Tafarn y Mount Pleasant
Roedd hen dafarn y Mount Pleasant yn sefyll ar ochr y ffordd fawr ar gornel y ffordd sy'n rhedeg o'r briffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli i gyfeiriad Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda. Roedd yn cael ei redeg fel rhan o fferm o'r un enw, a oedd yn eiddo i Ystad y Faenol adeg y Map Degwm, 1840. Hen enw'r Mount Pleasant ar lafar gwlad oedd y "Ring" - enw cyffredin ar dafarnau. Llurguniad o "Yr Inn" yw'r enw ""Ring".
Cymerodd un William Williams y denantiaeth ym 1825, gan gynnig "Swper Cynhesu'r Tŷ" i'w ddarpar-gwsmeriaid; gweler yr hysbyseb a welwyd yn y wasg:
LLANWNDA MOUNT PLEASANT INN. WILLIAM WILLIAMS (late of Llanwnda) anxiously hopes by paying every attention in his power to the accommodation and comforts of such persons as may frequent his house, to merit a continuance of that patronage and support which he has heretofore so kindly experienced, begs leave respectfully to inform his friends and the public, that a HOUSE. WARMING DINNER on his entering upon the above Establishment, will take place on TUESDAY the third of May next, when he will esteem the company of his well-wishers a great favour. Dinner on the Table precisely at three o'clock. Llanwnda, April 27, 1823[1]
Mae'n amlwg o'r uchod bod William Williams wedi bod yn cadw tafarn arall yn y plwyf,, sef (mae'n bosibl) gerllaw'r Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda.
Mae'n debyg i'r dafarn gael ei defnyddio'n fynych fel canolfan i'r plwyf: er enghraifft, trefnwyd cyfarfodydd i gasglu'r arian degwm yno ym 1843.[2]. Mae'r lloc, neu gae pori bychan i anifeiliaid, gyferbyn â'r hen adeilad yn dal i dystio i'w hen hanes, gan fod hynny'n nodwedd i lawer i hen dafarn ochr lôn ar adeg pan oedd teithio'n araf a cheffylau a theithwyr angen lluniaeth. Ar y Map Degwm (1840), dangosir fod nifer o gaeau'n perthyn i'r lle, yn cynnwys yr un ar draws y ffordd i'r hen dafarn, a'r cae lle codwyd yr adeilad newydd ymhen amser.
Codwyd tafarn newydd gerllaw, sef Tafarn y Blue Lion a stopiwyd cadw tafarn yn adeilad y Mount Pleasant, a ddefnyddid bellach fel ffermdy yn unig nes ei droi'n ficerdyu. Roedd yn adeilad newydd yn un hynod; y tu mewn yn y bar roedd ffenestr hanner crwm rhwng y bar a'r fynedfa'n rhoi'r argraff o adeilad hynafol. Codwyd y dafarn rywbryd ar ôl 1840[3]. Arferid yr enw Blue Lion ar gyfer yr adeilad newydd nes i'r ficerdy symud i hen adeilad Mount Pleasant, pan drosglwyddwyd yr enw i'r Blue Lion yn ôl pob tebyg. Yn sicr, roedd y Blue Lion wedi ei hail-enwi tua'r adeg y digwyddodd hynny.[4]
Yr oedd ffermwr y Mount Pleasant a thafarnwr y Blue Lion, dyn o'r enw William Williams, yn cadw'r dafarn tua 1834-c.1854[5]. Priododd Anne Williams o'r Bontnewydd, 22 Hydref 1834.[6]Rhaid tybio mai'r un un yw'r William Williams hwn a'r sawl a gymerodd y drwydded ym 1825.Roedd am ymestyn ei fusnes trwy rentu tai eraill a'u gosod fel tai tafarn yn yr ardal.[7] Yno hefyd y cynhelid arwerthiannau anifeiliaid, mor ddiweddar â 1914.[8]
Rhwng 1881 a 1911 os nad wedyn, tafarnwr y Mount Pleasant oedd Owen Jones, gŵr o Fodffordd a aned tua 1844. Rhannodd ei waith rhwng cadw'r dafarn a ffermio.[9]
Caewyd y Mount Pleasant fel tafarn tua'r flwyddyn 2003 ac fe'i gwerthwyd i deulu a drodd yr adeilad yn fwyty Bangali. Ail-ffurfiwyd tu mewn i'r adeilad gan y perchnogion newydd a chollwyd yr holl nodweddion hynafol. Caewyd y bwyty tua 2014, ac mae wedi ei ddymchwel. Disgwylir (2020) i'r safle gael ei ddefnyddio i godi tai.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ North Wales Gazette, 28.4.1825, t.2
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2/20308
- ↑ Mae'r dafarn yn cael ei dangos yn ei hen leoliad ar y Map Degwm
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1841-1881
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2/6564
- ↑ North Wales Chronicle, 28.10.1834, t.2
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2/18129, 18354
- ↑ Herald Cymraeg, 31.3.1914
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1881-1911