Pont Cae Doctor Bach

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Pont Cae Doctor Bach yn croesi Afon Carrog ger tŷ o'r un enw sydd yn sefyll ar ochr y lôn sydd yn arwain o Saron i bentref Llandwrog. Mae un pen i'r bont ym mhlwyf Llanwnda a'r llall yn Llandwrog. Nid yw'r map degwm yn hollol glir ond ymddengys o'r map hwnnw fod y bont yno tua 1840, er nad oes sicrwydd pa mor hen ydyw.

Roedd teulu i'r Dr. John Gwilym Jones yn byw yng Nghae Doctor Bach, ac mae yna ffilm archif ar gael gyda llun cyfareddol o'r John Gwilym Jones yn hen ddyn yn cerdded ar hyd cantal y bont fel y gwnaeth lawer tro pan oedd yn fachgen.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma