Hafan
CAIS AM WYBODAETH Mae Adrian Roberts, Bethel, yn awyddus i ddod o hyd i ddisgynyddion OWEN ROBERTS a anwyd ar Orffennaf 27 1851 yn Nhyn-llan, Llanaelhaearn yn fab i Owen Roberts (gwehyddwr) a Mary Roberts. Bu farw ar Dachwedd 14 1929 ym Modgybi, Clynnog ac fe’i claddwyd ym Mynwent Eglwys Beuno Sant. Mab iddo oedd Owen Richard Roberts a anwyd ar Fawrth 8fed 1876. Bu ef farw ar Chwefror 11eg1932 a’i gladdu yn yr un fynwent. Mae gan Adrian Roberts Feibl Teuluol (Peter Williams) mewn cyflwr da a phapurau yr hoffai eu cyflwyno i’r disgynyddion. Am ragor o fanylion cysyllter â hanes.uwchgwyrfai@gmail.com |
Cyflwyniad
Croeso i Cof y Cwmwd. Mae'n gweithio'n debyg iawn i Wicipedia. Mae Cof y Cwmwd yn ymdrin ag ardal Uwchgwyrfai, gan gadw at yr hen ffiniau canoloesol - sef plwyfi hanesyddol Clynnog Fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda; yr oedd Llanwnda'n blwyf mwy yn y gorffennol, gan gynnwys hanner plwyf modern Betws Garmon. Mae hyn yn cynnwys Dyffryn Nantlle i gyd bron hyd at Ryd-ddu ac wedyn ar hyd Afon Gwyrfai o Ryd-ddu trwy'r Bontnewydd ac at y môr.
Ein nod yw cyflwyno gwir hanes ein cenedl i bobl Uwchgwyrfai a Chymru gyfan, a hynny gyda help unrhyw un sydd am ymuno yn y gwaith. Hawdd iawn yw ychwnegu ffeithiau at erthygl, neu greu erthygl o'r newydd, ac rydym yn eich gwahodd yn gynnes iawn i wneud hynny.
Cewch fwy o wybodaeth am Cof y Cwmwd wrth glicio yma.
Sut i ddarllen erthygl neu ganfod ffeithiau
Defnyddiwch y blwch Chwilio ar ben y sgrîn hon, ar y dde - neu gliciwch Holl gategorïau ar y rhestr ar y chwith i weld pa gategorïau o bynciau sydd ar gael. Os gwelwch eiriau lliw glas rhywle ar y wefan hon, gallwch gliciwch arnynt ac mi ewch yn syth at yr erthygl berthnasol.
Os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano, cliciwch yma i ganfod dolennau at wefanau eraill all fod o ddefnydd i chi.
NEU BETH AM... ddysgu rhywbeth newydd am eich dyffryn? Cliciwch ar Tudalen ar hap ar y chwith a 'does wybod be' wnewch chi ei ddysgu
Erthyglau newydd
- Cyfrif Deon Eglwys Gadeiriol Bangor, 1398
- Taxatio Lincoln 1291
- Asesiad Deoniaeth Arfon o'r Degwm
- Stent Tiroedd Esgobaeth Bangor ?1335
- Bae Foryd
- Cored Gwyrfai
- Gored Gwyrfai
- Geoffrey Trefnant
- Jeffrey Trefnant
- Sieffre Trefnant
- Gored Beuno
- Gwyddeint
- Clynnog Fechan
- Moweddus
- Siarter Eglwys Clynnog Fawr
- Maengwyn, Llanwnda
- Grace Gwyneddon Davies
- Robert Gwyneddon Davies
- Glan Peris
- Griffith G. Jones (Glan Peris)
Cyfanswm: 1,796 erthygl
Sut i ychwanegu gwybodaeth
Gwefan gydweithredol yw Cof y Cwmwd a chaiff pawb gyfrannu ati.
Mae'n hawdd i chi ychwanegu ffeithiau at erthygl neu ysgrifennu erthygl ar bwnc newydd, ac mae arnom wir angen eich cyfraniadau er mwyn sicrhau y bydd Cof y Cwmwd yn cynnwys pob elfen o hanes Cwmwd Uwchgwyrfai. Peidiwch â meddwl bod eraill yn gwybod mwy na chi am eich ardal. Cyflwynwch eich gwybodaeth; dyna sut y daw ffeithiau newydd i'r golwg. Am fwy o wybodaeth am gyfrannu erthygl neu ychwanegu/cywiro ffeithiau, cliciwch yma.
Yn fwy na dim, mentrwch! Ni ellir gwneud dim i'r wefan nad yw'n bosibl ei wrthdroi. Felly, allwch chi ddim gwneud stomp o bethau .
Angen syniadau am erthygl? Cliciwch ar unrhyw eiriau coch yn y testun - neu cliciwch yma.
Enwau lleoedd
Cymraeg yw iaith gwefan Cof y Cwmwd ac felly defnyddir yr enw Cymraeg bob tro, boed y lle yng Nghymru neu'n rhywle arall - a bwrw bod enw Cymraeg ar gael, e.e. "Lerpwl". Am restr o'r enwau hyn gweler [1] am restr o enwau Lloegr; a [2] am restr o enwau lleoedd yr Alban.
Mae rhai enwau lleol yn cael eu sillafu mewn sawl ffordd, a rhaid oedd penderfynu ar y sillafiad y byddwn yn ei ddefnyddio, er mwyn i fynegai'r safle weithio'n iawn. Dyma'r ffurfiau sy'n cael eu defnyddio yng Nghof y Cwmwd: Bethesda Bach; Bwlchderwin; Clynnog Fawr; Drws-y-coed; Glan-rhyd; Gurn Goch; Isgwyrfai; Maestryfan; Pant-glas; Pen-y-groes; Pontlyfni; Rhosgadfan; Rhos-isaf; Rhostryfan; Rhyd-ddu; Tal-y-sarn; Tan'rallt; Tai Lôn; Tŷ'nlôn; Uwchgwyrfai; Y Bontnewydd; Y Fron; Y Groeslon.
Iaith Cof y Cwmwd
Ffynhonnell o wybodaeth Gymraeg ei hiaith yw Cof y Cwmwd. Mae erthyglau Cymraeg am rai elfennau o hanes Uwchgwyrfai ar gael hefyd ar Wicipedia Cymraeg - ac wrth gwrs mewn ieithoedd eraill ar Wikipedia. Cofiwch hefyd fod modd i ffrindiau di-Gymraeg fentro cael cyfieithiad (o ryw fath!) o erthyglau Cof y Cwmwd trwy ddefnyddio Google Translate.
Canolfan Hanes Uwchgwyrfai
Dyma'r ganolfan yng nghwmwd Uwchgwyrfai sy’n costrelu dyheadau a hanes ardal sy’n enwog am ei chyfraniad addysgol, diwylliannol a chrefyddol. Dyma’n wir bwerdy bro. Lleolir y Ganolfan yn hen ysgoldy Eben Fardd yng Nghlynnog Fawr yn Arfon.
Elusen gofrestredig yw Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Ymysg y gweithgareddau, trefnir darlithoedd bob mis ac ar ddyddiau coffa ein cenedl; cynhelir ysgolion undydd i ledaenu ein gwir hanes ac arddangosfeydd achlysurol; cynhelir clwb darllen misol; a chyhoeddir cylchgrawn sain, yr Utgorn, bob chwarter sy'n ymdrin â phynciau hanesyddol a diwylliannol, ac a ddosberthir i danysgrifwyr. Caiff y deillion ei dderbyn am ddim ond iddynt wneud cais. Yng nghefn y ganolfan ceir gardd draddodiadol Gymreig y mae rhai o'r aelodau'n edrych ar ei hôl.
Ewch i brif wefan Canolfan Hanes Uwchgwyrfai am fanylion llawn a'r newyddion diweddaraf.
A oes gennych sylwadau?
Mae modd rhoi sylwadau am unrhyw dudalen trwy ddefnyddio'r botwm Sgwrs ar ben erthygl (mae un ar dop y dudalen hon, er enghraifft). Ond os yw'n well gennych anfon e-bost, gallwch gysylltu â rheolwyr Cof y Cwmwd trwy yrru e-bost at wiciuwchgwyrfai@talktalk.net .