John Gwilym Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Dramodydd a darlithydd Cymraeg oedd Dr. John Gwilym Jones (1904-1988).

Roedd yn frodor o’r Groeslon, ac yn ysgrifennydd llwyddiannus. Cyhoeddodd storïau a nofelau megis Y Goeden Eirin, a dramâu adnabyddus fel Y Tad a’r Mab a Ac Eto Nid Myfi. Bu'n athro yn Llundain am gyfnod, cyn cael swydd fel cynhyrchydd drama gyda’r BBC. Ym 1950 sgriptiodd y ffilm enwog Noson Lawen ac ym 1953, y ffilm fer i blant Llythyr o Gymru/A Letter from Wales.[1]

Bu wedyn yn ddarlithydd poblogaidd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Cyfrannodd at fywyd y Coleg hefyd trwy gynhyrchu nifer sylweddol o ddramâu ar gyfer Cymdeithas y Ddrama Gymraeg, a daeth sawl aelod, dan ei arweiniad o, yn actorion proffesiynol o'r radd flaenaf, megis John Ogwen a Maureen Rhys.[2]

Cyfeiriadau

  1. Gwefan y BFI [1], cyrchwyd 25.10.2023
  2. Erthygl am Dr. John Gwilym Jones ar Wicipedia; Cymdeithas Hanes Y Groeslon, Hanes y Groeslon (2000)