Pont Gelli-ffrydiau

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Pont y Gelli)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif Pont y Gelli neu Pont Gelli-ffrydiau ar y B4410, sef yr hen ffordd dyrpeg, ger y tŷ tyrpeg rhwng Nantlle a Drws-y-coed. Fe saif ger fferm Gelli-ffrydiau, dros afonig a elwir yn Afon Gelli-ffrydiau, sy'n rhedeg i mewn i Afon Drws-y-coed ychydig uwch na Llyn Nantlle Uchaf. Bwa syml wedi ei wneud o gerrig yw’r bont, tua 12 troedfedd o led a phen y bwa 12 troedfedd uwchben dŵr yr afon. Adeiladwyd y bont o'r newydd ym 1855, ar ôl i swyddog y sir, Owen Jones, ysgrifennu at yr Arglwydd Newborough, Cadeirydd y Llys Chwarter, i ddweud mai'r prif angen am waith ar bontydd yn y sir oedd ger Gelli-ffrydiau, nid nepell o bentref Nantlle, yn cynnwys '"Pont y Gelynan".[1] Rhaid oedd i’r contractwr ddarparu ffordd dros dro tra oedd y gwaith yn mynd rhagddo. William Thomas, adeiladydd o Ffordd Ysgubor Degwm yng Nghaernarfon oedd yr ymgymerwr. Cost y gwaith oedd £52.10s.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XD2/24855.
  2. Archifdy Caernarfon, XPlansB/29