Pontydd Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Pont Rhyd-y-meirch, pont draddodiadol hynafol
Pont-y-Cim, 1619, ar yr hen lôn i Bwllheli o Gaernarfon
Pont Baladeulyn, pont ddiweddar wedi ei hadeiladu o goncrît

Dyma erthygl gyffredinol am Bontydd Uwchgwyrfai ar ffyrdd a llwybrau lle maent yn croesi afon. Gweler erthygl ar wahân am bontydd rheilffordd.

Isod fe restrir yr holl bontydd dros ddŵr y gwyddys amdanynt o fewn ffiniau'r cwmwd, ac (os oes erthygl wedi ei dechrau ar bont) trwy glicio ar yr enw mi ewch at y dudalen honno'n syth. Y prif ffynonellau am fodolaeth pontydd y cwmwd yw:

  • mapiau Ordnans o 1888 ymlaen[1]
  • cynlluniau a manylebau Syrfewr y Sir yn Archifdy Gwynedd,[2]
  • dogfennau amrywiol o fewn ffeiliau'r Llys Chwarter, [3]

Pontydd a'u hanes

Mae pontydd wedi bod yn nodwedd o brif ffyrdd y sir ers y Canol Oesoedd, ac yn aml mae eu henwau wedi parhau hyd heddiw er i'r bont wreiddiol gael ei hailadeiladu sawl tro erbyn hyn. Ers cyfnod y Tuduriaid, mae awdurdodau'r sir (ar ffurf yr ynadon a eisteddai mewn sesiynau gweinyddol o'r Llys Chwarter) wedi bod yn gyfrifol am godi ac atgyweirio pontydd cyhoeddus.

Cyn bod pont, yr oedd yna fel rheol ryd o ryw fath, neu efallai gerrig camu, ac yr oedd yn haws i geffyl (neu hyd yn oed gerddwr ar droed) rydio afon na mynd y ffordd hir o amgylch y rhwystr, er mor beryglus y gallai hynny fod ar adegau o lif mawr. Yn y dyddiau cynnar iawn, pan orchuddid llawer o'r tir â choedwigoedd a chorsydd, byddai'n haws defnyddio'r traeth i deithio ymhell ac, yn y fan honno, haws efallai oedd rhydio afon fel yr ymledai ar draws y tywod a'r cerrig ar adegau o drai. Yn y mewndir, ar wahân i Afon Gwyrfai ac Afon Llyfnwy fodd bynnag, haws yn nyddiau cynnar teithio oedd osgoi mannau peryglus gyda cheunentydd ac ati a chwilio am fan lle rhedai'r afon yn fas, os yn llydan.

I ddechrau, ar y prif lwybrau teithio y codwyd pontydd, rhai ohonynt i osgoi perygl penodol (e.e. Pont y Cim) a rhai eraill i hwyluso trafnidiaeth fel y daeth cerbydau olwynog yn fwy cyffredin (ar ôl tua 1700). Cynyddodd yr angen fel y datblygodd yr angen am symud nwyddau trwm, megis llechi, gyda'r gwaith o adeiladu ffyrdd tyrpeg o 1780 ymlaen. Erbyn canol y 19g., prin oedd y rhydau oedd yn dal i gael eu defnyddio, ar wahân i rai ar ffermydd ac ambell i afonig fechan yn y mynyddoedd. Ym mis Mehefin 1855, fe ysgrifennodd Owen Jones, un o swyddogion y sir, at yr Arglwydd Newborough, Cadeirydd y Llys Chwarter, gan ddweud nad oedd yna fawr o ffyrdd a gynhelid gan y plwyfi nad oedd iddynt bont neu gwlfert dros bob un nant, ond bod angen rhyw 5 pont sylweddol rhwng Pen-y-groes a Rhyd-ddu.[4]

Nodwedd sawl pont yw'r sarnau sydd yn arwain ati, oherwydd natur gorsiog iawn y tir o amgylch yr afon ei hun. Sarnau yw'r llwybrau a adeiledid trwy gorsdir i ffurfio llwybr sych. Mae'r rhai pwysicach wedi hen ddiflannu dan ffyrdd modern, ond gwelir enghreifftiau da ar hyd llwybrau cyhoeddus y dyffryn, lle maent yn dal i gael eu defnyddio.

Rhestr o bontydd y cwmwd

Rhestrir enwau'r pontydd dan enw'r afon sy'n llifo odanynt, ac yn nhrefn y pontydd o darddiad yr afon at ei haber. Nodir pontydd nad yw eu henwau'n hysbys trwy ddisgrifio eu lleoliad. Fe'u rhestrir fesul afon, o'i tharddiad hyd at yr aber, yn cychwyn o'r gogledd, sef Afon Gwyrfai sydd yn ffurfio ffin ogleddol y cwmwd. Heblaw am un neu ddau o achosion neilltuol, ni nodir pontydd troed, pomprennau, cerrig camu ac ati, gan eu bod yn dueddol o fod yn fyrhoedlog ac nid oes enwau ar fawr ohonynt. Mae categori ar wahân yn cynnwys erthyglau sy'n sôn am rydau sylweddol.

Afon Gwyrfai

Mae'r pontydd hyn yn cysylltu glannau Uwchgwyrfai ac Isgwyrfai yr afon.

Afon Rhyd

Afon Carrog

Afon Llifon

Afon Foryd

Afon Llyfni (yn cynnwys Afon Drws-y-coed)

Afon Crychddwr

Afon Cwm Dulyn

Afon Pant-glas

Afon Dwyfach

Afon Desach

Afon Hen

Afon Tâl

Afon Erch

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Llyfrgell Genedlaethol yr Alban: [1].
  2. Archifdy Gwynedd, cyf. XPlansB/.
  3. Archifdy Gwynedd, cyf. XQS/passim.
  4. Archifdy Gwynedd, XD2/24838.