Richard Farrington

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Richard Farrington (1702 – 16 Hydref 1772) yn offeiriad Anglicanaidd a hynafiaethydd. Bu'n ficer Llanwnda am dros 30 o flynyddoedd, 1741-72.

Cafodd ei eni ym 1702 yn fab i Robert Farrington, Caer, a'i wraig (Elisabeth, neé Jones, o Gefn Ysgwyd, Llechylched, Môn). Graddiodd o Goleg Iesu, Rhydychen ym 1724. Cafodd ei ordeinio a derbyn swydd curad yng Ngresffordd ger Wrecsam yn ôl pob tebyg, cyn symud i blwyf Brwmffild, ac yn y man cael cysylltiad ag Eglwys Gadeiriol Llanelwy ym 1739. Symudodd i fyw i Blas Dinas ar ei benodiad yn ficer Llanwnda a Llanfaglan ym 1741, rheithor Llangybi ym 1742 a changhellor Eglwys Gadeiriol Bangor ym 1762. Ymddiswyddodd o'r penodiadau hyn i gyd ym 1772, gan farw yng Nghaerfaddon yn ddiweddarach y flwyddyn honno , (16 Hydref) yn 71 oed.

Dywedir iddo ennyn parch ei blwyfolion, ac roedd yn gefnogol iawn i Ysgolion Cylchynol y fro.

Buddsoddodd yng ngwaith copr Drws-y-coed, a gweithfeydd copr mewn mannau eraill hefyd. Fe'i hadwaenid fel hynafiaethydd, gyda diddordeb penodol yn Sir Gaernarfon. Ysgrifennodd dri thestun llawysgrif sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol, Numismata Dinlleana, The Druid Monuments of Snowdonia a Celtic Antiquities of Snowdon. Ymysg ei weithiau eraill roedd Twenty Sermons by R Farrington (1742).[1]


Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig, t.245; W. Gilbert Williams, Y Parch. Richard Farrington M.A., Y Llenor, Cyf.20, (1941), tt.142-7 [1]