Ffugenwau Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:28, 12 Mai 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Rhestrir isod y ffugenwau a ddefnyddid gan nifer o unigolion (rhai artistig yn bennaf) sydd wedi dod i'r amlwg wrth lunio erthyglau ar gyfer Cof y Cwmwd. Dylid nodi bod enwau barddol neu ffugenwau'n wahanol i lysenwau (nicknames) sydd yn aml yn amharchus. Ymfalchïodd unigolion yn eu ffugenwau neu enwau barddol fel arwydd eu bod yn bobl greadigol neu'n berfformwyr o fri ac yn aml fe'u rhoddwyd i unigolyn fel canlyniad i lwyddiant eisteddfodol. Fel y datblygodd arholiadau Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn gysylltiedig â'r Eisteddfod Genedlaethol tua diwedd y 19g, daeth fwy i ennill enwau barddol trwy lwyddo yn yr arholiadau ac ymuno â'r Orsedd. Byddai eraill yn mabwysiadu ffugenw er mwyn ysgrifennu'n anhysbys.

Roed hi'n arferol i feirdd ddefnyddio ffurf Cymraeg eu henwau bedydd (Siôn yn lle John, er enghraifft) ynghyd ag ansoddair neu enw lle yr oedd gan y bardd gysylltiad ag ef. Byddai cerddorion yn tueddu dewis ffugenw a gyfeiriai at eu talent cerddorol - Alaw, Pencerdd neu Eos, ynghyd ag ansdoddair neu enw lle. Nid oedd unrhyw reol pendant a mater oarferiad a chonfensiwn ydoedd. Roedd merched yn ogystal â dynion yn mabwysiadu ffugenwau weithiau, ond ychydig sydd yn y rhestr isod, a'r rheiny'n gyfyngedig bron i gyd i gerddorion.

Er i'r arfer barhau am dros ddwy ganrif, fe edwinodd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Dichon i gymdeithas fwy soffistigedig ei weld fel arferiad ymfrolgar gan feirdd gwlad digon ddi-nod, er i'r arfer barhau wrth gyfeirio at rai beirdd uchel eu parch - mae Cynan yn enghraifft arbennig o hyn. Efallai hefyd bod llai o angen defnyddio ffugenwau. Ychydig iawn o gyfenwau oedd yn ardal Dyffryn Nantlle nes i fewnfudo gynyddu, a byddai ffugenw'n ddynodydd digon defnyddiol yn yr un modd ag y byddai llysenw, neu arddel enw tŷ neu fferm yn gysylltiedig â pherson (e.e. Siân Tŷ Pen, John Roberts cigydd, neu Magi'r Post). Sylwer mai dim ond dau gyfenw "diarth" sydd yn y rhestr isod: Radcliffe a Sarah.

Dylid nodi hefyd ei fod yn anodd weithiau wahaniaethu rhnwg enwau a arddelid yn agored gan unigolion ac enwau a ddefnyddid er mwyn i awdur neu berfformiwr guddio y tu ôl iddynt gan aros yn anhysbys. Isod, cynhwysir pob ffugenw sydd yn rhan o deitl erthygl.

Enwau amgen a arddelwyd
Ffugenw/Enw barddol Enw arferol Dolen at erthygl
Alafon Owen Griffith Owen Owen Griffith Owen (Alafon)
Alaw Cadfan Solomon Jones Solomon Jones (Alaw Cadfan)
Alaw Dulyn David D. Griffith David D. Griffith (Alaw Dulyn)
Alaw Llyfnwy John Hughes John Hughes (Alaw Llyfnwy)
Aled Ddu Robert R. Williams Robert R. Williams (Aled Ddu)
Anant Owen Edwards Owen Edwards (Anant)
Ap Gwyrfai Thomas Williams Thomas Williams (Ap Gwyrfai)
Bardd y Gwrych John Huws John Huws (Bardd y Gwrych)
Callestr Fardd Robert Jones Robert Jones (Callestr Fardd)
Ceridwen Peris Alice Grey Jones Alice Gray Jones (Ceridwen Peris)
Ceridwen Llyfnwy Alice Griffiths Alice Griffith (Ceridwen Llyfnwy)
Croesfryn Richard Williams Richard Williams (Croesfryn)
Cyrus William W. Jones William W. Jones (Cyrus)
Dafydd ab Hu Feddyg David William Pughe David William Pughe (Dafydd ab Hu Feddyg)
Dafydd Ddu Eryri David Thomas David Thomas (Dafydd Ddu Eryri)
Dafydd Tom David Thomas Williams David Thomas Williams (Dafydd Tom)
Dewi Arfon David Jones David Jones (Dewi Arfon)
Dewi Dinorwig David Price David Price (Dewi Dinorwig)
Dic Tryfan R. Hughes Williams R. Hughes Williams (Dic Tryfan)
Dinlle Thomas Parry Thomas Parry (Dinlle)
Eben Fardd Ebenezer Thomas Ebenezer Thomas (Eben Fardd)
Elis Wyn o Wyrfai Ellis Roberts Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai)
Eos Eifion William Evans William Evans (Eos Eifion)
Eos Graianog William Williams William Williams (Eos Graianog)
Eos Llyfnwy Morris Roberts Morris Roberts (Eos Llyfnwy)
Eos y Ceiri Owen Ellis Owen Owen Ellis Owen (Eos y Ceiri)
Erfyl Fychan Robert William Jones Robert William Jones (Erfyl Fychan)
Eryron Gwyllt Walia Robert Owen Robert Owen (Eryron Gwyllt Walia)
Glan Caeron William Hughes William Hughes (Glan Caeron)
Glan Peris Griffith G. Jones Griffith G. Jones (Glan Peris)
Glasynys Owen Wynne Jones Owen Wynne Jones (Glasynys)
Gosenian Robert William Jones Robert William Jones (Gosenian)
Gwallter Llyfnwy Walter S. Jones Walter S. Jones (Gwallter Llyfnwy)
Gwelltyn Henry Hughes Henry Hughes (Gwelltyn)
Gwilym Ceiri William Roberts William Roberts (Gwilym Ceiri)
Gwilym Droed-ddu William Parry William Parry (Gwilym Droed-ddu)
Gwilym Ddu Glan Hafren William Owen William Owen (Gwilym Ddu Glan Hafren)
Gwilym Glasgoed William Roberts William Roberts (Gwilym Glasgoed)
Gwyndaf Eryri Richard Jones Richard Jones (Gwyndaf Eryri)
Gwyndaf Ieuanc Hugh Jones Hugh Jones (Gwyndaf Ieuanc)
Hassan John Rowlands John Rowlands (Hassan)
Homo Goch Hugh Owen Parry Hugh Owen Parry (Homo Goch)
Hywel Cefni H.E. Jones H.E. Jones (Hywel Cefni)
Hywel Eryri Hugh Evans Hugh Evans (Hywel Eryri)
Hywel Tudur Howell Roberts Howell Roberts (Hywel Tudur)
Hu Gadarn William Griffith William Griffith (Hu Gadarn)
Idanfryn John Hughes John Hughes (Idanfryn)
Ieuan Nebo Evan Jones Evan Jones (Ieuan Nebo)
Ioan ab Hu Feddyg John Pughe John Pughe (Ioan ab Hu Feddyg)
Ioan ap Ioan anhysbys (fl.1888) Ioan ap Ioan
Ioan Eifion John Jones John Jones (Ioan Eifion)
Ioan Wythwr John O. Owens John O. Owens (Ioan Wythwr)
Iolo Caernarfon John John Roberts John John Roberts (Iolo Caernarfon)
Iolo Glan Twrog John Roberts John Roberts (Iolo Glan Twrog)
J.W. Llundain John Williams John Williams (J.W. Llundain)
Llechfrenin America Hugh W. Hughes Hugh W. Hughes (Llechfrenin America)
Llew Deulyn Isaac B. Williams Isaac B. Williams (Llew Deulyn)
Llwydiarth Môn David Thomas David Thomas (Llwydiarth Môn)
Llwydlas William John Roberts William John Roberts (Llwydlas)
Llyfnwy Robert Ellis (m.1872) Robert Ellis (Llyfnwy)
Llyfnwy Ellis W. Hughes (g.1870) Ellis W. Hughes (Llyfnwy)
Mair Alaw Mary Owen Mary Owen (Mair Alaw)
Maldwynog John Jones John Jones (Maldwynog)
Mawrthfab John Owen Williams John Owen Williams (Mawrthfab)
Meurig Wyn Morris Williams Morris Williams (Meurig Wyn)
Owain Meurig Owen Morris Owen Morris (Owain Meurig)
Pencerdd Cernyw John Sarah John Sarah (Pencerdd Cernyw)
Pencerdd Eifion W. Jarrett Roberts W. Jarrett Roberts (Pencerdd Eifion)
Pencerdd Llifon R. Hughes Jones R. Hughes Jones (Pencerdd Llifon)
Pencerdd Llyfnwy Robert D. Thomas (1849-1882) Robert D. Thomas (Pencerdd Llyfnwy)
Pencerdd Llyfnwy Richard Griffith Owen (1869-1930) Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy)
Senoj Nave Evan Jones Evan Jones (Senoj Nave)
Seren Aerau Sarah Sarah Sarah Sarah (Seren Aerau)
Shan Fwyn Jane Roberts Jane Roberts (Shan Fwyn), Llanllyfni
Sion Caeronwy John Jones John Jones (Sion Caeronwy)
Sion Gwynedd John Gwynneth Sion Gwynedd (John Gwynneth)
Siôn Robert Lewis John Roberts Siôn Robert Lewis (John Roberts)
Tenorydd Llyfnwy Hugh R. Owen Hugh R. Owen (Tenorydd Llyfnwy)
Thomas Michaeliones Thomas Michael Jones Thomas Michaeliones (Thomas Michael Jones)
Trebor Aled Robert Roberts Robert Roberts (Trebor Aled)
Trebor Cybi Robert Williams Robert Williams (Trebor Cybi)
Tremlyn David Davies David Davies (Tremlyn)
Tryfanwy John Richard Williams John Richard Williams (Tryfanwy)
Tryfanydd Thomas Radcliffe Thomas Radcliffe (Tryfanydd)
Tudwal Hugh Tudwal Davies Hugh Tudwal Davies (Tudwal)
Wil Parsal William Jones William Jones (Wil Parsal)
Wil Tan-y-Maes William Evans William Evans (Wil Tan-y-Maes)
Wil Tyddyn William Jones William Jones (Wil Tyddyn)