Thomas Pennant yn Uwchgwyrfai
Eleni (2026) mae'n drichanmlwyddiant geni'r teithiwr, hanesydd, hynafiaethydd a naturiaethwr Thomas Pennant (1726-98) o'r Downing yn Sir y Fflint. Ysgrifennodd nifer o lyfrau sylweddol ar wahanol feysydd a theithiodd yn helaeth iawn, nid yn unig yng Nghymru, ond yn Yr Alban, Lloegr ac Iwerddon, yn ogystal ag i rai mannau ar gyfandir Ewrop. Ffrwyth ei deithiau yng Nghymru oedd ei Tours in Wales a gyhoeddwyd mewn tair rhan. Dros y blynyddoedd ymddangosodd sawl argraffiad o'r teithiau difyr hyn ac ym 1885 cyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg ohonynt, sef Teithiau yng Nghymru o waith Yr Athro John Rhŷs, Athro Astudiaethau Celtaidd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Isod ceir golwg ar ymweliad Pennant ag Uwchgwyrfai yn ystod ei deithiau a daw'r dyfyniadau a nodir o gyfrol John Rhŷs.
Thomas Pennant yn Uwchgwyrfai
Ar ôl ymweld â Beddgelert aeth Pennant ymlaen am Ryd-ddu a Llyn Cwellyn a daeth i mewn i Uwchgwyrfai drwy fwlch Drws-y-Coed. Ceir tipyn o hanes Llyn y Dywarchen ganddo gan gyfeirio at sylwadau Gerallt Gymro am yr ynys a oedd yn crwydro ar hyd a lled y llyn. Dywed y bu peth cloddio am gopr yn Nrws-y-Coed ychydig flynyddoedd cyn ei ymweliad a bod 'llafnau tra theneuon o'r metel cynhenid' i'w cael yn y creigiau yno. Aeth yn ei flaen i gael golwg ar ddau lyn Nantlle 'y rhai a ffurfiant ddwy len brydferth o ddwfr'. Cyfeiria at yr olygfa wych o'r Wyddfa drwy fwlch Drws-y-Coed a anfarwolwyd yn narlun Richard Wilson yr oedd Pennant yn gyfarwydd ag o. Mae'n sôn hefyd i Edward I aros am gyfnod ym maenor Nantlle yn haf 1284 gan gyfeirio nifer o'i orchmynion i'w swyddogion oddi yno.
Yn hytrach na mynd ymlaen drwy ddyffryn Nantlle trodd Pennant yn ei ôl o Faladeulyn a dychwelyd i gyfeiriad Beddgelert a Phont Aberglaslyn gan deithio drwy Eifionydd a Llŷn a dychwelyd i gwmwd Uwchgwyrfai drwy Fwlch yr Eifl.
Ar ôl iddo fod i lawr i Nant Gwrtheyrn daeth Pennant at dri chopa'r Eifl o gyfeiriad Llŷn gan ddisgrifio eu 'pennau pigfain fel torthau siwgr gwyn' yn gwahanu Llŷn oddi wrth gantref Arfon. Dywed 'Ar draws y bwlch, o'r naill gopa o'r Eifl i'r llall, ymestynna caer anferthol o gerrig, neu efallai weddillion mur, yr hyn a gaea y bwlch i fyny yn gyfan.' Mae'n ymddangos nad at Fwlch yr Eifl rhwng Garnfor (Mynydd y Gwaith) a'r Garn Ganol y cyfeiria, ond at y bwlch rhwng y Garn Ganol a Mynydd Ceiri, oherwydd mae'n mynd i fyny'r llethr i gaer Tre'r Ceiri. Ceir disgrifiad pur fanwl ganddo o'r muriau allanol a'r cytiau o fewn y safle, gan nodi eu bod yn amrywio o ran siapiau - crwn, hirgrwn, hirgul a sgwâr. Tua chanol y safle dywed fod yna le sgwâr wedi ei amgáu â cherrig, math o 'braetoriwm'. Ymddengys fod y safle mewn cyflwr da bryd hynny gyda'r mur allanol yn bymtheg troedfedd o uchder mewn mannau. Ar ôl dod i lawr ochr ddeheuol Mynydd Ceiri aeth Pennant wedyn i gopa Carnguwch i archwilio'r garnedd enfawr o gerrig sydd yno. Credai fod tŵr mawr yno ar un adeg a'i fod yn gweithredu fel math o orsaf allanol i Dre'r Ceiri. Gelwid yr adfeilion yn lleol yn Arffedogiad y Gawres.
Oddi yno aeth i lawr i bentref Llanaelhaearn, gan nodi fod y chwedl am Aelhaearn Sant 'yn rhy warthus i'w hadrodd'! Cyfeiria at rinweddau'r ffynnon yno i iacháu clefydau ond nid yw'n sôn o gwbl am yr eglwys a'r cerrig Cristnogol cynnar a geir ynddi. Pentref Clynnog oedd y man nesaf ar ei daith 'yr hwn a saif mewn llwyn bychan yn agos i lan y môr wrth droed y mynyddoedd'. Ymwelodd â'r eglwys gan ei disgrifio'n bur fanwl. Dywed fod yr hynafiaethydd John Leland wedi cyfeirio at yr eglwys fel un newydd pan ymwelodd â'r lle yn nechrau'r 16g a bod yr hen eglwys ar safle Capel Beuno, a godwyd mae'n debyg wedi ymweliad Leland. Ceir y stori am ddod â chleifion i'r Capel ar ôl eu trochi yn Ffynnon Beuno gerllaw a'u rhoi i orwedd ar frwyn dros nos ger bedd Sant Beuno. Dywed Pennant iddo weld gwely plu ar y bedd, lle bu claf o'r parlys o Sir Feirionnydd yn gorwedd dros nos yn disgwyl iachâd.
Dywed hefyd nad oedd yr hen arferiad o offrymu lloi ac wyn gyda Nod Beuno arnynt at gynnal yr eglwys wedi darfod yn llwyr erbyn cyfnod ei ymweliad ef. Cyflwynid yr anifeiliaid hyn i'r eglwys ar Sul y Drindod a rhoddid yr ychydig arian a geid amdanynt yng Nghist Beuno a'i ddefnyddio i atgyweirio'r adeiladau neu at gynnal y tlodion.
Ymwelodd â Cromlech Bachwen, gan ei chysylltu â'r Derwyddon, fel roedd yn gyffredin bryd hynny. Sylwodd Pennant yntau ar y tyllau bas niferus ar y garreg uchaf gan ddyfalu eu bod yn gysylltiedig ag 'ymarfer rhyw fath o ddewiniaeth'. Dywed hefyd fod carreg unigol ar ei phen yn sefyll tua 30 llath oddi wrth y gromlech gan awgrymu ei bod yn 'dynodi pa mor agos y gallai y bobl ddynesu at y lle, pan fyddai yr offeiriad Derwyddol yn aberthu'. (Nid yw'r garreg hon yn sefyll yno bellach.)
Croesodd Pennant afon Llyfni (dros Bont y Cim mae'n debyg) a rhoddwyd gwybod iddo am gaer Craig y Dinas gerllaw, ond nid yw'n ymddangos iddo ymlwybro yno. Aeth yn ei flaen i ymweld â chaer Dinas Dinlle gan ddisgrifio'r cloddiau a'r ffosydd amddiffynnol. Credai fod y pridd a gloddiwyd i ffurfio'r tir gwastad o fewn y gaer wedi cael ei ddefnyddio i wneud y clawdd amddiffynnol uchaf. Yn y gaer gwelodd weddillion adeiladau hirsgwar o bridd a cherrig. Credai Pennant mai amddiffynfa Rufeinig oedd hon ar sail bod arian Rhufeinig wedi cael eu darganfod yno ac y gallai fod ganddynt borthladd bychan yno. Bryd hynny hyd yn oed roedd llawer o'r safle wedi ei golli i'r môr, 'Y mae y tonnau wedi gwneud anrhaith dirfawr, ac wedi gwisgo un ochr ohoni yn ddibyn mawr.'
Cydymaith Pennant yn Ninas Dinlle oedd yr hynafiaethydd Richard Farrington a aeth â Pennant i'w gartref yn Dinas Dinoethwy, gan ddangos amddiffynfa Dinas y Prif iddo ar y ffordd. Disgrifia Pennant hwn fel gwersyll bychan tua 44 llathen sgwâr gyda phob congl yn uwch na'r muriau a sylfeini adeiladau cerrig o'i fewn. Damcaniaethai y gallai fod yn wersyll haf i bennaeth caer Segontium.
Galwodd Pennant hefyd yn Glynllifon gan nodi ei fod yn blas a adeiladwyd gan y diweddar Syr John Wynn. Ceir hanes sylfaenydd honedig y teulu, Cilmyn Droed-ddu, a'r chwedlau amdano, ond fawr fanylion eraill ac eithrio i Glynllifon ddod i feddiant Thomas Wynne o Foduan drwy ei briodas â Frances, aeres Glynllifon.
Gadawodd Pennant gwmwd Uwchgwyrfai drwy groesi Afon Gwyrfai ar draws Y Bont Newydd, ac aeth yn ei flaen i Gaernarfon lle bu'n aros am dipyn.
[I'w barhau a'i olygu]