Y Bontnewydd
Pentref rhwng tref Caernarfon a Dinas yw'r Bontnewydd. Mae hen briffordd yr A487 a fu ar un adeg yn ffordd dyrpeg yn mynd drwy ganol y pentref, gan fynd ymlaen i gyfeiriad Pwllheli a Porthmadog. Bellach yr A4871 ydyw ei rhif, wedi iddi gael ei hisraddio ar ôl i'r ffordd osgoi newydd gael ei hadeiladu, a rhifo honno'n A487 yn lle'r hen ffordd. Serch yr enw, nid y bont bresennol, a godwyd tua 1840]], roddodd yr enw i'r pentref. Mae'r enw yn cyfeirio at bont flaenorol dros Afon Gwyrfai. Sonnir am le a elwid the new brige ger Caernarfon ym 1552.[1] Adeiladwyd y bont bresennol ym 1840.[2]
Dim ond ychydig o dai teras, melin, bythynnod a ffermydd oedd yno ar un cyfnod, gyda nifer o dafarndai yma ac acw ar hyd y ffordd fawr. Roedd ffatri wlân brysur ar ochr Uwchgwyrfai i'r afon gydol y 19g. Codwyd ysgol eglwys ochr Caernarfon i'r bont tua throad y ganrif ddiwethaf. Yn ystod yr 20g, codwyd dwy ystâd o dai cyngor a phedair o rai preifat, i gyd ar ochr Isgwyrfai i'r afon. Mae'n debygol fod llawer yn defnyddio'r Bontnewydd fel man aros tra oeddent yn teithio o Lŷn tua Chaernarfon.
Roedd Y Bontnewydd yn cael ei rannu fel pentref rhwng plwyfi Llanbeblig (trefgordd Castellmai) a Llanwnda tan ddegawd olaf yr 20g pan unwyd y ddwy ochr i ffurfio cymuned newydd yn cynnwys y pentref, Rhos Bach a phlwyf Llanfaglan, ynghyd â'r darn o blwyf Llanwnda yn cynnwys Plas Dinas hyd at Ffrwd Cae Du.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma