Melin Penllechog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Safai Melin Penllechog ar gyrion pentref Llanaelhaearn. Melin at ddiben malu grawn ydoedd.[1] Mae'r adeilad yn dal yno, ar y llethr yr ochr chwith i'r briffordd wrth i rywun deithio ar hyd yr A499 i gyfeiriad Pwllheli, ger yr arwydd 30mya. Ym 1891, Hugh Roberts, gŵr 30 oed o Aber-erch, oedd y melinydd, ac roedd yn ffermio hefyd. Dylid nodi, serch ei fod yn ffermio tir y felin, fod fferm Penllechog ei hun yn cael ei ffermio gan rywun arall, sef Rowland Prichard.[2] Roedd y teulu'n dal yno ym 1911, gyda Hugh Roberts yn ffermio'r tir ond erbyn hynny (a'r felin yn dal i droi), Hugh Roberts, y mab, oedd yn gweithio fel y melinydd.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Map 25" i'r filltir, Arolwg Ordnans, gol.1899
  2. Cyfrifiad plwyf Llanaelhaearn, 1891
  3. Cyfrifiad plwyf Llanaelhaearn, 1911