Capel Hyfrydle (MC), Tal-y-sarn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sefydlwyd cangen-eglwys Hyfrydle fel cangen o Capel Tal-y-sarn (MC), y Capel Mawr, ym 1866, ar ôl i'r gynulleidfa yno deimlo fod eu capel yn mynd yn rhy fach - cofied mai'r ail gapel â seddau i 350 yn unig oedd yno ar y pryd. Hefyd, teimlid yr angen am achos Calfinaidd yn agosach at ben gorllewinol y pentref ger man a elwid y Creigiau Mawr lle 'roedd mwy o dai'n cael eu codi ar y pryd. Aeth y Parch. William Hughes, prif ysgogydd y cynllun, â 60 o aelodau'r Capel Mawr fel aelodaeth gychwynnol - er na phenodwyd William Hughes yn weinidog swyddogol yno tan 1876. Rhoddodd y Capel Mawr hefyd £300 at sefydlu'r capel newydd.

Roedd y capel eisoes wedi ei godi dros y ddwy flynedd flaenorol, ar gost (yn cynnwys y tŷ capel) o £1520. Fe'i hagorwyd 4 Tachwedd 1866, gyda seddau ar gyfer 410. Ar y dechrau nid oedd llofft neu galeri yn y capel a chwynid am adsain - dywedwyd na ellid cael y gair olaf gan bregethwr! O'r dechrau roedd yno aelodaeth a chynulleidfa deilwng iawn: 81 o aelodau, 51 o blant a 250 o wrandawyr. Yn yr ysgol Sul, roedd 21 o athrawon a 120 o ddisgyblion o bob oed.

Ym 1879, ail-wnaed llawr y capel a gosodwyd llofft ynddo, ar gost o oddeutu £100. Erbyn hynny, roedd 167 o aelodau. Cafodd y capel golled trwy farwolaeth y gweinidog, William Hughes, ddiwedd y flwyddyn, a rhaid oedd aros tan 1885 i sicrhau gweinidog arall, sef y Parch David Jones, yn wreiddiol o Lanllyfni, a arhosodd hyd 1889.

Ym 1893, symudodd Hugh Menander Jones o gapel Carmel i Hyfrydle.

Yn ystod yr 1880au a'r 90au amrywiai'r aelodaeth o 207 i 155. Ym 1900, roedd wedi codi ychydig i 199.[1]

Mae Hyfrydle wedi cau fel capel y Methodistiaid ers tua 1983.Mae cofnodion yr achos yn Archifdy Caernarfon. (XM6301).[2] Mae'n dal i sefyll ac wedi cael ei ddefnyddio fel canolfan Gristionogol tan yn ddiweddar, cyn cael ei droi'n fflatiau gan Dai Gogledd Cymru yn 2019.[3]. Bu bwriad tua 2008 i'w ddefnyddio fel cartref i rai a oedd wedi bod yn gaeth i gyffuriau, ond ni ddaeth dim o'r awgrym.[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Seiliwyd yr erthygl hon yn bennaf ar W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt. 201, 322-7
  2. https://discovery.nationalarchives.gov.uk/details/c/F124634
  3. Facebook, [1], cyrchwyd 6.4.2020
  4. Daily Post, 21 Awst 2008 [2] cyrchwyd 6.4.2020