Edward Owen (Iorwerth ap Owain)

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriwyd o Iorwerth ap Owain)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yr oedd Edward Owen (1858-wedi 1914), canwr bariton proffesiynol a cherddor yn aelod o deulu neilltuol o gerddorol. Cartref y teulu oedd 4 Pen-y-bont, Nantlle cyn iddynt symud i Frynteg, Tal-y-sarn rywbryd cyn 1871. Yr oedd ei dad, Owen Owens, yn grydd a aned i Owen a Mary Owens ym 1813 ac a hanai o Lanengan; yr oedd ei fam, Margaret, o Walchmai, Ynys Môn. Bu i'r ddau briodi yn Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni 16 Mawrth 1841.[1] Roedd Edward yn frawd iau i Mair Alaw sef Mary Owen, ac yn ewyrth i’r Brodyr Francis.

Yn hogyn ifanc, aeth Edward i’r chwarel i weithio, ond yn fuan amlygodd ei dalent cerddorol, er iddo barhau’n chwarelwr. Erbyn 1877 roedd wedi mabwysiadu “enw llwyfan”, sef Iorwerth ap Owain, a phapur Y Dydd, wrth sôn am gyngerdd yn Neuadd y Dref, Caernarfon, yn dweud fod Iorwerth ap Owain wedi canu’n “dra chanmoladwy”, a hynny yng nghwmni cantorion enwog a llwyddiannus megis Eos Morlais a Llew Llwyfo.[2] O hynny ymlaen am ryw wyth mlynedd bu’n unawdydd cyson yng ngherddau’r fro ac ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol, fel yr oedd y papurau Cymraeg yn tystio’n gyson.

Yn ystod 1887-8, bu ar daith canu trwy Loegr a’r Alban, ac ar ôl i’r daith honno orffen, hysbysebodd yn y wasg Gymreig[3]:

AT BWYLLGORAU CERDDOROL, &c.: MR EDWARD OWEN, R.A.M., A DDYMUNA wneyd yn hysbys ei fod, ar ôl Ionawr 8,1888, pryd y bydd ei deithiau trwy Ysgotland a Gogledd Lloegr yn terfynu), yn barod i dderbyn engagements i wasanaethu mewn cyngherddau, &c. Am ei delerau, barn y critics, &c., cyfeirier, 13, South Villas, Camden-Square, London, N.W.

Ym 1881, a’i enw fel cerddor yn cael ei gydnabod yn gynyddol, sefydlodd Côr Tal-y-sarn dan ei arweinyddiaeth o,[4] ond, ysywaeth, ni fu oes hir i'r côr, gan i Iorwerth symud ymlaen yn ei yrfa. Roedd yr ardal yn ymfalchïo yn ei dalent ac ym 1882, cynhaliwyd budd-gyngerdd er mwyn codi arian i helpu Edward Owen symud ymlaen yn ei yrfa, fel mae’r Tyst a’r Dydd yn ei adrodd[5]:

DYFFRYN NANTLLE. Budd-gyngerdd Iorwerth ap Owain.- Cynaliwyd yr uchod nos Wener, yr 20fed cynfisol, dan lywyddiaeth Mr W. A. Darbishire, Baladeulyn, ac arweiniad Mr O. T. Owen, Dorothea, yn Assembly Room, Talysarn. Fel y canlyn y trefnwyd y program :- Anerchiad gan yr Arweinydd; ton gan y Nantlle Vale Brass Band; anerchiad gan y Llywydd;  ‘Comrades in Arms,' gan y Penygroes Glee Party; ‘I'm y roamer,' gan Iorwerth ap Owain; 'Twickenham Ferry,' gan Miss Griffith, Llanberis; 'Yr Ehedydd,' gan y Waenfawr Glee Party; ‘Mi gwrddais eneth un prydnawn,' gan Mr H. O. Jones, Penygroes; 'Awn i ben y Wyddfa fawr,' gan y Penygroes Glee Party; ‘gwraig y Pysgotwr,' gan Miss Griffith; ton gan seindorf; anerchiad Cymraeg gan Mr Darbishire, Y.H.; ton gan y Waenfawr Glee Party; anerchiad barddonol gan Hywel Cefni; ‘Cydgan y Medelwyr,' gan y Penygroes Glee Party; ‘Gogoniant i Brydain,' gan Iorwerth ap Owain; ‘Bid me Discourse,' gan Miss Griffith; y diolchiadau gan Mr Owen Jones, Post Office.; tôn gan y Waenfawr Glee Party; darllen englynion i Iorwerth gan Hywel Cefni ac Ioan Eifion; tôn ymadawol gan y seindorf. Cawsom un o'r cyngherddau goreu a welsom erioed. Deallwn mai Mr Darbishire a roddodd gychwyniad i'r symudiad daionus hwn. Addawodd os buasai y gymydogaeth yn gwneyd ei rhan tuag at gael addysg uwchraddol i Iorwerth ap Owain, y buasai yntau yn gorphen y draul, pa faint bynnag fuasai rhwng Mr Darbishire a'r gymydogaeth. Caed trysorfa ddigon cref i osod y dyn ieuanc talentog Iorwerth ap Owain mewn sefyllfa uwchlaw gweithiwr, os gwna ddefnydd priodol o'i ysgol, fel y credwn y gwna. Dylem fel ardalwyr fod yn falch o'r dynion ieuainc talentog godwyd o'r Dyffryn hwn yn yr oes bresennol, a hefyd fod gennym fonheddwr fel Mr Darbishire sydd yn barod i gynorthwyo pan na bydd moddion i ddadblygu talentau.

Yn amlwg, bu i gyfraniadau’r gymdogaeth ac arian cyfatebol W.A. Darbishire helpu Iorwerth ap Owain i godi “i sefyllfa uwchlaw gweithiwr”, ac fe aeth i goleg yn Abertawe i astudio am dymor.[6] Bu adref adeg y Sulgwyn 1885, pan gafodd berfformio fel y bariton gwadd, ac yn un o ddatgeiniaid Eisteddfod Gadeiriol Nefyn, prif eisteddfod Gogledd Cymru'r flwyddyn honno.[7] Erbyn hynny, neu’n fuan iawn wedyn, roedd o wedi ymsefydlu yn Llundain, lle cymerodd ran mewn cyfarfod Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion efo nifer o gantorion eraill nodedig, a dichon ei fod eisoes wedi cofrestru yn yr Athrofa Frenhinol Gerddorol (R.A.M.)[8], ac y parhau i astudio yno ym 1887, ac yn canu'n gyhoeddus fel unawdydd - er enghraifft gyda’r Welsh Vocal Union yn Llundain - ac yn gynyddol dan ei enw iawn, Edward Owen.[9] Gwyddys ei fod adref ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1886, gan berfformio fel canwr gwadd. Pan agorwyd Pafiliwn Caernarfon, wythnos cyn yr Eisteddfod ei hun, Iorwerth ap Owain oedd un o’r unawdwyr yn y cyngerdd cyntaf i’w gynnal yno.[10] Doedd bywyd yn Llundain ddim yn fêl i gyd iddo, a gydol 1889 a hanner cyntaf 1890 cafodd iechyd gwael a rwystrodd ei lwyddiant fel canwr, a hynny i’r fath raddau fel y gwnaeth John Owens, uwch-swyddog yn Swyddfa India’r Llywodraeth, fynd ati i drefnu budd-gyngerdd yn Neuadd y Dref, Holborn, yn Llundain er mwyn codi arian i'w gynnal. Llwyddodd Edward Owen ei hun ganu un unawd, sef “The Skipper” gan Judge, a chanodd un o’r perfformwyr eraill, y tenor Dyfed Lewis, gân a gyfansoddwyd gan Edward, sef “Hen Gadair Freichiau fy Mam”.

Gwellodd o’i anhwylder, a cheir mwy o’i hanes fel unawdydd yn y blynyddoedd canlynol, er enghraifft yn canu yn Neuadd Albert, Abertawe.[11] Roedd yn cymryd rhan gynyddol ym mywyd cerddorol, Cymry Llundain, ac erbyn 1894, roedd wedi derbyn y swydd o organydd a chôr-feistr Eglwys Sant Bened, eglwys Cymraeg a Chymreig Llundain, ac yn organydd swyddogol yr Ŵyl Gymreig Genedlaethol flynyddol yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul.[12] Ysywaeth, prin yw’r cyfeiriadau ato yn y wasg wedi 1897, ond mae cyfeiriad ato yn gysylltiedig ag angladd ei frawd, William Owen, Swyddfa Bost Nantlle ym 1914 yn awgrymu ei fod wedi aros yn Llundain, ac yn dal yn fyw.[13]

Priododd Emily ym 1886. Roedd hi’n dair blynedd yn iau nag ef, ac yn hanu o Lerpwl. Roedd gan y cwpl ddau o blant, yn cynnwys Madeline, a aned tua 1900. Ym 1911 roedd y teulu’n byw yn 4 Florence Mansions, Rostrevor Road, Fulham, yn Llundain. Ei ddisgrifiad ohono fo ei hun ar ffurflen y Cyfrifiad oedd "musician".[14]

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Priodasau plwyf Llanllyfni, 1841
  2. Y Dydd, 6.3.1877, t.7
  3. Y Genedl Gymreig, 9.5.1888, t.1
  4. Y Genedl Gymreig, 10.2.1881, t.7
  5. 3.11.1882, t.11
  6. Y Genedl Gymreig, 17.1.1883, t.8
  7. Y Genedl Gymreig, 29.4.1885, t.1
  8. Y Drych, 4.6.1885, t.2
  9. Baner ac Amserau Cymru, 30.3.1887, t.10;Caernarvon and Denbigh Herald, 1.4.1887, t.6
  10. North Wales Express, 17.9.1886, t.8
  11. South Wales Daily Post, 13.12.1895, t.3
  12. North Wales Chronicle, 1.12.1894, t.8; Bye-gones, Mawrth 1895, t.17
  13. Y Brython, 19.2.1914, t.8
  14. Cyfrifiad Fulham, 1911