Groseriaid Uwchgwyrfai, 1850
Ceir rhestr o lawer o'r groseriaid oedd yn cadw siopau yn Uwchgwyrfai mewn hysbysebion yn y wasg leol ym 1850. Dechreuodd John Owen, masnachwr coffi o Uwchgwyrfai a oedd wedi ymsefydlu yn Llundain, gyflenwi coffi i groseriaid yng Nghymru ym 1849. Mae'n bosibl bod coffi'n ddiod gweddol anghyffredin yn y Gymru wledig yr adeg honno, ac aeth John Owen ati i hysbysebu ei goffi'n gyson, gan restru'r holl siopau lle yr oedd modd ei brynu. A dyna gofnodi enwau llawer o groseriaid y fro trwy wneud hynny. Dyma restr o groseriaid Uwchgwyrfai sydd yn ymddangos yn ei hysbysebion[1]:
- Clynnog: E. Thomas
- Llanaelhaearn: G. Humphreys
- Y Groeslon: J. Jones
- Llanllyfni: O. Williams
- Pen-y-groes: R. Jones
- Pontlyfni: R. Jones
- Rhostryfan: D. Williams
- Rhostryfan: E. Thomas
- Tal-y-sarn: J. Jones
- Tal-y-sarn: D. Frasser
Sylwer mai'r unig bentref o bwys nad oedd yn cael ei gynnwys oedd Y Bontnewydd er bod nifer o siopau yno - ond wrth gwrs, nid yw'r pentref hwnnw ond milltir o dref Caernarfon, lle gwerthid coffi John Owen yn eang, yn ogystal â choffi gan fasnachwr arall o Lundain, John Cassell, a oedd yn gystadleuydd iddo ac a oedd yn ofni colli peth o'i werthiant i'r masnachwr newydd, John Owen.
Cyfeiriadau
- ↑ Carnarvon and Denbigh Herald, 7.9.1850, t.1