Tramffyrdd chwareli llechi Dyffryn Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:20, 12 Ionawr 2024 gan Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd nifer sylweddol o dramffyrdd yn chwareli llechi Dyffryn Nantlle, a hynny o ddechrau’r 19g. hyd nes i’r chwareli gau neu symud drosodd i ddefnyddio lorïau yn y 1960au.

Y Dechreuad

Un o’r cwmnïau a ffurfiwyd i ecsbloetio llechi ar gomin Cilgwyn tua diwedd y 1790au oedd grŵp o ddynion lleol, John Price, Thomas Jones, John Evans a Richard Roberts. Cawsant brydles gan y Goron, ac mae cofnod eu bod, gryn amser cyn 1810, wedi gosod tramffordd neu “railroad” yn chwarel Fein-goch ar Fynydd Carmel, er mwyn cludo sbwriel i’r domen.[1] Dyma, o bosibl, y sôn cyntaf am gledrffordd o unrhyw fath yn y dyffryn, ac mae’n tystio i fuddsoddiad o gyfalaf ac o gynhyrchu llechi ar raddfa ddigonol fel bod angen harneisio manteision olwynion metel ar gledrau i gludo’r gwastraff ymaith. Prif rinwedd rhedeg cerbyd ar hyd cledrau yn hytrach nag ar hyd ffordd yw’r modd y gellir sicrhau lleihad yn y ffrithiant rhwng olwyn a llawr, ac oherwydd hynny, mae angen llai o rym i symud llwythi trwm. Erbyn 1813, a’r diwydiant llechi’n tyfu, cafwyd sôn y byddai rheilffordd yr holl ffordd o’r dyffryn i’r cei yng Nghaernarfon yn torri ar gostau, ac ar ôl degawd o oedi a thrafod, aethpwyd ati i adeiladu Rheilffordd Nantlle a agorwyd ym 1828. Roedd y rheilffordd hon yn bur arloesol – er yn gyntefig i’n llygaid ni heddiw – a gosodwyd y cledrau gyda 3’ 6” o led rhyngddynt. Roedd nifer o chwareli’r dyffryn yn defnyddio’r lein i anfon eu llechi i’r porthladd, a datblygwyd nifer o ganghennau oddi ar draciau’r cwmni rheilffordd i diriogaeth y gwahanol chwareli, lle gellid eu llwytho, ac yn y man estynnwyd y traciau i gyfeiriad wyneb y graig.

Lled

Roedd traciau llydan yn gallu cludo mwy o lwyth mewn gwagenni mwy o faint. Serch hynny, roeddynt yn galw am fwy o dir i’w hadeiladu, ac roeddent yn fwy costus. Adeiladwyd Rheilffordd Nantlle gyda lled o 3’ 6” gan ei bod yn arloesol ac nad oedd unrhyw safonau wedi eu datblygu, a’r adeiladwyr felly’n medru dewis y cyfaddawd gorau rhwng effeithlonrwydd a chostau. Fel aeth y ganrif ymlaen, a’r chwareli’n tyfu’n fwy ac yn fwy cynhyrchiol, bu mwy o angen am gael tryciau a thraciau’n agosach at ymyl y graig lle nad oedd cymaint o le. Lle'r oedd angen mynd dan ddaear, roedd tryciau llai’n medru mynd i leoedd cul a chyfyng. Yn gynyddol, datblygodd fwy a mwy o dramffyrdd bach o fewn chwareli gyda lled o 2’ 0” (neu, weithiau, 1’ 11½”), y lled fwyaf cyffredin ar gyfer y diwydiant llechi. Ar ôl 1877, pan agorodd cwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru ei lein i’r Bryngwyn, datblygodd system sylweddol yn cysylltu chwareli’r tir uchel o gwmpas Moel Tryfan ac ardal Y Fron. Achosodd yr angen am dramffyrdd cul ar hyd y ponciau, i ben draw’r tomennydd ac i mewn i’r melinau beth anhawster i chwareli llawr y dyffryn oedd yn allforio eu cynnyrch ar hyd Rheilffordd Nantlle a hynny yn eu gwagenni llydan eu hunain. Ceid sawl enghraifft felly o chwareli lle'r oedd y tramffyrdd mewnol yn 2’ o led ond bod rhywfaint o draciau 3’ 6” rhwng y felin neu waelod inclein a’r rheilffordd gyhoeddus.

Tramffyrdd a changhennau 3’ 6” o led

Roedd y rhain yn gysylltiedig yn bennaf â chwareli llawr y dyffryn, ac yn tueddu cael eu hadeiladu yn y lle cyntaf yn gynharach yn y ganrif na thramffyrdd 2’ 0” o led. Nid oedd ffynhonnell rwydd ar gyfer prynu injans stêm ar gyfer traciau 3’ 6”, ac ni ddefnyddid injans stêm o gwbl ar y brif lein, a hynny dros gyfnod o bron i 140 o flynyddoedd. Haws oedd i’r chwareli ddefnyddio ceffylau fel gweddill y system. Dyma restr o’r chwareli lle ‘roedd traciau 3’ 6” i’w cael - yn rhannol neu’n unig: Chwarel Blaen-y-cae: 2’ yn y chwarel, ond efo cangen o’r inclein o Chwarel Cilgwyn i lawr at Reilffordd Nantlle yn 3’ 6”. Chwarel Cilgwyn: inclein i lawr at Reilffordd Nantlle yn 3’ 6’’, gweddill y chwarel yn mabwysiadu 2’. Gwagenni wedi eu gwneud o bren yn unig. Ar ôl cysylltu gyda thramffordd y Fron (tua 1920), y trac lled llydan a’r inclein yn cau. Chwarel South Dorothea: Trac llydan yn unig, yn ymuno â Rheilffordd Nantlle. Chwarel Dorothea: Cysylltiad gyda Rheilffordd Nantlle a pheth trac at y felin, lle ‘roedd y traciau’n lled gymysg (h.y. yn gallu cael eu defnyddio gan wagenni o led wahanol, trwy ddefnyddio tair cledren). Chwarel y Fron: Rhywfaint o drac 3’ 6” a chysylltiad llydan gyda Rheilffordd Nantlle rhwng 1864 a 1881, cysylltiad a elwid yn Rheilffordd Tal-y-sarn. Chwarel Fronheulog: Trac llydan yn unig, ynghyd â changen ar draws y dyffryn a oedd yn ymuno â Rheilffordd Nantlle. Gelwid y lein hon yn Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon. Chwarel Gallt-y-fedw. Pob trac ond ychydig o gledrau lled 2’ yng ngwaelod y twll. Cloddfa'r Coed. Trac 3’ 6” yn bennaf. Chwarel Hafodlas. Chwarel Pen-y-bryn. Linc i Reilffordd Nantlle yn 3’ 6”. Chwarel Pen-yr-orsedd. Cymysgedd o led trwy’r chwarel, llawer efo lled gymysg (sef tai cledr gyfochrog). Chwarel Tal-y-sarn Lled gymysg.

Tramffyrdd 2’ o led

Y lled arferol ar gyfer tramffyrdd y chwareli nad oeddynt yn cysylltu â Rheilffordd Nantlle oedd 2’ (neu weithiau 1’ 11½ ”) er mae’n bur sicr bod y cledrau yn symud yn aml a bod cryn wahaniaeth yn y lled, yn arbennig lle ‘roedd traciau dros dro’n cyrraedd pen draw tomen neu ben draw ponc. 2’ (neu rywbeth tebyg) oedd y lled arferol ar draws Eryri. Yn Uwchgwyrfai, ac ardaloedd Dyffryn Conwy, Penrhyn a Llanberis, roedd y lled 2’ yn y chwareli llechi i gyd. Roedd tramffyrdd mwynfeydd a chwareli ithfaen Pen Llŷn a Penmaenmawr yn tueddu gosod eu cledrau tua 3’ neu fwy ar wahân, ond 2’ oedd y lled yng nghwareli ithfaen Uwchgwyrfai i gyd. Mantais y safoni hyn oedd y gallu i symud gwagenni ac injans o’r naill chwarel i’r llall, pe bai asedau chwarel oedd yn cau’n cael eu gwerthu. Diddorol hefyd yw sylwi mai 1’ 8” oedd y tramffyrdd yng ngwaith Drws-y-coed – sydd yn tueddu awgrymu mai dylanwadau peirianyddol hollol wahanol oedd ar waith yn y fan honno, a’r lled (efallai) wedi dod i’r dyffryn gan fwynwyr o Gernyw neu Ynys Manaw. Dyma restr o chwareli llechi mwyaf Uwchgwyrfai lle defnyddid traciau 2’: Chwarel Alexandra Chwarel Blaen-y-cae Rhywfaint o drac 3’ 6” hefyd (gweler uchod). Chwarel Braich Chwarel Braich-rhydd Chwarel Brynfferam – yn ôl pob tebyg. Dim ond trac rhwng dau dwll. Chwarel Cilgwyn Rhywfaint o drac 3’ 6” hefyd (gweler uchod). Chwarel Coedmadog. Seidin o reilffordd 4’ 8½” ar ôl 1881. Chwarel Dorothea y tu fewn i’r chwarel. Rhywfaint o drac 3’ 6” hefyd (gweler uchod). Chwarel y Fron. Rhywfaint o drac 3’ 6” hefyd (gweler uchod) tan 1881, pan newidiwyd y drefn o allforio llechi, a defnyddio tramffordd newydd a gysylltai chwareli’r llethrau gogleddol gyda Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru trwy ddefnyddio inclein Bryngwyn. Chwarel Gallt-y-fedw. Dim ond traciau yng ngwaelod y twll yn 2’. Fel arall, 3’ 6”. Cloddfa'r Coed. Rhywfaint o drac 2’ wrth wyneb y graig yn ddiweddarach, 3’ 6” fel arall. Chwarel Moel Tryfan Chwarel Pen-y-bryn a Cloddfa'r Lôn. Er bod y brif system o gledrau yn chwareli hyn yn rhai 3’ 6” (gan eu bod yn rhai o’r chwareli cynnar a gysylltwyd yn syth i Reilffordd Nantlle, roedd cledrau diweddarach o fewn y chwarel yn rhai 2’. [[Chwarel Pen[-yr--orsedd]] Cledrau 1’ 11 ½” a 3’ 6” gyda’i gilydd trwy’r holl chwarel. Chwarel Tal-y-sarn Lled gymysg. Mae’r awdur J.I.C. Boyd hefyd yn credu mai’r ychydig o draciau o’r graig i’r felin a ddefnyddid yn yr holl chwareli bach ar lethr ddeheuol y dyffryn megis Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd a Chwarel Gwernor (heblaw am Chwarel Fronheulog a’r chwareli oedd yn gysylltiedig â honno) wedi defnyddio traciau 2’ o led. Systemau bach digyswllt oedd y rhain.

Pŵer

Nid oes cofnod o unrhyw injan yn tynnu gwagenni ar hyd y tramffyrdd 3’ 6”. Defnyddid dim ond ceffylau, heblaw am ychydig fisoedd ar ddiwedd oes Rheilffordd Nantlle yn y 1960au pan ddefnyddid tractor. Roedd nifer o’r chwareli oedd â chledrau 2’ yn defnyddio injans stêm. Roedd y rhain o ddau fath, rhai confensiynol a brynwyd fel arfer oddi wrth ffatrïoedd yn Lloegr, megis Hunslet a Bagnall; a rhai o’r cyfnod cynnar a wnaed yn ffatri de Winton yng Nghaernarfon. Roedd y rhai olaf hyn yn nodedig gan fod eu bwyleri’n fertigol yn hytrach na llorweddol. Roedd Chwareli Cilgwyn, Moel Tryfan, a Phen-yr-orsedd wedi prynu injans disel neu betrol fel ychwanegiadau at eu fflyd o injans stêm fel yr oedd y rheiny’n heneiddio, a hynny yn y 1930au.[2]

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Prifysgol Bangor, Llsgr. Porth-yr-aur 27375, 27523, dyfynnwyd gan Jean Lindsay, op. cit., tt.75-6.
  2. J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), tt.229-46