Rheilffordd Eryri

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Rheilffordd Eryri yw'r enw a fabwysiadwyd yn y 1990au gan gwmni Rheilffordd Ffestiniog wrth ail-adeiladu prif lein Rheilffordd Ucheldir Cymru a'i hymestyn i Gaernarfon. Er i enw Welsh Highland Railway gael ei ddefnyddio o hyd yn Saesneg, penderfynodd y nifer helaeth o Gymry Cymraeg oedd wrthi'n adfer y lein mai Rheilffordd Eryri fyddai'n enw mwy addas arni, gan fod lein fach arall ym Mhorthmadog yn defnyddio enw cyffelyb - sef y Welsh Highland Heritage Railway. Enw marchnata felly, yn hytrach nag enw ar gwmni, yw "Rheilffordd Eryri".