Cromlech Bachwen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Lleolir siambr gladdu Bachwen ar un o gaeau fferm Bachwen ar gyrion Clynnog Fawr, yng Nghwmwd Uwchgwyrfai. Credir ei bod yn dyddio o’r cyfnod neolithig, sef tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl ac mae’n heneb sy’n nodweddiadol o seremonïau claddu'r cyfnod. Mae mewn cyflwr arbennig o dda, gyda rheiliau haearn o'i hamgylch i'w gwarchod. Mae nifer dda o ymwelwyr yn dod i'w gweld ar hyd y llwybr cyhoeddus o'r pentref ac mae'r gromlech hon yn haeddu sylw arbennig oherwydd y 110 o bantiau bychain (a elwir yn cup-marks yn Saesneg) a dwy rigol fas sydd wedi eu torri ar ben uchaf y capfaen. Mae nifer o ddamcaniaethau wedi cael eu cynnig ynghylch diben yr "addurniadau" hyn ond mae eu pwrpas yn ddirgelwch mewn gwirionedd. Efallai mai dim ond addurniadau er eu mwyn eu hunain yn unig ydynt. Cyfeirnod grid y gromlech yw SH40774948.

Roedd gan y gromlech bedwar maen yn cynnal y capfaen, ond aeth un ar goll; yr oedd un wedi diflannu, ond tua diwedd y 19g. fe wnaeth sgweier Glynllifon, F.G. Wynn osod un newydd yn lle'r un oedd ar goll. Wrth i'r gwaith gael ei wneud, cafwyd hyd i olion palmant o gerrig mân ac olion llwch du.

Gweler hefyd

Cofnod o'r heneb ar wefan y Comisiwn Brenhinol