Buchedd Beuno

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Buchedd Beuno yw ffynhonnell y rhan fwyaf o draddodiadau am hanes Beuno Sant. Cafodd Buchedd Beuno, (sef hanes bywyd a gweinidogaeth y sant, ynghyd â'r gwyrthiau a'r traddodiadau a gysylltid ag ef erbyn yr adeg honno), ei hysgrifennu yng nghanol y 12g yn y scriptorium ym mynachlog Clynnog-fawr. Credir mai Lladin oedd iaith y fuchedd wreiddiol, ond fe'i cyfieithwyd i'r Gymraeg yn ddiweddarach a dim ond y fersiwn Gymraeg sydd bellach yn bodoli hyd y gwyddys, gyda'r llawysgrif Ladin wedi mynd ar goll. Mae pedair fersiwn gynnar o'r Fuchedd wedi goroesi (ynghyd ag wyth copi diweddarach); y fersiwn gynharaf yw honno a gynhwyswyd yn Llyfr Meudwyes Llanddewi-brefi. Mae'r awdurdod ar y Fuchedd, yr Athro Sims-Williams, yn credu iddi gael ei hysgrifennu yn ei ffurf bresennol yn ystod y 14g., ond mae'r traddodiadau a gofnodir ynddi yn dyddio i gyfnod llawer cynharach.

Mae'r Athro Sims-Williams wedi cyhoeddi testun y Buchedd, ynghyd â manylion am yr holl agweddau ar y testun a'r hanes ac esboniad arnynt, mewn cyfrol a gyhoeddwyd yn 2018.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Patrick Sims-Williams, Buchedd Beuno: the Middle Welsh Life of St Beuno, (Dulyn, 2018), passim.