Dyffryn Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 14: Llinell 14:


==Dyffryn Nantlle ym 1900 (yn ôl ''Papur Pawb'')==
==Dyffryn Nantlle ym 1900 (yn ôl ''Papur Pawb'')==
Cyhoeddwyd erthyglau manwl am y gwahanol fröydd yn y papur newydd Papur Pawb ar ddechrau 1900. Isod gwelir yr hyn oedd gan y papur i’w ddweud am y dyffryn. Er i’r darn fod yn nodweddiadol o’i oes, mae hefyd yn rhoi cipdrem difyr ar yr ardal y pryd hynny.
Cyhoeddwyd erthyglau manwl am y gwahanol fröydd yn y papur newydd ''Papur Pawb'' ar ddechrau 1900. Isod gwelir yr hyn oedd gan y papur i’w ddweud am y dyffryn. Er i’r darn fod yn nodweddiadol o’i oes, mae hefyd yn rhoi cipdrem difyr ar yr ardal y pryd hynny.


===Daearyddiaeth===
===Daearyddiaeth===

Fersiwn yn ôl 19:43, 7 Tachwedd 2022

Pen ucha'r dyffryn o Nantlle, 1970

Dyffryn Nantlle heddiw

Dyffryn Nantlle yw prif ddyffryn Uwchgwyrfai. Mewn gwirionedd dyffryn yr Afon Llyfni ydyw, yn rhedeg o Ddrws-y-coed yn y dwyrain hyd aber Afon Llyfni ym Mhontlyfni. Mae'r rhan helaethaf o lawer o'r dyffryn o fewn ffiniau plwyf Llanllyfni, er bod rhai o'r mân afonydd sy'n bwydo Afon Llyfni'n llifo trwy rhan ogleddol plwyf Clynnog Fawr. Hefyd, hyd ail hanner yr 20g, roedd glannau gogleddol Afon Llyfni o Dal-y-sarn hyd pen ucha'r dyffryn ym mhlwyf Llandwrog.

Weithiau defnyddir y term "Dyffryn Nantlle" i gynnwys pentrefi megis Llandwrog, Rhostryfan, Rhosgadfan a Charmel ymysg pentrefi'r dyffryn ond, mewn gwirionedd, pentrefi yw'r rhain sydd â'u nentydd yn llifo i'r môr ger Y Foryd, ac felly mewn system arall o fân ddyffrynnoedd y maent yn sefyll mewn gwirionedd.

Heb os, prif bentref y dyffryn erbyn heddiw yw Pen-y-groes er nad oedd y fan honno'n bodoli cyn canol y 19g. Hen ganolfan y dyffryn oedd pentref Llanllyfni, lle cynhelid ffeiriau ac yno oedd yr unig eglwys yn y dyffryn ei hun.

Bu llawer o chwareli yn y dyffryn, yn cynnwys Chwarel Dorothea, Chwarel Pen-yr-orsedd a nifer helaeth o rai llai. Bu cloddio sylweddol am gopr hefyd yn Nrws-y-coed.

Rhed y ffordd B4418 trwy'r dyffryn ac ymlaen i Ryd-ddu; bu hon ar un adeg yn ffordd dyrpeg.

Dyffryn Nantlle ym 1900 (yn ôl Papur Pawb)

Cyhoeddwyd erthyglau manwl am y gwahanol fröydd yn y papur newydd Papur Pawb ar ddechrau 1900. Isod gwelir yr hyn oedd gan y papur i’w ddweud am y dyffryn. Er i’r darn fod yn nodweddiadol o’i oes, mae hefyd yn rhoi cipdrem difyr ar yr ardal y pryd hynny.

Daearyddiaeth

Chwareli llechi ydyw prif fywvd y lle; ac y mae y rhai hynny wedi eu datblygu gyda'r cyflymdra mwyaf, a'r dyffryn wedi ei lenwi o dai a phob adeiladau angenrheidiol mewn canlyniad. Mae y dyffryn erbyn hyn yn cynnwys pedwar o bentrefi poblogaidd, sef Pen-y-groes, Tal-y-sarn, Llanllyfni, a Nantlle. Llanllyfni ydyw yr hynaf, a Nantlle ydyw yr ieuengaf. Mae Pen-y-groes a Thal-y-sarn yn bentrefi mawrion a chynyddol, a bron wedi eu cysylltu yn un dref, ac yn cynnwys rhwng y ddau yn agos i bedair mil o drigolion.

Mae y dyffryn mewn ystyr ddaearyddol yn perthyn i ddau blwyf, sef Llanllyfni a Llandwrog. Mae y prif chwareli yn Llandwrog, ond mae yr adeiladau lle mae gweithwyr y cyfryw chwarelau yn byw yn mhlwyf Llanllyfni. Beth amser yn ôl, gwnaed cais am newid terfynau y plwyfi, a rhoddi y rhan sydd yn cynnwys y chwareli at blwyf Llanllyfni, fel y byddai trethi y chwareli yn mynd i ddarparu at draul y rhai sydd yn cynhyrchu eu cyfoeth ond aflwyddiant fu'r cais.

Chwareli llechi

Mae yn y dyffryn 14 o wahanol chwarelau. Cynhwysent rhyngddynt yn agos i dair mil o weithwyr. Mae poblogaeth plwyf Llanllyfni yn agos i chwe mil. Y chwarelau sydd yn gweithio yn bresennol ydynt: Cilgwyn, Pen-yr-orsedd, Pen-y-bryn, Dorothea, Chwarel Gallt-y-fedw, Tal-y-sarn, Blaen-y-cae, Cloddfa'r Coed a Choedmadog. Mae yr oll o'r rhai hyn ar yr ochr ogleddol i'r dyffryn. Ar yr ochr ddeheuol, mae Gwernor, Tŷ Mawr, Tŷ’n-y-weirglodd, Tan’rallt, Fronheulog, a Thyddyn Agnes. Mr Thomas Robinson, Tal-y-sarn Hall, sydd yn perchenogi chwarelau Blaen-y-cae, Tal-y-sarn, Cloddfa'r coed, a, Tan'rallt, fel olynydd ei dad parchus, Mr John Robinson, uchel siryf, yr hwn a fu farw yn ddiweddar. Triga Mr Thomas Robinson, yn Plas Tan'rallt, ac y mae yn fonheddwr cymeradwy iawn gan y gweithwyr.

Draenio Llyn Nantlle Isaf

Anturiaeth bwysicaf a mwyaf bendithfawr ei chanlyniadau ynglŷn â'r chwarelau sydd ar waelod y dyffryn oedd agoriad Afon Llyfni, a. sychu llyn isaf Nantlle. Yr oedd perchenogion y chwarelau wedi bod am dros dair blynedd yn ceisio cario allan yr anturiaeth, ond wedi methu yn hollol. Wrth weld fod amryw o'r chwarelau pwysicaf yn y dyffryn mewn perygl o gael eu gorlenwi â dŵr a bod dwy wedi eu gorlenwi, fe ymaflwyd yn yr achos gan bwyllgor wedi eu ddewis i weithredu dros y cyhoedd. Wedi ymdrech orchestol am dros dair blynedd, fe wnaed v gwaith, yr hwn gostiodd dros ddeng mil o bunnau.

Yn bresennol, mae y corsydd gwlybion, lleidiog ac afiachus oedd yn cyrraedd am filltir o ffordd ar waelod y dyffryn, wedi eu sychu, ac yn dechrau cael eu gwneud yn ddolydd gleision gwastad; a'r chwarelau oedd wedi eu llenwi â dŵr wedi eu sychu, ac yn gweithio gydag egni.

Addysg

Mae achos addysg wedi cael sylw arbennig gan y trigolion. Hanner can mlynedd yn ôl, nid oedd yma yr un ysgol dan nawdd y Llywodraeth; ac er fod eglwys y plwyf, sef Eglwys Sant Rhedyw, yn un o'r rhai hynaf yn y sir, ni bu yma yr un Ysgol Genedlaethol. Yn y flwyddyn 1862 yr adeiladwyd yr Ysgol Frytanaidd gyntaf, a hynny yn bennaf trwy anogaeth a chyfarwyddyd y diweddar Barch J. Phillips, Bangor. Ond erbyn hyn mae yma fwrdd ysgol wedi ei sefydlu er y flwyddyn 1871, ac y mae yma waith enfawr wedi ei wneud ynglŷn ag addysg er yr adeg honno. Mae yma bedair o ysgolion eang dan ofal y bwrdd, sef Pen-y-groes, Tal-y-sarn, Llanllyfni a Nebo. Hefyd, mae Bwrdd YsgoI Llandwrog wedi adeiladu ysgol helaeth yn Nantlle er y flwyddyn 1874. Mae yr arian a fenthyciwyd at yr adeiladau hyn yn cyrraedd y swm o fewn ychydig i £8000. Mae yn agos i 1200 o blant dan addysg, a gwneir ymdrech mawr gan y bwrdd i sicrhau effeithiolrwydd yr addysg.

Mor fuan ag y darfu i'r Senedd gadarnhau Trefniant Addysg Ganolraddol sir Gaernarfon, darfu i arweinwyr addysg yn y dyffryn symud ymlaen i gael ysgol ganolraddol yn y dosbarth, yn hytrach nag ymfodloni i anfon y plant i Gaernarfon. Yn haf 1894, darfu i bwyllgor llywodraethol y dosbarth (cadeirydd pa un ydoedd, ac ydyw, Mr W. A. Darbishire, Pen-yr- orsedd) roddi ar eu hysgrifennydd medrus a gweithgar (y Parch G. Ceidiog. Roberts) i gynnal cyfarfodydd yn mhob cymdogaeth, er cael gwybod teimlad a barn y trigolion parthed yr anturiaeth o adeiladu ysgol ganolradd. Cafwyd fod y mwyafrif mawr yn selog am gael ysgol. Erbyn hyn, mae yma adeiladau wedi eu codi ar lecyn dymunol yn agos i Ben-y-groes sydd yn addurn i'r cymdogaethau. Maent wedi costio yn agos i dair mil o bunnau.

Mae adeiladau i gynnal addysg gelfyddydol i gael eu hychwanegu atynt. Cyst yr ychwanegiad oddeutu £1500. Mae yn yr ysgol nifer o athrawon ymroddgar, sef y Mri D. R. Prydderch, B.A., J. H. Parkinson, B.A., Miss Ethel Hopkins, B.A., a Mr George Grant.

Mae dau fonheddwr ag y dylid crybwyll yn neilltuol am eu llafur gyda'r symudiad pwysig hwn, sef y cadeirydd gweithgar a, haelionus, Mr W.A. Darbishire, yr hwn a gyfrannodd gannoedd o bunnau ei hunan, ac a fu yn foddion i gasglu cannoedd eraill; hefyd, yr ysgrifenydd medrus ac ymroddgar, y Parch G. Ceidiog Roberts, Llanllyfni, yrhwn a weithiodd ddydd a nos, gan orchfygu pob rhwvstrau a dioddef pob sen, er mwyn cyrraedd yr amcan. Mae y gwaith a wnaeth bron yn anhvgoel, a hynny yn hollol o gariad ac ewyllys da.

Gwelir fod y trefniant addysg sydd yn y dyffryn wedi costio yn ddrud i'r rhai fu yn ei gario allan.

Crefydd

Mewn ystyr grefyddol, mae yma bob manteision a phob enwad wedi bod ar eu hegni yn estyn cortynnau eu pebyll. Yr Hen Gorff ydyw y cryfaf o lawer ond y mae yr enwadau eraill wedi cynyddu llawn gymaint ar gyfartaledd yn ystod yr hanner canrif diwethaf. Mae gan y Methodistiaid wyth o addoldai eang a drudfawr yn y dyffryn, sef Bethel, Pen-y-groes (gweinidog, Parch W. E. Williams); Saron, Pen-y-groes (heb fugail cyflogedig); Hyfrydle, Tal-y-sarn(heb fugail cyflogedig); Capel Tal-y-sarn (MC)]] (gweinidog, Parch William Williams); a Baladeulyn (gweinidog, Parch M. Williams). Maent yn adeiladu addoldy newydd fydd yn addurn i'r lle; Tan'rallt (heb fugail); Llanllyfni (gweinidog, y Parch G. Ceidiog Roberts); a Nebo (heb weinidog). Yn nesaf atynt mae yr Annibynwyr; mae ganddynt hwythau chwech o addoldai, sef Soar, Pen-y-groes, a Moriah, Llanllyfni, heb weinidog; Seion, Tal-y-sarn, heb weinidog; Cilgwyn a Drws-y-coed, heb weinidog; a Nazareth, gweinidog, Parch. R. Williams.

Mae gan y Bedyddwyr dri o addoldai, sef y fam eglwys Ebenezer, Llanllyfni (capel y diweddar R. Jones, Ochr-y-foel); Calfaria, Pen-y-groes (gweinidog, Parch J. J. Williams); a Salem, Tal-y-sarn (gweinidog, Parch J. Frimstone). Mae yr eglwys ddiwethaf wedi ymrannu, ac mae cangen ohoni wedi dechrau cynnal addoliad yn Ysgol y Bwrdd, Tal-y-sarn. Bwriadent adeiladu addoldy yn fuan. Mae gan y Wesleaid addoldy hardd yn Mhen-y-groes, ac un arall yn Nhal-y-sarn. Mae yr Eglwys Wladol wedi cynyddu llawer yn y dyffryn ragor y bu. Yr ydym yn cofio nad oedd ond saith o Eglwyswyr selog yn yr holl ddyffryn, a dim lle i addoli, ond yn hen Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni; ond yn bresennol, mae eglwysi yn Nhal-y-sarn a Phen-y-groes. Periglor y plwyf, yr hwn sydd yn Sant Rhedyw, ydyw y Parch Thomas Edwards (Gwynedd), yr hwn sydd yn ŵr poblogaidd a gweithgar. Y gweinidogion cynorthwyol ydynt Mr Hughes, Pen-y-groes, a Mr Hughes, Tal-y-sarn, dynion tawel ac ymdrechgar yn eu cylch.

Mae gan bob eglwys perthynol i bob enwad gymdeithasau lenyddol a dadleuol, lle y bydd yr ieuenctid yn cyfarfod i ddarllen papurau, areithio, dadleu, a chanu, ac y mae y rhai hyn yn gwneud lles mawr.

Mae Temlyddiaeth Dda yn flodeuog iawn yn Mhen-y-groes a Thal-y-sarn, ac wedi gwneud daioni mawr. Mae yn y dyffryn hefyd bwyllgor dirwestol, yn cynrychioli yr holl enwadau, ond yr Eglwys Sefydledig, er gwylio achos sobrwydd ac o dan eu nawdd hwynt y cynhelir Cymanfa Ddirwestol y Dyffryn.

Y Celfyddydau

Mae cerddoriaeth hefyd yn dra blodeuog yma, a chynhelir cymanfaoedd canu blynyddol.

Mae yma rai datgeiniaid o fri, megis A. Henderson, R. Lloyd, R. ac S. Jones, 11 a Mrs Henderson Jones, ac eraill.

Diau mai un o brif hynodion y dyffryn ydyw Seindorf Arian Frenhinol Nantlle, yr hon erbyn hyn ydyw yr enwocaf yn Nghymru. Maent wedi para yn eu henwogrwydd ers dros ddeg ar hugain o flynyddoedd, ac yn parhau i ymberffeithio yn ddiorffwys. Maent yn bresennol yn adeiladu hall [h.y. neuadd] gerddorol eang, er mwyn cael pob hwylustod i ymarfer gyda'u gilydd. Anfynych y gwelwyd band wedi cadw i fyny eu gymeriad cerddorol a moesol mor ddilychwin am gynifer o flynyddoedd.

Mae yma luaws o feirdd a llenorion, megis Croesfryn, Anant, Ioan Eifion, Alaw Llyfnwy, Pencerdd Llyfnwy, Hywel Cefni, Cyrus, ac eraill. Diau mai prif ddaearegwr y dyffryn ydyw Mr J. J. Evans. Mae hanes gwaith dŵr plwyf Llanllyfni wedi mynd bron o gylch y byd ond ni ddaeth y diwedd eto. Mae yma waith nwy at oleuo, ond un salw a thywyll ydyw a llefa pob llygaid am gael ohono ei olwg yn gliriach nag y mae gan y nwy ddaw o'r gwaith hwn.

Ffactorau negyddol

Dyna yr ochr olau i bethau. Mae yma ochr dywyll yn bod, ac wrth ysgrifennu hanes, dylem roddi trem ar honno hefyd.

Er yr holl gyfleusterau sydd yma i addoli ar y Sabothau, mae yma ddegau nad ydynt byth yn myned i le o addoliad. Er yr holl ymdrech o blaid byw yn sobr, mae yma lawer iawn o feddwi cyhoeddus. Mae ym Mhen-y-groes bump o dafarndai, pedwar yn mhentref bychan Llanllyfni, dau rhwng Pen-y-groes a Thal-y-sarn, ac un yn Nhal-y-sarn. Gwnaed ymdrech mawr flynyddoedd yn ôl i atal adnewyddu dwy o drwyddedau yn Llanllyfni, ond aflwyddiannus fu yr ymdrech, er fod wyth o bob deg o drigolion yr ardal yn gofyn am hynny.

Un o brif ddiffygion y dyffryn ydyw nad oes yma ystafell eang a chyfleus at gynnal cyfarfodydd cyhoeddus, megis cyngherddau, eisteddfodau lleol, &c. Nid ydyw yr un sydd yn Pen-y-groes yn werth ei galw yn "Assembly-room" o gwbl. Mae yn Nhal-y-sarn un ychydig yn well, ond mae honno yn gyfyng, bregus, ac anghyfleus.

Pen-y-groes ydyw canolbwynt y dyffryn, a bydd ei heolydd yn llawn o ymwelwyr bob nos Sadwrn. Ymwelir â'r lle yn barhaus gan y dosbarth sydd yn medru byw trwy sgil, ac nid trwy weithio. Bydd y begeriaid cyfrwysgall hyn yn dod yma yn yr haf mewn gwisgoedd gwynion, ac yn y gaeaf mewn crwyn duon, ond yn mhob gwedd yn llwyddo i gael rhan helaeth o logellau y gweithwyr ac eraill. .[1]


Cyfeiriadau

  1. Papur Pawb, 28.4.1900, tt.14-15 . Newidiwyd orgraff yr erthygl.