Dafydd Wigley

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dafydd Wigley yn areithio

Mae Dafydd Wigley (g.1943) yn un o brif wleidyddion yr 20g yng Nghymru, ac wedi gwasanaethu fel aelod seneddol Arfon (etholaeth) (1974-2001), aelod dros Arfon yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru (1999-2003) ac aelod o Dŷ'r Arglwyddi, gan gynrychioli Plaid Cymru. Ar ôl graddio ym Mhrifysgol Manceinion a dilyn gyrfa fer, ond llewyrchus, ym maes rheoli busnes, a bod yn gynghorydd lleol ym Merthyr Tudful, fe'i hetholwyd i San Steffan am y tro cyntaf ym 1974. O hynny ymlaen, enillodd bob etholiad y safodd ynddo ac eithrio un, sef am sedd yn Senedd Ewrop. Bu'n llywydd/arweinydd Plaid Cymru am ddau dymor nes iddo orfod ymddeol, ar yr achlysur cyntaf oherwydd salwch difrifol dau o'i feibion, ac wedyn oherwydd ei iechyd ei hun, er nad yw hynny erioed wedi ei rwystro rhag bod yn lladmerydd ymysg y mwyaf pwerus a deinamig dros achos Cymru. Tra oedd yn arwain Plaid Cymru yn y Senedd Brydeinig fe'i gwnaed yn aelod o'r Cyfrin Gyngor. Fe'i penodwyd i Dŷ'r Arglwyddi ar enwebiad ei blaid.

Brodor o Ffrwd Cae Du ger Caernarfon yw Dafydd Wigley er iddo gael ei eni yn Derby. Mae'n fab i Elfyn Wigley, a fu'n gweithredu fel Trysorydd Sir Gaernarfon, ac a hanai o Ddyffryn Dyfi'n wreiddiol. Pan ddychwelodd i Arfon i fyw ddechrau'r 1970au, cododd Dafydd Wigley dŷ yn Ffrwd Cae Du, Llanwnda, lle mae'n byw o hyd gyda'i wraig, y delynores Elinor Bennett.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Wicipedia, erthygl ar Dafydd Wigley [1], cyrchwyd, 2.3.2020