Llyn Nantlle Isaf

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Lithograff o 1854 yn dangos Llyn Nantlle Isaf. Sylwer ar domen a gwaith Chwarel Dorothea'n dechrau amharu ar y llyn

Safai Llyn Nantlle Isaf ar lawr Dyffryn Nantlle gyferbyn â Phlas Tal-y-sarn i'r gogledd a Gwernor i'r de. Roedd wedi ei gysylltu â Llyn Nantlle Uchaf gan ddarn byr o Afon Llyfni a redai drwy'r llyn. Ar y dechrau, roedd bron cymaint â'r llyn uchaf. Rhedai Afon Llyfni allan o'r llyn ger Pont Sarn Wyth-dŵr.

Dargyfeirio Afon Llyfni tua 1891. Plas Dorothea yn y cefndir.

Roedd Chwarel Pen-y-bryn a Chwarel Dorothea ar y glannau gogleddol a Chwarel Gwernor i'r de ac o dipyn i beth fe gyfyngwyd ar faint y llyn trwy i'r chwareli ollwng gwastraff i'r dŵr. Gan fod chwareli Dyffryn Nantlle ar ffurf tyllau mawr dwfn o dan lefel y tir amgylchynol, roedd perygl cynyddol y byddai dŵr y llyn yn rhedeg i mewn i'r twll, a digwyddodd hynny ym 1884. Wedi dargyfeirio'r afon, dechreuodd wagio'r llyn o dipyn i beth ym 1894.[1]

Roedd cryn dipyn o'r llyn wedi diflannu dan y tipiau erbyn arolwg Ordnans 1888 ac erbyn 1901 roedd y llyn wedi colli tri chwarter yr arwynebedd oedd iddo 13 mlynedd ynghynt. Roedd cwrs Afon Llyfni wedi ei wyro at ochr Gwernor i'r dyffryn tua 1891,[2] gan adael llawer o dir corsiog gyferbyn â Chwarel Dorothea. Erbyn 1913, dim ond pwll corsiog oedd ar ôl yn llawn brwyn, ac erbyn map 1949 roedd y map yn dangos nad oedd llyn yno o gwbl, a hyd yn oed enw'r llyn wedi'i ddileu - er i'r llyn uchaf ddal i gael ei alw'n Llyn Nantlle Uchaf ar y mapiau.[3]

Erbyn hyn nid oes dim o'r llyn ar ôl eithr tir gweddol gorsiog ar waelod y rhan honno o'r dyffryn.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. ↑ Hen Luniau Dyffryn Nantlle, (Caernarfon, 1985), llun 53 a'r capsiwn
  2. ↑ Hen Luniau Dyffryn Nantlle, (Caernarfon, 1985), llun 34 a'r capsiwn
  3. ↑ Mapiau Ordnans 6" i'r filltir, i'w gweld ar wefan Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, [1]