Pont Cwellyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Pont Cwellyn, fel y mae hi'n bresennol, yn bont ar ffurf sarn gyda thri bwa dros hyd o 77 llath, ger ffermydd Cwellyn a Phlanwydd. Bu hen bont ar y safle cyn 1778.[1] Mae'n sefyll ar yr hen ffin rhwng plwyfi Llanwnda, Beddgelert a Betws Garmon lle mae afonydd Bron-y-fedw ac Afon Gwyrfai yn llifo i mewn i ben uchaf Llyn Cwellyn, ar y briffordd o Gaernarfon i Feddgelert (yr A4085 bresennol). Cafodd ei thrwsio a'i gwella ym 1829-30 gan y contractwyr Lewis Williams a John Parry, seiri maen. Roedd y gwaith yn cynnwys sythu darn o'r ffordd fel y byddai'r ddwy afon yn llifo o dan y bont. Ar fapiau Ordnans, fe roddir yr enw Pont Glan-yr-afon neu Bont Cwellyn Rhif 2 i'r bont dros Afon Bron-y-fedw a Phont Cwellyn Rhif 1 i'r darn o'r bont sy'n croesi'r Afon Cwellyn neu Wyrfai. O'r holl adeiladwaith, dim ond un talcen i Bont Gwyrfai 1 sydd yn Uwchgwyrfai.[2]

Roedd y bont oedd yno'n wreiddiol ond yn croesi Afon Cwellyn, gan adael yr afon arall (mae'n debyg) i beri llifogydd ar adegau o storm. Mae'n amlwg fod pont yno cyn 1778[3] ac mae bond wedi ei lofnodi gan Henry Parry, Moel-y-don, Ynys Môn, saer melinau; Griffith Williams, Llanllechid, saer maen; a John Hughes, Drws-y-coed, Beddgelert, saer maen, yn nodi eu bod wedi codi pont newydd y flwyddyn honno ar gost o £200 yn lle'r hen bont a oedd yn "annigonol, anghyfleus a heb fod mewn cyflwr da".[4] Fe ymddengys iddi gael ei chodi, neu ei hail-godi, tua 1800 (a barnu oddi wrth arddull y cynlluniau a'r ysgrifen ar y dogfennau sydd ar gael). Yr adeiladydd y pryd hynny oedd Lewis Ellis a'i bartneriaid a gwnaed y dyluniad gan John Hughes, saer melinau. Y gost y pryd hynny, mae'n ymddangos, oedd £251.12.0c.[5]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd XPlansB/153
  2. Map Ordnans 6" i'r filltir, arolwg 1888
  3. Archifdy Caernarfon XPlansB/153
  4. Archifdy CaernarfonXPlansB/150, 173
  5. Archifdy CaernarfonXPlansB/76