Capel Soar (A), Pen-y-groes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Capel Annibynnol ym mhentref Pen-y-groes yw Capel Soar, Pen-y-groes.

Adeiladwyd y capel tua 1836 ar Stryd Fawr, Pen-y-groes. Y pensaer oedd Thomas Thomas, Glandŵr, sef y sawl a gynlluniodd Capel Saron (A), Llanwnda hefyd.

Ym 1846-7, roedd 28 o ddisgyblion dan 15 oed yn yr ysgol Sul, a 31 dros yr oedran hwnnw.[1]

Tynnwyd y capel i lawr yn yr 1980au, a bellach mae'r gwasanaethau'n cael eu cynnal yn y festri.[2].

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Llyfrau Gleision, sef Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales Atodiad i Gyf.III (Llundain,1847), tt.274-282
  2. Cofnod o'r Capel yma ar wefan y Comisiwn Brenhinol