Pont Ffordd yr Eifl

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Pont Ffordd yr Eifl neu Pont Kit yn croesi Afon Tâl yng ngwaelod Ffordd yr Eifl yn Nhrefor.

Cafodd y bont ei chodi'n wreiddiol gan gwmni Chwarel yr Eifl wrth i bentref newydd Trefor ddatblygu o 1856 ymlaen, er mwyn cysylltu'r pentref a'r chwarel. Dichon bod rhyd yno cyn hynny. Wrth i brif stryd y pentref, sef Ffordd yr Eifl (neu Farren Street yn wreiddiol - wedi ei henwi ar ôl George Farren, rheolwr y gwaith), gael ei datblygu, adeiladwyd rhannau ohoni y ddwy ochr i'r afon ac roedd y bont hon yn cysylltu rhan isaf a rhannau uchaf y stryd. Cafodd y bont ei lledu a'i chryfhau ar fwy nac un achlysur. Am rai blynyddoedd yn ail hanner yr 20g fe'i gelwid gan lawer yn y pentref yn "Bont Kit", a hynny ar ôl Kit Parry (1922-97) a oedd yn byw yn Hendy, y tŷ agosaf at y bont. Am gyfnod bu Kit Parry yn cadw siop fechan ar lain o dir dros y ffordd â Hendy ar lan yr afon (gweler yr erthygl ar Siopau yn Nhrefor

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma