Pont Henryd Isaf

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pont Henryd Isaf yw enw'r bont ddi-sylw ar draws Afon Rhyd i'r de o bentrefan Glan-rhyd ym mhlwyf Llanwnda, ar y lôn gefn i gyfeiriad Llandwrog.[1] Mae Pont yr Henryd yn uwch i fyny'r un afon, ger Tyddyn y Berth.

Codwyd y bont ym 1846, i gynllun John Lloyd, syrfewr y sir. Owen Prichard o'r Bontnewydd, saer maen, a Griffith Roberts, saer maen o Gaernarfon, oedd y contractwyr. Cost y gwaith oedd £78.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Map Ordnans, 6" i'r filltir, arolwg 1899
  2. Archifdy Gwynedd, XPlansB/92