Mynydd Ceiri

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mynydd Ceiri yw'r pellaf o'r môr o dri chopa'r Eifl. Mae oddeutu 480m o uchder. O amgylch ei gopa mae bryngaer fawr Tre'r Ceiri - gweler yr erthygl arni yn Cof y Cwmwd. Mae llwybr rhwydd a diogel i Dre'r Ceiri yn cychwyn o ochr ffordd y B4417 o Lanaelhaern i Lithfaen, gyda lle hwylus i barcio gerllaw ceg y llwybr. Mae'r llwybr hwn yn dilyn ysgwydd y mynydd ac yn mynd i mewn i'r fryngaer drwy'r brif fynedfa iddi. Mae llwybr arall (tipyn hirach) i Dre'r Ceiri yn cychwyn gerllaw'r maes parcio ar ben y ffordd sy'n mynd i lawr i Nant Gwrtheyrn. Hefyd gellir dilyn llwybr tipyn mwy heriol sy'n mynd o Dre'r Ceiri i lawr i'r pant rhwng Mynydd Ceiri a'r Garn Ganol ac yna i fyny ochr bur serth nes cyrraedd copa'r Garn Ganol. Ar yr ochr ddwyreiniol mae Bwlch Siwncwl yn gwahanu Mynydd Ceiri oddi wrth Fynydd Carnguwch. Mae Mynydd Carnguwch yn sylweddol is na chopaon yr Eifl (357.6m). Mae'n fynydd eithriadol gymesur ei ffurf ac ar y copa ceir carnedd gerrig enfawr - tua 20 troedfedd o uchder a 150 troedfedd ar ei thraws. O edrych arno o bell, nid yw'n syndod sut mae wedi cael ail enw fel petae ran rai yn lleol - sef Bron y Ferch.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau