Pont droed ger Chatham

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae pont droed ger Chatham ar draws Afon Carrog ar Lwybr yr Arfordir. Arferai fod ffordd drol lydan yn arwain o ffordd Saron i Landwrog at ryd ac wedyn ar hyd Morglawdd Morfa Dinlle neu "Y Cob". Wrth ochr y rhyd fe godwyd pompren sydd i'w gweld ar fap Ordnans 1888 ymlaen. Yn bur ddiweddar ailadeiladwyd y bont bresennol sydd bellach yn cario Llwybr yr Arfordir dros yr afon. Mae'r rhyd a'r ffordd drol wedi diflannu dan dyfiant, er bod llwybr cyhoeddus yn dilyn llinell yr hen ffordd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau