Hafan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 59: Llinell 59:
==Enwau lleoedd==
==Enwau lleoedd==


[[Delwedd:Uwchgwyrfai o Fwlch yr Eifl.JPG|bawd|300px|chwith|Uwchgwyrfai o Fwlch yr Eifl]]
[[Delwedd:Uwchgwyrfai o Fwlch yr Eifl.JPG|bawd|270px|chwith|Uwchgwyrfai o Fwlch yr Eifl]]


Cymraeg yw iaith gwefan '''Cof y Cwmwd''' ac felly defnyddir yr enw Cymraeg bob tro, boed y lle yng Nghymru neu'n rhywle arall - a bwrw bod enw Cymraeg ar gael, e.e. "Lerpwl".  
Cymraeg yw iaith gwefan '''Cof y Cwmwd''' ac felly defnyddir yr enw Cymraeg bob tro, boed y lle yng Nghymru neu'n rhywle arall - a bwrw bod enw Cymraeg ar gael, e.e. "Lerpwl".  

Fersiwn yn ôl 17:47, 2 Awst 2018

Cof y Cwmwd


WEDI CYRRAEDD Y 450 - YN AWR AM Y 500!

Mae'r prosiect bellach wedi hen basio'r nod cychwynnol o 400 erthygl
Beth am ein helpu i gyrraedd nod newydd - 500 erthygl! Mae'n hawdd iawn ychwanegu erthygl newydd sbon - neu ychwanegu at erthygl sydd eisoes wedi ei chychwyn. Angen Syniadau am destun? Cliciwch Yma

Cyflwyniad

Uwchgwyrfai
Uwchgwyrfai

Croeso i Cof y Cwmwd. Mae'n gweithio'n debyg iawn i Wicipedia. Mae Cof y Cwmwd yn ymdrin ag ardal yr hen gwmwd, gan gadw at yr hen ffiniau canoloesol - sef plwyfi hanesyddol Clynnog Fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda. Mae hyn yn cynnwys Dyffryn Nantlle i gyd bron hyd at Ryd-ddu ac wedyn ar hyd yr afon Gwyrfai o Ryd-ddu trwy'r Bontnewydd ac at y môr.

Ein nod yw cyflwyno gwir hanes ein cenedl i bobl Uwchgwyrfai a Chymru gyfan, a hynny gyda help unrhyw un sydd am ymuno yn y gwaith. Hawdd iawn yw ychwnegu ffeithiau at erthygl, neu greu erthygl o'r newydd, ac rydym yn eich gwahodd yn gynnes iawn i wneud hynny.

Cewch fwy o wybodaeth am Cof y Cwmwd wrth glicio yma.

Sut i ddarllen erthygl neu ganfod ffeithiau

Defnyddiwch y blwch Chwilio ar ben y sgrîn hon, ar y dde - neu gliciwch Holl gategorïau ar y rhestr ar y chwith i weld pa gategorïau o bynciau sydd ar gael. Os gwelwch eiriau lliw glas rhywle ar y wefan hon, gallwch gliciwch arnynt ac mi ewch yn syth at yr erthygl berthnasol.

Os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano, cliciwch yma i ganfod dolennau at wefanau eraill all fod o ddefnydd i chi.

Erthyglau newydd

Uwchgwyrfai o Rosgadfan
  1. David Williams, Fern Villa
  2. Y Bryn
  3. Y Bryn, Llanwnda
  4. Cae Sais, Llanwnda
  5. Fern Villa
  6. Fern Villa, Llanwnda
  7. Bryn Crach
  8. Pwll tywod
  9. Tan-y-cefn
  10. Tan-cefn

Cyfanswm: 1,777 erthygl

Sut i ychwanegu gwybodaeth

Gwefan gydweithredol yw Cof y Cwmwd a chaiff bawb gyfrannu ati.

Mae'n hawdd i chi ychwanegu ffeithiau at erthygl neu ysgrifennu erthygl ar bwnc newydd, ac mae arnom wir angen eich cyfraniadau er mwyn sicrhau y bydd Cof y Cwmwd yn cynnwys pob elfen o hanes Cwmwd Uwchgwyrfai. Peidiwch â meddwl bod eraill yn gwybod mwy na chi am eich ardal. Cyflwynwch eich gwybodaeth; dyna sut y daw ffeithiau newydd i'r golwg. Am fwy o wybodaeth am gyfrannu erthygl neu ychwanegu/cywiro ffeithiau, cliciwch yma, neu ddilyn y Wers Ddau Funud isod.

Yn fwy na dim, mentrwch! Ni ellir gwneud dim i'r wefan nad yw'n bosibl ei wrthdroi. Felly, allwch chi ddim gwneud stomp o bethau .

Angen syniadau am erthygl? Cliciwch ar unrhyw eiriau coch yn y testun.

GWERS DDAU FUNUD

1. Os ydych yn darllen erthygl, cliciwch y tab Golygu ar ben yr erthygl i ychwanegu/newid rhywbeth. Os byddwch am greu erthygl newydd, cliciwch ar unrhyw ddolen goch.

2. Os ydych wedi clicio tab Golygu, bydd bocs gyda print gwahanol yn agor. Os am greu erthygl newydd, cliciwch ddolen goch mewn erthygl neu yn y canlyniadau Chwilio. Bydd bocs gwag yn agor. Ysgrifennwch beth bynnag y dymunwch ei ddweud.

3. Gwiriwch eich cyfraniad trwy glicio fotwm Dangos rhagolwg ar waelod y dudalen. Wedyn, cliciwch fotwm Cadw'r holl newidiadau i gadw'ch cyfraniad.

4. Mae modd i chi gael hyd i gymorth ar ochr chwith pob tudalen. Bydd rhywun arall yn gwirio'ch erthygl felly peidiwch â phryderu am fanylion bach teipio ac ati.

Enwau lleoedd

Uwchgwyrfai o Fwlch yr Eifl

Cymraeg yw iaith gwefan Cof y Cwmwd ac felly defnyddir yr enw Cymraeg bob tro, boed y lle yng Nghymru neu'n rhywle arall - a bwrw bod enw Cymraeg ar gael, e.e. "Lerpwl".

Mae rhai enwau lleol yn cael eu sillafu mewn sawl ffordd, a rhaid oedd penderfynu ar y sillafiad y byddwn yn ei ddefnyddio, er mwyn i fynegai'r safle weithio'n iawn. Dyma'r ffurfiau sy'n cael eu defnyddio yng Nghof y Cwmwd: Bethesda Bach; Bwlchderwin; Clynnog Fawr; Drws-y-coed; Glan-rhyd; Gurn Goch; Isgwyrfai; Maestryfan; Pant-glas; Pen-y-groes; Pontlyfni; Rhosgadfan; Rhos-isaf; Rhostryfan; Rhyd-ddu; Tal-y-sarn; Tan'rallt; Tai Lôn; Tŷ'nlôn; Uwchgwyrfai; Y Bontnewydd; Y Fron; Y Groeslon.




Iaith Cof y Cwmwd

Ffynhonnell o wybodaeth Gymraeg ei hiaith yw Cof y Cwmwd. Mae erthyglau Cymraeg am rai elfennau o hanes Uwchgwyrfai ar gael hefyd ar Wicipedia Cymraeg - ac wrth gwrs mewn ieithoedd eraill ar Wikipedia. Cofiwch hefyd fod modd i ffrindiau di-Gymraeg fentro cael cyfieithiad (o ryw fath!) o erthyglau Cof y Cwmwd trwy ddefnyddio Google Translate.

Canolfan Hanes Uwchgwyrfai

Dyma'r ganolfan yng nghwmwd Uwchgwyrfai sy’n costrelu dyheadau a hanes ardal sy’n enwog am ei chyfraniad addysgol, diwylliannol a chrefyddol. Dyma’n wir bwerdy bro. Lleolir y Ganolfan yn hen ysgoldy Eben Fardd yng Nghlynnog Fawr yn Arfon.

Elusen gofrestredig yw Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Ymysg y gweithgareddau, trefnir darlithoedd bob mis ac ar ddyddiau coffa ein cenedl; cynhelir ysgolion undydd i ledaenu ein gwir hanes ac arddangosfeydd achlysurol; cynhelir clwb darllen misol; a chyhoeddir cylchgrawn sain, yr Utgorn, bob chwarter sy'n ymdrin â phynciau hanesyddol a diwylliannol, ac a ddosberthir i danysgrifwyr. Caiff y deillion ei dderbyn am ddim ond iddynt wneud cais. Yng nghefn y ganolfan ceir gardd draddodiadol Gymreig y mae rhai o'r aelodau'n edrych ar ei hôl.

Ewch i brif wefan Canolfan Hanes Uwchgwyrfai am fanylion llawn a'r newyddion diweddaraf.

A oes gennych sylwadau?

Mae modd rhoi sylwadau am unrhyw dudalen trwy ddefnyddio'r botwm Sgwrs ar ben erthygl (mae un ar dop y dudalen hon, er enghraifft). Ond os yw'n well gennych anfon e-bost, gallwch gysylltu â rheolwyr Cof y Cwmwd trwy yrru e-bost at wiciuwchgwyrfai@talktalk.net .