John Hywyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
John Hywyn yn cael ei goroni yn Eisteddfod Môn, Amlwch, 1964

Mae John Hywyn (John Hywyn Edwards nes iddo ollwng y cyfenw) yn fab i ficer (Y Parch Emrys Edwards, a enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Maelor, 1961). Fe'i ganwyd yn Llandudno. Bu'n brifathro Ysgol Brynaerau am nifer o flynyddoedd, gan wneud ei gartref yn Nhŷ'n y Maes, plwyf Llanwnda ger Dôl Meredydd, Llandwrog. Mae'n dal i fyw yn ardal Llandwrog. Ei wraig oedd yr awdures llyfrau plant, Gwenno Hywyn a fu farw ym 1992.

Mae John Hywyn yn fardd llwyddiannus: enillodd goron Eisteddfod yr Urdd, Llanrwst, 1968 (pan yn byw ym Mynydd Llandygái) a choron Eisteddfod Môn, 1974, ymysg sawl gwobr eisteddfodol arall. Mae'n feirniad poblogaidd a chraff mewn eisteddfodau.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau