Trwyn Dinlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Trwyn Dinlle yn benrhyn tua dwy filltir o hyd rhwng y môr a'r Foryd. Roedd yn ardal dywodlyd gyda thwyni tywod yn gorchuddio llawer ohoni, a thir pori a adferwyd o'r môr yn ystod y 19g trwy godi'r Cob, sef morglawdd ar yr ochr ddwyreiniol. Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, gwastatawyd ardal eang ac adeiladu Maes Awyr Caernarfon, a elwid i ddechrau'n RAF Llandwrog. Yma hefyd mae Fferm y Warren, gyda'r enw'n tystio i ddefnydd y trwyn tywodlyd hwn fel cwningar (man magu cwningod ar gyfer bwyd). Ym 1775, cododd Thomas Wynn, Arglwydd Newborough wedyn, amddiffynfa Caer Belan rhag ymosodiadau trwy Abermenai adeg Rhyfel Annibyniaeth America. Adeiladwyd harbwr bychan tua 1824 i hwyluso difyrrwch y teulu o hwylio cychod ac iotiau.

O ben draw'r trwyn, cychwynnai Fferi Abermenai am Ynys Môn.

Arferai pen draw'r trwyn fod yn ddarn digyswllt o blwyf Llanwnda ond, ers ail hanner yr 20g, trosglwyddwyd y darn hwnnw i Landwrog, fel bod y trwyn erbyn hyn yn gyfan gwbl o fewn ffiniau plwyf a chymuned Llandwrog.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma