Pont Wen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pont Wen oedd enw'r bont a groesai o blwyf Llanwnda i blwyf Llandwrog dros Afon Carrog ger Tŷ'nlôn, ar yr hen lôn i Bwllheli cyn adeiladu'r ffordd dyrpeg ym 1810. Roedd yn dal i sefyll ym 1840, yn ôl map 1" cyntaf yr Ordnans a gyhoeddwyd y flwyddyn honno ond, erbyn map 1888, roedd hi wedi diflannu. Safai lle mae tŷ Bryn Afon yn sefyll heddiw, a gwelir seiliau'r bont ar ochr Llandwrog i'r afon o'r llwybr troed sy'n arwain o Bont Wyled i gyfeiriad Rhedynog Felen.