Llanwnda (plwyf hanesyddol)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:09, 1 Chwefror 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Llanwnda yw un o blwyfi hanesyddol Uwchgwyrfai. Ystyr yr enw yw Eglwys Sant Gwyndaf. O fewn ffiniau'r plwyf ceir sawl pentref a threflan, sef Saron, Dinas, Rhostryfan,Rhosgadfan, Rhos-isaf, Glan-rhyd, Menai View, rhan o'r Dolydd, a Llanwnda ei hun. Hyd at flynyddoedd olaf y 20g, roedd rhan o bentref y Bontnewydd hefyd o fewn ffiniau'r plwyf.

Ffiniau a thirwedd

Dyma blwyf mwyaf gogleddol Uwchgwyrfai. Yn wreiddiol, Afon Gwyrfai oedd ffin plwyf Llanwnda yr holl ffordd o'i darddiad yn Llyn y Gader hyd y môr, ond trosglwyddwyd darn helaeth rhwng yr afon a chopaon y mynyddoedd i blwyf Betws Garmon ym 1895[1]. Tua 1990 symudwyd ardal Trwyn Dinlle o Lanwnda i blwyf Llandwrog a ward Bontnewydd i gymuned Y Bontnewydd a ffurfiwyd o'r newydd ar y pryd o bobtu'r Afon Gwyrfai. I'r de, mae'n ffinio â phlwyf Llandwrog, gyda'r Afon Carrog yn ffin rhyngddynt yn y darn isaf rhwng Tryfan a'r môr.

Roedd y plwyf felly yn amrywio o ran tirwedd, gyda glan môr ar Y Foryd a thraeth o dywod a graean ger Trwyn Dinlle ac Abermenai, morfa wlyb, tir gweddol ffrwythlon a rhostir yn ymestyn i gopaon mynyddoedd gyda'u gweundir a'u mawnogydd. Roedd hefyd â darn sylweddol o un o brif ddyffrynnoedd Eryri hyd 1888. Llechfaen, ac i raddau llai, ithfaen yw'r graig o dan wyneb y tir yn yr ucheldir; tir tywodlyd gyda llawer o fân gerrig yw llawer o'r tir is.

Tir agored sydd yma i raddau helaeth, er bod ambell i glwt o goedwig, yn bennaf coedwig gwern a hynny yn y mannau gwlypaf, a rhywfaint o blanhigfwydd coed bytholwyrdd a grëwyd tua chanol y 20g ar y mynydd. Bu llawer o'r ucheldir yn dir agored hyd nes i'r chwareli agor a llawer o dyddynod yn cael eu creu gan y chwarelwyr.

Yr oedd y plwyf yn rhan o Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon at ddibenion Deddf y Tlodion o 1837 ymlaen.

Yr eglwys a'i sant

Codwyd yr eglwys bresennol mor ddiweddar â 1847, ond mae'r safle'n hen iawn. Dywedir mai yn y 13g y cafwyd eglwys o waith cerrig yma am y tro cyntaf. Dyma, mae'n debyg, yr eglwys gyntaf i bererinion y canol oesoedd gyrraedd ar eu taith i Enlli, wedi iddynt gychwyn o'u harhosfan dros nos yn Llety, Caeathro.

Mae nifer o greiriau, megis clychau, dodrefn a chofebau niferus sydd wedi dod o'r hen eglwys. Y cynharaf o'r rhai olaf hyn yw olion cist claddu Owen Meredith, a farwodd ym 1612. Nodwedd y gofeb hon yw'r cerflun arni sy'n dangos yr 11 o blant oedd ganddo.

Roedd galeri neu oriel yn yr hen eglwys oedd, mae'n debyg, yn bur hen, gan ei fod wedi ei adfer mor gynnar â 1748.

Cysegrwyd yr eglwys i Gwyndaf Sant ac mae Gwnda (yr elfen a geir yn Llanwnda)yn dalfyriad o'r enw hwnnw.

Tai pwysig ac enwogion

Nid oes plasty mawr yn y plwyf, ond ceid nifer o deuluoedd o fân fonheddwyr oedd wedi preswylio yn yno. Yn eu mysg, teuluoedd plastai Plas Dinas, Plas Bodaden, Plas-y-Bont a'r Pengwern.

Rhai o enwogion y plwyf oedd/yw:

Y pentref

Yn groes i bob plwyf arall yn Uwchgwyrfai, nid yw'r eglwys yn sefyll yn y pentref sy'n rhannu enw'r plwyf, ond yn hytrach yn nhreflan Dinas. Rhoddwyd yr enw 'Llanwnda' ar y casgliad o dai a dyfodd o gwmpas Gorsaf reilffordd Llanwnda. Yn ogystal â busnes glo, bu yno unwaith gwaith trwsio wagenni rheilffordd, tafarn Yr Afr a swyddfa bost a siop - caeodd y ddwy olaf hyn tua 2005.

Mae ertrhygl arall yn sôn am y pentref, sef Llanwnda (pentref), lle ceir manylion pellach am y dreflan honno.

Nodweddion eraill y plwyf

Hanes diweddar

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon XPlansS/9