Richard Wilson

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Portread o Richard Wilson gan Anton Raphael Mengs(1752)

Hanai Richard Wilson (1713-1782), yr arlunydd byd-enwog, o Benegoes, Sir Drefaldwyn lle 'roedd ei dad yn ficer. Ar ochr ei fam, roedd yn perthyn i deulu Plas Coed-llai, Sir Ddinbych, a thrwy hynny roedd yn gyfyrder (ail gefnder) i Richard Garnons o Golomendy, Sir Ddinbych, a Phant Du, Dyffryn Nantlle.[1]

Roedd Wilson yn enwog am ei dirluniau, ac un o'r rhai mwyaf enwog yw'r hwnnw o'r Wyddfa o Ddyffryn Nantlle. Roedd Dyffryn Nantlle yn bur ddiarffordd yn y 18g, ac aeth y rhan fwyaf o deithwyr pleser a ymwelodd ag Eryri trwy Dyffryn Ogwen neu Feddgelert. Rhaid felly dybio fod ei berthynas weddol agos â Garnons a Phant Du yn rheswm iddo ymweld â Dyffryn Nantlle - er hyd yn hyn ni chafwyd unrhyw dystiolaeth ymhle y byddai wedi aros, ai ym Mhant Du ynteu yn y tŷ a oedd gan y teulu yng Nghaernarfon, sef Plas Llanwnda.

Perthynas agos iddo oedd David Wilson a gadwodd ysgol yn Ffrwd, Llandwrog rhwng 1787 a 1789.





Darlun Wilson o'r Wyddfa o Lyn Nantlle

Yr Wyddfa o Lyn Nantlle (tua 1766). Oriel Gelf Walker, Lerpwl

Mae'r llun hwn yn un o'r delweddau cynharaf o Ddyffryn Nantlle, ac mae'n ddiddorol iawn gan ei fod yn dangos rhan uchaf y dyffryn cyn i chwareli a mwyngloddio wneud fawr o farc ar y tirlun. Y llyn yn y blaendir yw Llyn Nantlle Isaf, sydd wedi hen ddiflannu dan ysbwriel y chwareli a chynllun traenio. Ymhellach i mewn i'r olygfa, gwelir y striben denau o dir wrth Baladeulyn a oedd yn gwahanu'r llyn isaf oddi wrth Llyn Nantlle Uchaf. Os oes lle i feirniadu realaeth y llun, gellid dweud fod y tir yn y blaendir wedi ei gywasgu er mwyn i'r mynyddoedd edrych yn fwy sylweddol nag y maent mewn gwirionedd.

Sylwer hefyd ar y genweirwyr ar lan y llyn ac ar y cychod - dyma dystiolaeth gynnar am bysgota o'r fath. Hefyd, mae patrwm y caeau a'r ffriddoedd ar y dde yn ddiddorol. Mae'r mwg sydd i'w weld yn codi o waith copr Drws-y-coed.



Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Casglwr, Rhif 50, (1993), tt.9-12