Glan-rhyd
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Mae Glan-rhyd yn gasgliad o dai ger brif lôn y cwmwd ym mhlwyf Llanwnda gerllaw Ffingar. Dichon i'r dreflan dyfu o ganlyniad i godi capel yno (Capel Glan-rhyd (MC)) ym 1899. Y rhyd oedd Rhyd y Dimpan, rhyd bwysig ar y briffordd rhwng Bwllheli a Chaernarfon. Mae'n sefyll ar lannau Afon Rhyd.
Mae enw fferm Glan-rhyd yn ymddangos mewn dogfennau mor gynnar â'r 1650au, ac felly dichon ei fod yn enw fferm cyn iddo ddod yn enw treflan.