Pontydd Uwchgwyrfai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 5: Llinell 5:
Dyma erthygl gyffredinol am '''Bontydd Uwchgwyrfai''' ar ffyrdd a llwybrau lle maent yn croesi afon. Gweler erthygl ar wahân am [[Pontydd Rheilffordd|bontydd rheilffordd]].
Dyma erthygl gyffredinol am '''Bontydd Uwchgwyrfai''' ar ffyrdd a llwybrau lle maent yn croesi afon. Gweler erthygl ar wahân am [[Pontydd Rheilffordd|bontydd rheilffordd]].


Isod fe restrir yr holl bontydd dros ddŵr y gwyddys amdanynt o fewn ffiniau'r cwmwd, ac (os oes erthygl wedi ei chychwyn ar bont) trwy glicio ar yr enw mi ewch at y dudalen honno'n syth. Prif ffynonellau bodolaeth pontydd y cwmwd yw:
Isod fe restrir yr holl bontydd dros ddŵr y gwyddys amdanynt o fewn ffiniau'r cwmwd, ac (os oes erthygl wedi ei dechrau ar bont) trwy glicio ar yr enw mi ewch at y dudalen honno'n syth. Y prif ffynonellau am fodolaeth pontydd y cwmwd yw:
* mapiau Ordnans o 1888 ymlaen<ref>Gwefan Llyfrgell Genedlaethol yr Alban: [https://maps.nls.uk/os/].</ref>
* mapiau Ordnans o 1888 ymlaen<ref>Gwefan Llyfrgell Genedlaethol yr Alban: [https://maps.nls.uk/os/].</ref>
* planiau a manylebau Syrfewr y Sir yn Archifdy Gwynedd,<ref>Archifdy Gwynedd, cyf. XPlansB/.</ref>
* cynlluniau a manylebau Syrfewr y Sir yn Archifdy Gwynedd,<ref>Archifdy Gwynedd, cyf. XPlansB/.</ref>
* dogfennau amrywiol o fewn ffeiliau'r Llys Chwarter, <ref>Archifdy Gwynedd, cyf. XQS/''passim''.</ref>  
* dogfennau amrywiol o fewn ffeiliau'r Llys Chwarter, <ref>Archifdy Gwynedd, cyf. XQS/''passim''.</ref>  


Llinell 14: Llinell 14:
Mae pontydd wedi bod yn nodwedd o brif ffyrdd y sir ers y Canol Oesoedd, ac yn aml mae eu henwau wedi parhau hyd heddiw er i'r bont wreiddiol gael ei hailadeiladu sawl tro erbyn hyn. Ers cyfnod y Tuduriaid, mae awdurdodau'r sir (ar ffurf yr ynadon a eisteddai mewn sesiynau gweinyddol o'r Llys Chwarter) wedi bod yn gyfrifol am godi ac atgyweirio pontydd cyhoeddus.  
Mae pontydd wedi bod yn nodwedd o brif ffyrdd y sir ers y Canol Oesoedd, ac yn aml mae eu henwau wedi parhau hyd heddiw er i'r bont wreiddiol gael ei hailadeiladu sawl tro erbyn hyn. Ers cyfnod y Tuduriaid, mae awdurdodau'r sir (ar ffurf yr ynadon a eisteddai mewn sesiynau gweinyddol o'r Llys Chwarter) wedi bod yn gyfrifol am godi ac atgyweirio pontydd cyhoeddus.  


Cyn bod pont, yr oedd yna fel arfer rhyd o ryw fath, neu efallai gerrig camu, ac yr oedd yn haws i geffyl (neu hyd yn oed person ar droed) rhydio afon na mynd yr ffordd hir oddi amgylch y rhwystr, er mor beryglus y gallai hynny fod ar adegau o lif mawr. Yn y dyddiau cynnar iawn, pan orchuddid llawer o'r tir â choedwig a chorsydd, byddai'n haws defnyddio'r traeth i deithio ymhell, ac yn y fan honno, haws efallai oedd rhydio afon fel yr ymledai ar draws y tywod a'r cerrig ar adegau o drai. Yn y mewndir, ar wahân i [[Afon Gwyrfai]] ac [[Afon Llyfnwy]] fodd bynnag, haws yn nyddiau cynnar teithio oedd osgoi mannau peryglus gyda cheinentydd ac ati a chwilio am fan lle rhedai'r afon yn fas os yn llydan.
Cyn bod pont, yr oedd yna fel rheol ryd o ryw fath, neu efallai gerrig camu, ac yr oedd yn haws i geffyl (neu hyd yn oed gerddwr ar droed) rydio afon na mynd y ffordd hir o amgylch y rhwystr, er mor beryglus y gallai hynny fod ar adegau o lif mawr. Yn y dyddiau cynnar iawn, pan orchuddid llawer o'r tir â choedwigoedd a chorsydd, byddai'n haws defnyddio'r traeth i deithio ymhell ac, yn y fan honno, haws efallai oedd rhydio afon fel yr ymledai ar draws y tywod a'r cerrig ar adegau o drai. Yn y mewndir, ar wahân i [[Afon Gwyrfai]] ac [[Afon Llyfnwy]] fodd bynnag, haws yn nyddiau cynnar teithio oedd osgoi mannau peryglus gyda cheunentydd ac ati a chwilio am fan lle rhedai'r afon yn fas, os yn llydan.


I ddechrau, ar y prif lwybrau teithio y codwyd pontydd, rhai ohonynt i osgoi perygl penodol (e.e. [[Pont y Cim]]) a rhai eraill i hwyluso trafnidiaeth fel daeth cerbydau olwynog yn fwy cyffredin (ar ôl tua 1700). Cynyddodd yr angen fel datblygodd yr angen o symud nwyddau trwm megis llechi, gyda'r gwaith o adeiladu [[Ffyrdd Tyrpeg|ffyrdd tyrpeg]] o 1780 ymlaen. Erbyn canol y 19g., prin oedd y rhydau oedd yn dal i gael eu defnyddio, ar wahân i rai ar ffermydd ac ambell i afonig fechan yn y mynyddoedd. Ym mis Mehefin 1855, fe ysgrifennodd Owen Jones, un o swyddogion y sir, at yr [[Arglwydd Newborough]], Cadeirydd y Llys Chwarter, gan ddweud fod yna fawr o ffyrdd a gynhelid gan y plwyfi nad oedd â phont neu gwlfert dros pob un nant, ond bod angen rhyw 5 pont sylweddol rhwng [[Pen-y-groes]] a [[Rhyd-ddu]].<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/24838.</ref>
I ddechrau, ar y prif lwybrau teithio y codwyd pontydd, rhai ohonynt i osgoi perygl penodol (e.e. [[Pont y Cim]]) a rhai eraill i hwyluso trafnidiaeth fel y daeth cerbydau olwynog yn fwy cyffredin (ar ôl tua 1700). Cynyddodd yr angen fel y datblygodd yr angen am symud nwyddau trwm, megis llechi, gyda'r gwaith o adeiladu [[Ffyrdd Tyrpeg|ffyrdd tyrpeg]] o 1780 ymlaen. Erbyn canol y 19g., prin oedd y rhydau oedd yn dal i gael eu defnyddio, ar wahân i rai ar ffermydd ac ambell i afonig fechan yn y mynyddoedd. Ym mis Mehefin 1855, fe ysgrifennodd Owen Jones, un o swyddogion y sir, at yr [[Arglwydd Newborough]], Cadeirydd y Llys Chwarter, gan ddweud nad oedd yna fawr o ffyrdd a gynhelid gan y plwyfi nad oedd iddynt bont neu gwlfert dros bob un nant, ond bod angen rhyw 5 pont sylweddol rhwng [[Pen-y-groes]] a [[Rhyd-ddu]].<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/24838.</ref>


Nodwedd sawl pont yw'r sarnau sydd yn arwain ati, oherwydd natur corsiog iawn y tir o amgylch yr afon ei hun. [[Sarnau]] yw'r llwybrau a adeiladid trwy gorsdir i ffurfio llwybr sych. Mae'r rhai pwysicach wedi hen ddiflannu dan ffyrdd modern, ond gwelir enghreifftiau da ar hyd llwybrau cyhoeddus y dyffryn, lle maent yn dal i gael eu defnyddio.
Nodwedd sawl pont yw'r sarnau sydd yn arwain ati, oherwydd natur gorsiog iawn y tir o amgylch yr afon ei hun. Sarnau yw'r llwybrau a adeiledid trwy gorsdir i ffurfio llwybr sych. Mae'r rhai pwysicach wedi hen ddiflannu dan ffyrdd modern, ond gwelir enghreifftiau da ar hyd llwybrau cyhoeddus y dyffryn, lle maent yn dal i gael eu defnyddio.


==Rhestr o bontydd y cwmwd==
==Rhestr o bontydd y cwmwd==


Rhestru enwau'r pontydd dan enw'r afon sy'n llifo oddi danynt, ac yn nhrefn y pontydd o darddiad yr afon at ei haber. Nodir pontydd nad yw eu henwau'n hysbys trwy ddisgrifio eu lleoliad. Fe'u rhestrir fesul afon, o'i tharddiad hyd at yr aber, yn cychwyn o'r gogledd, sef [[Afon Gwyrfai]] sydd yn ffurfio ffin ogleddol y cwmwd. Heblaw am un neu ddau o achosion neilltuol, ni nodir pontydd troed, pomprennau, cerrig camu ac ati, gan eu bod yn dueddol o fod yn byrhoedlog ac nid oes enwau ar fawr ohonynt. Mae categori ar wahân am erthygl sy'n sôn am rydau sylweddol.  
Rhestrir enwau'r pontydd dan enw'r afon sy'n llifo odanynt, ac yn nhrefn y pontydd o darddiad yr afon at ei haber. Nodir pontydd nad yw eu henwau'n hysbys trwy ddisgrifio eu lleoliad. Fe'u rhestrir fesul afon, o'i tharddiad hyd at yr aber, yn cychwyn o'r gogledd, sef [[Afon Gwyrfai]] sydd yn ffurfio ffin ogleddol y cwmwd. Heblaw am un neu ddau o achosion neilltuol, ni nodir pontydd troed, pomprennau, cerrig camu ac ati, gan eu bod yn dueddol o fod yn fyrhoedlog ac nid oes enwau ar fawr ohonynt. Mae categori ar wahân yn cynnwys erthyglau sy'n sôn am rydau sylweddol.  


===Afon Gwyrfai===
===Afon Gwyrfai===
Llinell 51: Llinell 51:
* [[Pont Pant-y-rhedyn]]
* [[Pont Pant-y-rhedyn]]
* [[Pont Cae Doctor Bach]]
* [[Pont Cae Doctor Bach]]
* [[Pont hen wersyll Chatham]]
* [[Pont Chatham]]
* [[Pont droed ger Chatham]]
* [[Pont droed ger Chatham]]


Llinell 64: Llinell 64:
* [[Pont Rhyd-y-meirch]]
* [[Pont Rhyd-y-meirch]]


===Afon Llyfnwy (yn cynnwys Afon Drws-y-coed)===
===Afon Llyfni (yn cynnwys Afon Drws-y-coed)===
* Pont ar y B4418 ger [[Drws-y-coed]]
* Pont ar y B4418 ger [[Drws-y-coed]]
* [[Pont y Gelli]] ger fferm Gelli-ffrydiau, dros nant yn llifio i mewn i [[Afon Drws-y-coed]]
* [[Pont y Gelli]] ger fferm Gelli-ffrydiau, dros nant yn llifo i mewn i [[Afon Drws-y-coed]]
* [[Pont Gelenau]] dros nant sy'n llifio i mewn i [[Llyn Nantlle Uchaf|Lyn Nantlle Uchaf]]
* [[Pont Gelenau]] dros nant sy'n llifo i mewn i [[Llyn Nantlle Uchaf|Lyn Nantlle Uchaf]]
* [[Pont Baladeulyn]] dros [[Afon Garth]] sy'n llifio i mewn i [[Llyn Nantlle Uchaf|Lyn Nantlle Uchaf]]
* [[Pont Baladeulyn]] dros [[Afon Garth]] sy'n llifo i mewn i [[Llyn Nantlle Uchaf|Lyn Nantlle Uchaf]]
* Pont newydd rhwng pentref [[Nantlle]] a'r Ffridd
* Pont newydd rhwng pentref [[Nantlle]] a'r Ffridd
* [[Pont Sarn Wyth-dŵr]]
* [[Pont Sarn Wyth-dŵr]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:02, 10 Ionawr 2022

Pont Rhyd-y-meirch, pont draddodiadol hynafol
Pont-y-Cim, 1619, ar yr hen lôn i Bwllheli o Gaernarfon
Pont Baladeulyn, pont ddiweddar wedi ei hadeiladu o goncrît

Dyma erthygl gyffredinol am Bontydd Uwchgwyrfai ar ffyrdd a llwybrau lle maent yn croesi afon. Gweler erthygl ar wahân am bontydd rheilffordd.

Isod fe restrir yr holl bontydd dros ddŵr y gwyddys amdanynt o fewn ffiniau'r cwmwd, ac (os oes erthygl wedi ei dechrau ar bont) trwy glicio ar yr enw mi ewch at y dudalen honno'n syth. Y prif ffynonellau am fodolaeth pontydd y cwmwd yw:

  • mapiau Ordnans o 1888 ymlaen[1]
  • cynlluniau a manylebau Syrfewr y Sir yn Archifdy Gwynedd,[2]
  • dogfennau amrywiol o fewn ffeiliau'r Llys Chwarter, [3]

Pontydd a'u hanes

Mae pontydd wedi bod yn nodwedd o brif ffyrdd y sir ers y Canol Oesoedd, ac yn aml mae eu henwau wedi parhau hyd heddiw er i'r bont wreiddiol gael ei hailadeiladu sawl tro erbyn hyn. Ers cyfnod y Tuduriaid, mae awdurdodau'r sir (ar ffurf yr ynadon a eisteddai mewn sesiynau gweinyddol o'r Llys Chwarter) wedi bod yn gyfrifol am godi ac atgyweirio pontydd cyhoeddus.

Cyn bod pont, yr oedd yna fel rheol ryd o ryw fath, neu efallai gerrig camu, ac yr oedd yn haws i geffyl (neu hyd yn oed gerddwr ar droed) rydio afon na mynd y ffordd hir o amgylch y rhwystr, er mor beryglus y gallai hynny fod ar adegau o lif mawr. Yn y dyddiau cynnar iawn, pan orchuddid llawer o'r tir â choedwigoedd a chorsydd, byddai'n haws defnyddio'r traeth i deithio ymhell ac, yn y fan honno, haws efallai oedd rhydio afon fel yr ymledai ar draws y tywod a'r cerrig ar adegau o drai. Yn y mewndir, ar wahân i Afon Gwyrfai ac Afon Llyfnwy fodd bynnag, haws yn nyddiau cynnar teithio oedd osgoi mannau peryglus gyda cheunentydd ac ati a chwilio am fan lle rhedai'r afon yn fas, os yn llydan.

I ddechrau, ar y prif lwybrau teithio y codwyd pontydd, rhai ohonynt i osgoi perygl penodol (e.e. Pont y Cim) a rhai eraill i hwyluso trafnidiaeth fel y daeth cerbydau olwynog yn fwy cyffredin (ar ôl tua 1700). Cynyddodd yr angen fel y datblygodd yr angen am symud nwyddau trwm, megis llechi, gyda'r gwaith o adeiladu ffyrdd tyrpeg o 1780 ymlaen. Erbyn canol y 19g., prin oedd y rhydau oedd yn dal i gael eu defnyddio, ar wahân i rai ar ffermydd ac ambell i afonig fechan yn y mynyddoedd. Ym mis Mehefin 1855, fe ysgrifennodd Owen Jones, un o swyddogion y sir, at yr Arglwydd Newborough, Cadeirydd y Llys Chwarter, gan ddweud nad oedd yna fawr o ffyrdd a gynhelid gan y plwyfi nad oedd iddynt bont neu gwlfert dros bob un nant, ond bod angen rhyw 5 pont sylweddol rhwng Pen-y-groes a Rhyd-ddu.[4]

Nodwedd sawl pont yw'r sarnau sydd yn arwain ati, oherwydd natur gorsiog iawn y tir o amgylch yr afon ei hun. Sarnau yw'r llwybrau a adeiledid trwy gorsdir i ffurfio llwybr sych. Mae'r rhai pwysicach wedi hen ddiflannu dan ffyrdd modern, ond gwelir enghreifftiau da ar hyd llwybrau cyhoeddus y dyffryn, lle maent yn dal i gael eu defnyddio.

Rhestr o bontydd y cwmwd

Rhestrir enwau'r pontydd dan enw'r afon sy'n llifo odanynt, ac yn nhrefn y pontydd o darddiad yr afon at ei haber. Nodir pontydd nad yw eu henwau'n hysbys trwy ddisgrifio eu lleoliad. Fe'u rhestrir fesul afon, o'i tharddiad hyd at yr aber, yn cychwyn o'r gogledd, sef Afon Gwyrfai sydd yn ffurfio ffin ogleddol y cwmwd. Heblaw am un neu ddau o achosion neilltuol, ni nodir pontydd troed, pomprennau, cerrig camu ac ati, gan eu bod yn dueddol o fod yn fyrhoedlog ac nid oes enwau ar fawr ohonynt. Mae categori ar wahân yn cynnwys erthyglau sy'n sôn am rydau sylweddol.

Afon Gwyrfai

Mae'r pontydd hyn yn cysylltu glannau Uwchgwyrfai ac Isgwyrfai yr afon.

Afon Rhyd

Afon Carrog

Afon Llifon

Afon Foryd

Afon Llyfni (yn cynnwys Afon Drws-y-coed)

Afon Crychddwr

Afon Cwm Dulyn

Afon Pant-glas

Afon Dwyfach

Afon Desach

Afon Hen

Afon Tâl

Afon Erch

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Llyfrgell Genedlaethol yr Alban: [1].
  2. Archifdy Gwynedd, cyf. XPlansB/.
  3. Archifdy Gwynedd, cyf. XQS/passim.
  4. Archifdy Gwynedd, XD2/24838.