdd mewnol yn 2’ o led ond bod rhywfaint o draciau 3’ 6” rhwng y felin neu waelod inclein a’r rheilffordd gyhoeddus.
Tramffyrdd a changhennau 3’ 6” o led
Roedd y rhain yn gysylltiedig yn bennaf â chwareli llawr y dyffryn, ac yn tueddu i gael eu hadeiladu yn y lle cyntaf yn gynharach yn y ganrif na thramffyrdd 2’ 0” o led. Nid oedd ffynhonnell rwydd ar gyfer prynu injans stêm ar gyfer traciau 3’ 6”, ac ni ddefnyddid injans stêm o gwbl ar y brif lein, a hynny dros gyfnod o bron i 140 o flynyddoedd. Haws oedd i’r chwareli ddefnyddio ceffylau fel y gwneid ar y brif lein i Gaernarfon.
Dyma restr o’r chwareli lle roedd traciau 3’ 6” i’w cael - yn rhannol neu’n unig:
- Chwarel Blaen-y-cae: 2’ yn y chwarel, ond roedd cangen o’r inclein o Chwarel Cilgwyn i lawr at Reilffordd Nantlle yn 3’ 6”.
- Chwarel Cilgwyn: inclein i lawr at Reilffordd Nantlle yn 3’ 6’’, gweddill y chwarel yn mabwysiadu 2’. Gwagenni wedi eu gwneud o bren yn unig. Ar ôl cysylltu gyda thramffordd y Fron (tua 1920), y trac lled llydan a’r inclein yn cau.
- Chwarel South Dorothea: Trac llydan yn unig, yn ymuno â Rheilffordd Nantlle.
- Chwarel Dorothea: Cysylltiad gyda Rheilffordd Nantlle a pheth trac at y felin, lle roedd y traciau’n lled cymysg (h.y. yn gallu cael eu defnyddio gan wagenni naill ai 2' neu 3'6" trwy ddefnyddio tair cledren).
- Chwarel y Fron: Rhywfaint o drac 3’ 6” a chysylltiad llydan gyda Rheilffordd Nantlle rhwng 1864 a 1881, cysylltiad a elwid yn Rheilffordd Tal-y-sarn.
- Chwarel Fronheulog: Trac llydan yn unig, ynghyd â changen ar draws y dyffryn a oedd yn ymuno â Rheilffordd Nantlle. Gelwid y lein hon yn Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon.
- Chwarel Gallt-y-fedw. Pob trac yn 3' 6", ond ychydig o gledrau lled 2’ yng ngwaelod y twll.
- Cloddfa'r Coed. Trac 3’ 6” yn bennaf.
- Chwarel Hafodlas.
- Chwarel Pen-y-bryn. Linc i Reilffordd Nantlle yn 3’ 6”.
- Chwarel Pen-yr-orsedd. Cymysgedd o led trwy’r chwarel, llawer efo lled cymysg (sef tai cledren gyfochrog).
- Chwarel Tal-y-sarn Lled cymysg.
Tramffyrdd 2’ o led
Y lled arferol ar gyfer tramffyrdd y chwareli nad oeddynt yn cysylltu â Rheilffordd Nantlle oedd 2’ (neu weithiau 1’ 11½ ”) er mae’n bur sicr bod y cledrau yn symud yn aml a bod cryn wahaniaeth yn y lled, yn arbennig lle roedd traciau dros dro’n cyrraedd pen draw tomen neu ben draw ponc.
2’ (neu rywbeth tebyg) oedd y lled arferol ar draws Eryri. Yn Uwchgwyrfai, ac ardaloedd Dyffryn Conwy, Penrhyn a Llanberis, roedd y lled 2’ yn y chwareli llechi i gyd. Roedd tramffyrdd y mwynfeydd a'r chwareli ithfaen yn Llŷn a Phenmaenmawr yn bod â chledrau tua 3’ neu fwy oddi wrth ei gilydd, ond 2’ oedd y lled yng chwareli ithfaen Uwchgwyrfai i gyd. Mantais y safoni hyn oedd y gallu i symud gwagenni ac injans o’r naill chwarel i’r llall, os neu bryd y byddai asedau chwarel oedd yn cau yn cael eu gwerthu.
Diddorol hefyd yw sylwi mai 1’ 8” oedd y tramffyrdd yng ngwaith Drws-y-coed – sydd yn tueddu i awgrymu mai dylanwadau peirianyddol hollol wahanol oedd ar waith yn y fan honno, a’r dewis o led (efallai) wedi dod i’r dyffryn gyda fwynwyr o Gernyw neu Ynys Manaw.
Dyma restr o chwareli llechi mwyaf Uwchgwyrfai lle defnyddid traciau 2’:
- Chwarel Alexandra
- Chwarel Blaen-y-cae Rhywfaint o drac 3’ 6” hefyd (gweler uchod).
- Chwarel Braich
- Chwarel Braich-rhydd
- Chwarel Brynfferam – yn ôl pob tebyg. Dim ond trac rhwng dau dwll.
- Chwarel Cilgwyn Rhywfaint o drac 3’ 6” hefyd (gweler uchod).
- Chwarel Coedmadog. Seidin o reilffordd 4’ 8½” ar ôl 1881.
- Chwarel Dorothea y tu fewn i’r chwarel. Rhywfaint o drac 3’ 6” hefyd (gweler uchod).
- Chwarel y Fron. Rhywfaint o drac 3’ 6” hefyd (gweler uchod) tan 1881, pan newidiwyd y drefn o allforio llechi, a defnyddio tramffordd newydd a gysylltai chwareli’r llethrau gogleddol gyda Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru trwy ddefnyddio inclein Bryngwyn.
- Chwarel Gallt-y-fedw. Dim ond traciau yng ngwaelod y twll yn 2’. Fel arall, 3’ 6”.
- Cloddfa'r Coed. Rhywfaint o drac 2’ wrth wyneb y graig yn ddiweddarach, 3’ 6” fel arall.
- Chwarel Moel Tryfan
- Chwarel Pen-y-bryn a Cloddfa'r Lôn. Er bod y brif system o gledrau yn y chwareli hyn yn rhai 3’ 6” (gan eu bod yn rhai o’r chwareli cynnar a gysylltwyd yn syth i Reilffordd Nantlle, roedd cledrau diweddarach o fewn y chwarel yn rhai 2’.
- [[Chwarel Pen[-yr--orsedd]] Cledrau 1’ 11 ½” a 3’ 6” gyda’i gilydd trwy’r holl chwarel.
- Chwarel Tal-y-sarn Trac cymysg.
Mae’r awdur J.I.C. Boyd hefyd yn credu mai traciau 2’ o led oedd yr ychydig o draciau o’r graig i’r felin a ddefnyddid yn yr holl chwareli bach ar lethr ddeheuol y dyffryn megis Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd a Chwarel Gwernor (heblaw am Chwarel Fronheulog a’r chwareli oedd yn gysylltiedig â honno). Systemau bach digyswllt oedd y rhain.
Pŵer
Nid oes cofnod o unrhyw injan yn tynnu gwagenni ar hyd y tramffyrdd 3’ 6”. Defnyddid dim ond ceffylau, heblaw am ychydig fisoedd ar ddiwedd oes Rheilffordd Nantlle yn y 1960au pan ddefnyddid tractor. Roedd nifer o’r chwareli oedd â chledrau 2’ yn defnyddio injans stêm. Roedd y rhain o ddau fath, rhai confensiynol a brynwyd fel rheol oddi wrth ffatrïoedd yn Lloegr, megis Hunslet a Bagnall; a rhai o’r cyfnod cynnar a wnaed yn ffatri de Winton yng Nghaernarfon. Roedd y rhai olaf hyn yn nodedig gan fod eu bwyleri’n fertigol yn hytrach na llorweddol. Roedd Chwareli Cilgwyn, Moel Tryfan, a Phen-yr-orsedd wedi prynu injans disel neu betrol fel ychwanegiadau at eu fflyd o injans stêm fel yr oedd y rheiny’n heneiddio, a hynny yn y 1930au.[2]
Traciau cyswllt
Roedd angen dull o gludo llechi neu wastraff chwarel y tu hwnt i'w ffinau ar nifer o'r chwareli. Bu rhai chwareli'n rhannu'r cyswllt rhwng eu tir nhw â thomennydd ar y comin, i lawr yr incleins neu at un o'r ddwy reilffordd a gludai llechi ar eu ffordd at y porthladd - Rheilffordd Nantlle, a Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru. Cysylltwyd y lein olaf honno gyda thraciau'r maes chwareli trwy inclein rhwng Gorsaf reilffordd Bryngwyn a'r man a elwid yn "Drumhead", lle 'roedd y gêr weindio i ollwng gwagenni i lawr y llethr yn araf trwy ddefnyddio weiren drwchus.
Ymysg y traciau neu ganghennau hyn, a dueddai fod yn weddol hir, ceid Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon, Tramffordd Alexandra. Tramffordd Moel Tryfan, [3] Tramffordd y Fron a Rheilffordd Tal-y-sarn a elwid yn aml yn Dramffordd Robinson. [4]
Cyfeiriadau
- ↑ Archifdy Prifysgol Bangor, Llsgr. Porth-yr-aur 27375, 27523, dyfynnwyd gan Jean Lindsay, op. cit., tt.75-6.
- ↑ J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), tt.229-46
- ↑ J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (Oakwood, 1988), t.206
- ↑ J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), t.236