Crefftwyr a Masnachwyr Uwchgwyrfai, 1868: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) |
||
| Llinell 61: | Llinell 61: | ||
'''Oriadurwyr a gwneuthurwyr clociau''': John Thomas | '''Oriadurwyr a gwneuthurwyr clociau''': John Thomas | ||
'''Siopwyr a masnachwyr bwyd a nwyddau amrywiol''': Thomas Griffith; David Owen; John Roberts; Robert Williams; Thomas Williams | '''Siopwyr a masnachwyr bwyd a nwyddau amrywiol''': Thomas Griffith; David Owen; John Roberts; Robert Williams; Thomas Williams | ||
'''Tafarnwyr''': John Griffith, [[Tafarn y | '''Tafarnwyr''': John Griffith, [[Tafarn y Brynkir Arms|Bryncir Arms]]; Edward Griffith, [[Tafarn Sign Horse]]; Robert Hughes, [[Tafarn y Stag, Pen-y-groes|Tafarn y Stag’s Head]] | ||
'''Teilwriaid''': Eliezar Hughes; Hugh Hughes; Richard Williams (hefyd yn ddilledydd) | '''Teilwriaid''': Eliezar Hughes; Hugh Hughes; Richard Williams (hefyd yn ddilledydd) | ||
'''Torwyr cerrig a masnachwyr llechi''': David Roberts | '''Torwyr cerrig a masnachwyr llechi''': David Roberts | ||
===[[Tal-y-sarn]]=== | ===[[Tal-y-sarn]]=== | ||
Sylwer mai Nantlle oedd yr enw a ddefnyddid gan Slater am y pentref hwn ym 1868, yn hytrach na’r pentref a adwaenir heddiw fel [[Nantlle]]. | Sylwer mai Nantlle oedd yr enw a ddefnyddid gan Slater am y pentref hwn ym 1868, yn hytrach na’r pentref a adwaenir heddiw fel [[Nantlle]]. | ||
Golygiad diweddaraf yn ôl 13:49, 3 Rhagfyr 2025
Isod gwelir rhestr Crefftwyr a Masnachwyr yn Uwchgwyrfai a godwyd o Gyfarwyddiadur Masnach Slater, 1868 sydd yn rhoi syniad o'r ystod o alwedigaethau a busnesau, ar wahân i chwarelydda ac amaethu, a oedd yn bodoli yn y cwmwd tua 150 o flynyddoedd yn ôl.
Mae ar bob cymuned angen ei masnachwyr a'i chrefftwyr er mwyn i bobl fedru cael yr angenrheidiau hynny nad oes modd eu cynhyrchu gartref. Bu crefftwyr, megis gofaint a chryddion, i'w cael ers canrifoedd yn Uwchgwyrfai, ac er bod angen teithio i’r dref agosaf neu ddisgwyl am y ffair leol achlysurol i brynu amryw o nwyddau fel rheol, yr oedd nifer o bedleriaid neu werthwyr teithiol yn galw o bryd i’w gilydd – ac roedd tafarnau wedi bod yn nodwedd o’r ardal ers yr Oesoedd Canol.
Cyflwyniad i’r testun
Erbyn y 19g., fodd bynnag, a diwydiant a phoblogaeth y fro’n cynyddu, dechreuodd mwy o fân bobl fusnes weithredu’n lleol er mwyn diwallu anghenion gweithwyr lleol, a oedd â mwy o arian yn eu pocedi a heb nac amser na thir i gynhyrchu bwyd, dillad, offer ac angenrheidiau eraill bywyd.
Nid hawdd yw cael darlun cyflawn, er bod digon o gyfeiriadau at alwedigaethau yn nogfennau’r Cyfrifiad o 1841 ymlaen, a cheir llawer o gyfeiriadau unigol at y bobl hyn mewn dogfennau a llyfrau o bob math. Er mwyn cael darlun gwell, fodd bynnag, rhaid troi at y cyfarwyddiaduron masnach, sef rhestrau honedig gyflawn o holl fasnachwyr a phobl busnes yr ardal. Y pennaf o’r rhai hyn oedd Cyfarwyddiadur Slater, ond prin bod sôn am bentrefi Dyffryn Nantlle yn yr argraffiad a gyhoeddwyd ym 1859, er bod rhestr lawn o fusnesau Caernarfon a’r fro ynddo yn ôl y sawl a'i lluniodd. Dyma, mae'n debyg, adlewyrchiad o’r ffaith mai ardal a oedd ond yn dechrau ymrymuso’n fasnachol oedd y cwmwd a’i bentrefi. O’r rhifyn nesaf ymlaen o Gyfarwyddiadur Slater, dyddiedig 1868, fodd bynnag, ceir manylion am lawer o fusnesau yn Uwchgwyrfai dan benawdau Caernarfon a Nefyn. Rhaid oedd disgwyl am flynyddoedd wedyn cyn cael llyfr Slater a oedd yn cynnwys adran a oedd yn sôn yn benodol am Ben-y-groes a’r dyffryn ehangach.
Dylid nodi, fodd bynnag, nad oedd pob busnes na phob crefftwr wedi eu cynnwys gan Slater. Wrth ddarllen am fanylion Cyfrifiad 1871, mae cryn wahaniaeth i'w weld yn y galwedigaethau a nodir; er enghraifft, ni restrir yr un cigydd ym Mhen-y-groes gan Slater ym 1868, ond yr oedd o leiaf ddau yno ym 1871 - a byddai'n anodd dychmygu unrhyw bentref heb werthwr cig lleol o ryw fath.[1] Mae rhywfaint o anghysondeb yn y categorïau y rhestrir enwau o danynt, ac mae'n debyg mai dibynnu ar ohebyddion lleol oedd y cyhoeddwyr, a'r gohebyddion hynny efallai ond yn cynnwys rhai enwau, yn ddibynnol ar eu gwybodaeth leol - neu efallai rhaid oedd talu tâl bychan i gael eich cynnwys yn y rhestr.
Pobl busnes Uwchgwyrfai ym 1868
Isod, mae rhestr o’r busnesau a nodir yn rhifyn 1868 o Slater dan benawdau Caernarfon [2] a Nefyn [3] ond sydd yn cyfeirio at Uwchgwyrfai. Yn y llyfr hwnnw, trefnir busnesau dan is-benawdau yn unol â’u natur (sef cigyddion, groseriaid, gofaint ac ati) ond yma ad-drefnwyd y manylion a gopïwyd a’u gosod yn unol â’r pentrefi er mwyn gweld ym mha bentrefi a phlwyfi yr oedd y prif ganolfannau busnes.
Clynnog Fawr
Groseriaid: Solomon Jones; William Roberts Gwestai: Richard Edwards, Newborough Arms Llieinwerthwyr a dilladyddion: Solomon Jones; William Roberts Perchnogion Cerbydau i deithwyr (“Coach and Car Proprietors”): Richard Edwards Tafarnwyr: John Evans, New Inn; Robert Evans, Tafarn y Sportsman, Gurn Goch; John Davis, Tafarn Ty Isaf
Llanaelhaearn
Asiantwyr mwyngloddio:David Lambert, Nant House Cryddion:Thomas Morgan Edwards; John Hughes; Evan Williams Gofaint: Richard Davies Groseriaid, Dilladwyr a Masnachwyr nwyddau amrywiol: Richard Hughes; Griffith Humphrey; John Williams; William Williams Melinwyr: John Hughes, Melin Penllechog Seiri:William Jones; Jacob Williams Teilwriaid: William Davies Tafarnwyr: Richard Hughes, Tafarn y Rivals; Catherine Jones, Tafarn Tyddyn Drain
Llandwrog
Sylwer nad oedd unrhyw grefftwyr na phobl fusnes wedi eu rhestru yn y plwyf hwn, nac mewn pentrefi yn y plwyf megis Y Fron a Charmel, ar wahân i dafarnwyr y Groeslon a melinydd Melin Forgan, serch bod gwaith megis Ffatri Tryfan a sawl siop wedi eu hen sefydlu o fewn ffiniau'r plwyf.
Llanllyfni
Seiri ac Adeiladwyr: Owen Owen Cryddion: John Parry Gofaint: Owen Thomas; Owen Williams, Y Berth Groseriaid: Thomas Jones; Owen Williams; William M. Williams Llieinwerthwyr a dilledyddion: Hugh Jones; John Roberts Llyfrwerthwyr: William Jones Melinwyr: Robert Roberts Siopwyr a masnachwyr bwyd a nwyddau amrywiol: Robert Roberts Tafarnwyr: Mary Edwards, Barmouth Arms; Robert H. Jones, Tafarn y Ffort; Griffith Jones, Tafarn y King's Head; John Roberts, Tafarn y Machine; Owen Roberts, Tafarn y Quarryman’s Arms; Thomas Owen, Tafarn y Wellington Teilwriaid: John Williams (hefyd yn ddilledydd)
Llanwnda
Gwneuthurwyr llechi ysgrifennu: Bezaleel Jones Siopwyr a masnachwyr bwyd a nwyddau amrywiol: R. Thomas; R.J. Thomas, Dolydd Tafarnwyr: Ellis Roberts, Tafarn y Mount Pleasant
Pant-glas
Tafarnwyr: Harry Jones, Railway Inn
Pen-y-groes
Cryddion : Robert Owen; Thomas Pritchard Cynhyrchwyr defnyddiau gwlân: Morris Owen Fferyllwyr: Hugh Williams Gofaint: William Davies Groseriaid: Robert Evans; Owen Roberts Gwerthwyr cwrw: Ann Roberts Gwneuthurwyr a gwerthwyr dillad merched: .... Gordon; Mary Parry Gwneuthurwyr llechi ysgrifennu: Thomas Lloyd Jones; John Williams Haearnwerthwyr: Owen Roberts Llawfeddygon: Evan Roberts; John Williams, M.D. Llawfeddygon anifeiliaid: Hugh Jones, Gelli Bach Llieinwerthwyr a dilledyddion: William Daniel O’Brien; Owen Roberts Llyfrwerthwyr: Griffith Lewis Meddygon esgyrn: Richard Evans; Thomas Evans Oriadurwyr a gwneuthurwyr clociau: John Thomas Siopwyr a masnachwyr bwyd a nwyddau amrywiol: Thomas Griffith; David Owen; John Roberts; Robert Williams; Thomas Williams Tafarnwyr: John Griffith, Bryncir Arms; Edward Griffith, Tafarn Sign Horse; Robert Hughes, Tafarn y Stag’s Head Teilwriaid: Eliezar Hughes; Hugh Hughes; Richard Williams (hefyd yn ddilledydd) Torwyr cerrig a masnachwyr llechi: David Roberts
Tal-y-sarn
Sylwer mai Nantlle oedd yr enw a ddefnyddid gan Slater am y pentref hwn ym 1868, yn hytrach na’r pentref a adwaenir heddiw fel Nantlle.
Groseriaid: Evan Evans; Ellis Hughes, Tŷ’n-y-weirglodd (ger Gwernor); Thomas Roberts Gwestai: Hugh Williams, Commercial Inn Tafarnwyr: Robert Griffith, Tafarn yr Half Way Teilwriaid: E. Jones; Owen Jones
Trefor
Rhestrir yr isod dan "Trefor Row, Llanaelhaearn".
Cryddion: William Thomas Groseriaid, Dilladwyr a Masnachwyr nwyddau amrywiol: Robert Hughes
Y Bontnewydd
Cynhwysir yma’r holl bobl fusnes a restrir dan “Pont Newydd” (i ddilyn sillafiad Slater), gan y byddai’r bobl hyn yn gwasanaethu’r ddau hanner o’r pentref o bobtu Afon Gwyrfai er nad oedd ond y rhan ddeheuol yn Uwchgwyrfai.
Bragyddion: Ellen Ellis; William Thomas Cryddion: David Roberts Cynhyrchwyr winsi: Daniel Jones; Benjamin Owen Gofaint: Robert Roberts, Llwyn Beuno; Henry Williams, Llwyn Beuno Llieinwerthwyr a dilledyddion: Griffith Roberts Melinwyr: John Lloyd Jones Seiri ac Adeiladwyr’: Robert Roberts Siopwyr a masnachwyr bwyd a nwyddau amrywiol: Morris Parry; Owen Parry; Henry Williams; William Williams Tafarnwyr: Ellen Ellis, Black Lion; Hugh Hughes, Butchers’ Arms; Evan Hughes, Newborough Arms Teilwriaid: Richard Jones
Y Groeslon
Melinwyr: Robert Jones, Melin Forgan, Y Groeslon Tafarnwyr: Cornelius Peters, Grugan Arms, Y Groeslon; Owen Williams, Tafarn y Llanfair Arms, Y Groeslon; John Huxley, Dolydd Arms, Dolydd
Cyfeiriadau
- ↑ Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1871
- ↑ Slater's Directory of Gloucestershire, Herefordshire, Monmouthshire, Shropshire and Wales, 1868 (Manceinion a Llundain, 1868) tt.581-8, ar gael ar y Wê ar Wefan University of Leicester Special Collections On-line [1], cyrchwyd 21.10.2025
- ↑ Slater, op.cit., tt.664-5