Ysgol Tal-y-sarn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ysgol addysg gynradd ym mhentref Tal-y-sarn yw Ysgol Gynradd Tal-y-sarn. Roedd ei gwreiddiau mewn ysgol ddyddiol a gychwynnwyd yn festri Capel Tal-y-sarn (MC) ym 1856, cyn bod ysgol ffurfiol wedi ei sefydlu. Y prif ysgogydd oedd un o flaenoriaid yr eglwys, y Parch. William Hughes, Hyfrydle wedyn. Ef hefyd oedd un o aelodau etholedig y Bwrdd Ysgol ac yn ysgrifennydd arno.[1]

Agorwyd yr ysgol o gwmpas 1857, ac mae'n agored hyd heddiw. Gelwid yr ysgol i ddechrau yn Talysarn British School tra oedd yn ysgol gymysg; aeth wedyn yn Talysarn Boys Board School ym 1877 pan agorwyd ysgol ar wahân i'r merched, sef Talysarn Girls Board School. Symudwyd y babanod oddi wrth y merched ym 1883 hefyd, ac agorwyd Talysarn Infants Board School. Unwyd yr Ysgol Gynradd ym 1904, gan ddysgu bechgyn a merched o dan yr unto drachefn.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.324
  2. Llyfrau Log Ysgol Gynradd Talysarn (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) XES1/23 [1863-1939]