Pontydd Rheilffordd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Adeiladwyd nifer o bontydd rheilffordd gan y tair prif reilffordd sydd wedi rhedeg yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf yn Uwchgwyrfai, sef Rheilffordd Nantlle, Rheilffordd Sir Gaernarfon, a ddaeth wedyn yn rhan o rwydwaith cenedlaethol y rheilffyrdd, a Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru. Ar ôl cau'r rheilffyrdd, chwalwyd rhai pontydd gan eu bod yn rhwystr i ddatblygiadau newydd neu oherwydd eu bod yn beryglus, tra bod eraill yn dal i sefyll. Mae Rheilffordd Eryri wedi ailddefnyddio rhai o'r pontydd hyn wrth agor o Gaernarfon i ffin Uwchgwyrfai ger gorsaf Rhyd-ddu. Fel arfer enwyd y pontydd hyn ar ôl fferm neu dŷ cyfagos - megis Pont Cae-moel.

Ceir rhai pontydd dros afonydd a nentydd, a darparwyd pontydd lle roedd y rheilffordd a'r ffordd yn croesi ei gilydd ar lefelau gwahanol, lle'r oedd y lein o gledrau'n rhedeg mewn hafn (cutting) neu ar arglawdd (embankment). Lle roedd y ffordd yn brysur, codwyd argloddiau a phontydd i gario ffyrdd dros y rheilffordd mewn achosion lle roedd maint y drafnidiaeth yn gwneud crosin neu groesfan yn anymarferol. Gwnaed pontydd bach hefyd i hwyluso gwaith ffermwyr ac eraill a oedd â thir y ddwy ochr i'r lein, ac weithiau bontydd bach isel ar gyfer anifeiliaid.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau