Hafan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:34, 14 Hydref 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cof y Cwmwd


Pentref Trefor a mynyddoedd y Curnau - o'r chwith, Y Gurn Goch, Y Gurn Ddu a Moel Penllechog. Draw ar y gorwel y mae Mynydd Cilgwyn.
NEWYDDION

Mwy na 1320 O ERTHYGLAU ERBYN HYN

Dyma, yn ddigamsyniol, brif ffynhonell hanes yr arfordir o Drefor i Ddinas Dinlle, a Dyffryn Nantlle i gyd - heb anghofio glannau gorllewinol Afon Gwyrfai.

A wyddoch chi? Yn ogystal â darllen y wefan hon, gallwch ein cynorthwyo i'w datblygu a'i wella! Gall unrhyw un olygu unrhyw erthygl drwy glicio ar y gair "Golygu" ar ei brig. Os nad ydyw'n bodoli eto, gallwch greu un newydd!

Mae modd i chi roi’r hanes yn syth ar Cof y Cwmwd, neu anfonwch neges e-bost atom ac mi wnawn ni gynnwys y ffeithiau drosoch. Ein cyfeiriad yw; cofycwmwd@gmail.com .



Croeso i Cof y Cwmwd. Ein nod yw cyflwyno gwir hanes ein bro a'i phobl i bobl Uwchgwyrfai a Chymru gyfan trwy gyfrwng y Gymraeg. Gwefan gymunedol ydyw, a chaiff unrhyw un gyfrannu ati.

Mae'n hawdd iawn i chi ddefnyddio'r wefan - os ydych wedi defnyddio Wicipedia rywbryd, byddwch yn gwybod mor hawdd ydy hi: mi rydan ni'n defnyddio'r un un meddalwedd.

Uwchgwyrfai
Uwchgwyrfai

Mae Cof y Cwmwd yn ymdrin ag ardal Uwchgwyrfai, gan gadw at yr hen ffiniau canoloesol - sef plwyfi hanesyddol Clynnog Fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda; yr oedd Llanwnda'n blwyf mwy yn y gorffennol, gan gynnwys darn gorllewinol plwyf modern Betws Garmon. Mae Uwchgwyrfai yn cynnwys Dyffryn Nantlle i gyd. Cof y Cwmwd yw un o weithgareddau Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Cewch fwy o wybodaeth am Cof y Cwmwd wrth glicio yma.

Diolch i'n noddwyr presennol, ac i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am ariannu sefydlu'r wefan hon.



Sut i ddarllen erthygl neu ganfod ffeithiau

Defnyddiwch y blwch Chwilio ar ben y sgrîn hon, ar y dde - neu gliciwch Holl gategorïau ar y rhestr ar y chwith i weld pa gategorïau o bynciau sydd ar gael. Os gwelwch eiriau lliw glas rhywle ar y wefan hon, gallwch gliciwch arnynt ac mi ewch yn syth at yr erthygl berthnasol.

Os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano, cliciwch yma i ganfod dolennau at wefanau eraill all fod o ddefnydd i chi.

NEU BETH AM... ddysgu rhywbeth newydd am eich dyffryn? Cliciwch ar Tudalen ar hap ar y chwith a 'does wybod be' wnewch chi ei ddysgu


Erthyglau newydd

Uwchgwyrfai o Fwlch yr Eifl
  1. Cyfrif Deon Eglwys Gadeiriol Bangor, 1398
  2. Taxatio Lincoln 1291
  3. Asesiad Deoniaeth Arfon o'r Degwm
  4. Stent Tiroedd Esgobaeth Bangor ?1335
  5. Bae Foryd
  6. Cored Gwyrfai
  7. Gored Gwyrfai
  8. Geoffrey Trefnant
  9. Jeffrey Trefnant
  10. Sieffre Trefnant
  11. Gored Beuno
  12. Gwyddeint
  13. Clynnog Fechan
  14. Moweddus
  15. Siarter Eglwys Clynnog Fawr
  16. Maengwyn, Llanwnda
  17. Grace Gwyneddon Davies
  18. Robert Gwyneddon Davies
  19. Glan Peris
  20. Griffith G. Jones (Glan Peris)

Cyfanswm: 1,796 erthygl

Sut i ychwanegu gwybodaeth

Gwefan gydweithredol yw Cof y Cwmwd a chaiff pawb ychwanegu ati'n uniongyrchol dros y we.Hawdd iawn yw i unrhyw un ychwanegu ffeithiau at erthygl, neu greu erthygl o'r newydd. Rydym yn eich gwahodd chi i gyd i wneud hynny, a hynny'n gynnes iawn.

Mae arnom wir angen eich cyfraniadau er mwyn sicrhau y bydd Cof y Cwmwd yn cynnwys pob elfen o hanes Cwmwd Uwchgwyrfai. Peidiwch â meddwl bod eraill yn gwybod mwy na chi am eich ardal. Cyflwynwch eich gwybodaeth; dyna sut y daw ffeithiau newydd i'r golwg. Am fwy o wybodaeth am gyfrannu erthygl neu ychwanegu/cywiro ffeithiau, cliciwch yma.

Yn fwy na dim, mentrwch! Ni ellir gwneud dim i'r wefan nad yw'n bosibl ei wrthdroi. Felly, allwch chi ddim gwneud stomp o bethau .

Angen syniadau am erthygl? Cliciwch ar unrhyw eiriau coch yn y testun - neu cliciwch yma.

Enwau lleoedd

Uwchgwyrfai o Rosgadfan

Cymraeg yw iaith gwefan Cof y Cwmwd ac felly defnyddir yr enw Cymraeg bob tro, boed y lle yng Nghymru neu'n rhywle arall - a bwrw bod enw Cymraeg ar gael, e.e. "Lerpwl". Am restr o'r enwau hyn gweler [1] am restr o enwau Lloegr; a [2] am restr o enwau lleoedd yr Alban.

Mae rhai enwau lleol yn cael eu sillafu mewn sawl ffordd, a rhaid oedd penderfynu ar y sillafiad y byddwn yn ei ddefnyddio, er mwyn i fynegai'r safle weithio'n iawn.

Dyma'r ffurfiau sy'n cael eu defnyddio yng Nghof y Cwmwd: Bethesda Bach; Bwlchderwin; Clynnog Fawr; Drws-y-coed; Glan-rhyd; Gurn Goch; Isgwyrfai; Maestryfan; Moeltryfan; Pant-glas; Pen-y-groes; Pontlyfni; Rhosgadfan; Rhos-isaf; Rhostryfan; Rhyd-ddu; Tal-y-sarn; Tan'rallt; Tai Lôn; Tŷ'nlôn; Uwchgwyrfai; Y Bontnewydd; Y Fron; Y Groeslon.

Iaith Cof y Cwmwd

Ffynhonnell o wybodaeth Gymraeg ei hiaith yw Cof y Cwmwd. Mae erthyglau Cymraeg am rai elfennau o hanes Uwchgwyrfai ar gael hefyd ar Wicipedia Cymraeg - ac wrth gwrs mewn ieithoedd eraill ar Wikipedia. Cofiwch hefyd fod modd i ffrindiau di-Gymraeg fentro cael cyfieithiad (o ryw fath!) o erthyglau Cof y Cwmwd trwy ddefnyddio Google Translate.

Canolfan Hanes Uwchgwyrfai

Dyma'r ganolfan yng nghwmwd Uwchgwyrfai sy’n costrelu dyheadau a hanes ardal sy’n enwog am ei chyfraniad addysgol, diwylliannol a chrefyddol. Dyma’n wir bwerdy bro. Lleolir y Ganolfan yn hen ysgoldy Eben Fardd yng Nghlynnog Fawr yn Arfon.

Elusen gofrestredig yw Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Ymysg y gweithgareddau, trefnir darlithoedd bob mis ac ar ddyddiau coffa ein cenedl; cynhelir ysgolion undydd i ledaenu ein gwir hanes ac arddangosfeydd achlysurol; cynhelir clwb darllen misol; a chyhoeddir cylchgrawn sain, yr Utgorn, bob chwarter sy'n ymdrin â phynciau hanesyddol a diwylliannol, ac a ddosberthir i danysgrifwyr. Caiff y deillion ei dderbyn am ddim ond iddynt wneud cais. Yng nghefn y ganolfan ceir gardd draddodiadol Gymreig y mae rhai o'r aelodau'n edrych ar ei hôl.

Ewch i brif wefan Canolfan Hanes Uwchgwyrfai am fanylion llawn a'r newyddion diweddaraf.

A oes gennych sylwadau?

Mae modd rhoi sylwadau am unrhyw dudalen trwy ddefnyddio'r botwm Sgwrs ar ben erthygl (mae un ar dop y dudalen hon, er enghraifft). Ond os yw'n well gennych anfon e-bost, gallwch gysylltu â gweinyddwyr Cof y Cwmwd trwy yrru e-bost at cofycwmwd@gmail.com