Pontydd Uwchgwyrfai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 37: | Llinell 37: | ||
===Afon Rhyd=== | ===Afon Rhyd=== | ||
* [[Pont yr Henryd]] | * [[Pont yr Henryd]] | ||
* Pont ger [[Rhos | * Pont ger [[Rhos-isaf|Ros-isaf]] | ||
* [[Pont Cae-moel]] | * [[Pont Cae-moel]] | ||
* [[Pont Glan-rhyd]] | * [[Pont Glan-rhyd]] |
Fersiwn yn ôl 10:51, 12 Ebrill 2019
Dyma erthygl gyffredinol am Bontydd Uwchgwyrfai ar ffyrdd a llwybrau lle maent yn croesi afon. Gweler erthygl ar wahân am bontydd rheilffordd.
Isod fe restrir yr holl bontydd dros ddŵr y gwyddys amdanynt o fewn ffiniau'r cwmwd, ac (os oes erthygl wedi ei chychwyn ar bont) trwy glicio ar yr enw mi ewch at y dudalen honno'n syth. Prif ffynonellau bodolaeth pontydd y cwmwd yw:
- mapiau Ordnans o 1888 ymlaen[1]
- planiau a manylebau Syrfewr y Sir yn Archifdy Gwynedd,[2]
- dogfennau amrywiol o fewn ffeiliau'r Llys Chwarter, [3]
Pontydd a'u hanes
Mae pontydd wedi bod yn nodwedd o brif ffyrdd y sir ers y Canol Oesoedd, ac yn aml mae eu henwau wedi parhau hyd heddiw er i'r bont wreiddiol gael ei hailadeiladu sawl tro erbyn hyn. Ers cyfnod y Tuduriaid, mae awdurdodau'r sir (ar ffurf yr ynadon a eisteddai mewn sesiynau gweinyddol o'r Llys Chwarter) wedi bod yn gyfrifol am godi ac atgyweirio pontydd cyhoeddus.
Cyn bod pont, yr oedd yna fel arfer rhyd o ryw fath, neu efallai gerrig camu, ac yr oedd yn haws i geffyl (neu hyd yn oed person ar droed) rhydio afon na mynd yr ffordd hir oddi amgylch y rhwystr, er mor beryglus y gallai hynny fod ar adegau o lif mawr. Yn y dyddiau cynnar iawn, pan orchuddid llawer o'r tir â choedwig a chorsydd, byddai'n haws defnyddio'r traeth i deithio ymhell, ac yn y fan honno, haws efallai oedd rhydio afon fel yr ymledai ar draws y tywod a'r cerrig ar adegau o drai. Yn y mewndir, ar wahân i Afon Gwyrfai ac Afon Llyfnwy fodd bynnag, haws yn nyddiau cynnar teithio oedd osgoi mannau peryglus gyda cheinentydd ac ati a chwilio am fan lle rhedai'r afon yn fas os yn llydan.
I ddechrau, ar y prif lwybrau teithio y codwyd pontydd, rhai ohonynt i osgoi perygl penodol (e.e. Pont y Cim) a rhai eraill i hwyluso trafnidiaeth fel daeth cerbydau olwynog yn fwy cyffredin (ar ôl tua 1700). Cynyddodd yr angen fel datblygodd yr angen o symud nwyddau trwm megis llechi, gyda'r gwaith o adeiladu ffyrdd tyrpeg o 1780 ymlaen. Erbyn canol y 19g., prin oedd y rhydau oedd yn dal i gael eu defnyddio, ar wahân i rai ar ffermydd ac ambell i afonig fechan yn y mynyddoedd. Ym mis Mehefin 1855, fe ysgrifennodd Owen Jones, un o swyddogion y sir, at yr Arglwydd Newborough, Cadeirydd y Llys Chwarter, gan ddweud fod yna fawr o ffyrdd a gynhelid gan y plwyfi nad oedd â phont neu gwlfert dros pob un nant, ond bod angen rhyw 5 pont sylweddol rhwng Pen-y-groes a Rhyd-ddu.[4]
Nodwedd sawl pont yw'r sarnau sydd yn arwain ati, oherwydd natur corsiog iawn y tir o amgylch yr afon ei hun. Sarnau yw'r llwybrau a adeiladid trwy gorsdir i ffurfio llwybr sych. Mae'r rhai pwysicach wedi hen ddiflannu dan ffyrdd modern, ond gwelir enghreifftiau da ar hyd llwybrau cyhoeddus y dyffryn, lle maent yn dal i gael eu defnyddio.
Rhestr o bontydd y cwmwd
Rhestru enwau'r pontydd dan enw'r afon sy'n llifo oddi danynt, ac yn nhrefn y pontydd o darddiad yr afon at ei haber. Nodir pontydd nad yw eu henwau'n hysbys trwy ddisgrifio eu lleoliad. Fe'u rhestrir fesul afon, o'i tharddiad hyd at yr aber, yn cychwyn o'r gogledd, sef Afon Gwyrfai sydd yn ffurfio ffin ogleddol y cwmwd. Heblaw am un neu ddau o achosion neilltuol, ni nodir pontydd troed, pomprennau, cerrig camu ac ati, gan eu bod yn dueddol o fod yn byrhoedlog ac nid oes enwau ar fawr ohonynt. Mae categori ar wahân am erthygl sy'n sôn am rydau sylweddol.
Afon Gwyrfai
Mae'r pontydd hyn yn cysylltu glannau Uwchgwyrfai ac Isgwyrfai yr afon.
- Pont Rhyd-ddu
- Pont Cwellyn
- Pont y Betws
- Pont Cyrnant
- Pont Gwredog
- Pont Plas-y-bryn
- Pont Newydd
- Pont Faen (Llanwnda)
Afon Rhyd
- Pont yr Henryd
- Pont ger Ros-isaf
- Pont Cae-moel
- Pont Glan-rhyd
- Pont Henryd Isaf
- Pont Felinwnda
- Pont Storws
Afon Carrog
- Pont Cefn Pedeirau
- Pont Dolydd
- Pont Wyled
- Pont Wen
- Pont Pant-y-rhedyn
- Pont Cae Doctor Bach
- Pont hen wersyll Chatham
- Pont droed ger Chatham
Afon Llifon
- Pont ger Melin Forgan
- Pont Llwyn-y-gwalch
- Pont Tŷ'n-y-nant
- Pont-y-felin (Glynllifon)
- Pont Plasnewydd
Afon Foryd
Afon Llyfnwy (yn cynnwys Afon Drws-y-coed)
- Pont ar y B4418 ger Drws-y-coed
- Pont y Gelli ger fferm Gelli-ffrydiau, dros nant yn llifio i mewn i Afon Drws-y-coed
- Pont Gelenau dros nant sy'n llifio i mewn i Lyn Nantlle Uchaf
- Pont Baladeulyn dros Afon Garth sy'n llifio i mewn i Lyn Nantlle Uchaf
- Pont newydd rhwng pentref Nantlle a'r Ffridd
- Pont Sarn Wyth-dŵr
- Pont newydd ger safle hen Chwarel Coedmadog
- Pont Ffatri
- Pont y Cim
- Pont Lyfni
Afon Crychddwr
Afon Cwm Dulyn
Afon Pant-glas
Afon Dwyfach
- Pont ger Ynys-yr-arch
- Pont ger Ysgol Ynys-yr-arch
- Pont Ynyshwntan
Afon Desach
- Pont ym mhentrefan Tai Lôn
- Pont Rhyd-y-beirion ar lednant Afon Desach ger pentref Capel Uchaf
- Pont Faen
- Pont Aberdesach
Afon Hen
Afon Tâl
- Pont Tyddyn Drain
- Pont Tŷ'n Gors
- Pont islaw'r Swyddfa Bost
- Pont ger hen ysgol Trefor
Afon Erch
- Pont Mur-y-goeden dros lednant Afon Erch ar y ffîn â chantref Llŷn
- Pont-y-gydrhos